xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Erthygl 3(3)
Erthygl 3
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Gweithgaredd | Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny | Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar ôl 30 Tachwedd 2023 |
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 o funudau o amser arolygu. | 318 | 379 |
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 90 o funudau o amser arolygu. | 550 | 685 |
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fel canolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol cynnal un ymweliad arolygu yn unig er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygu. | 279 | 340 |
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fel canolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol felly cynnal dau ymweliad arolygu er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 75 o funudau o amser arolygu. | 414 | 486 |
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Gweithgaredd | Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny | Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar ôl 30 Tachwedd 2023 |
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. | 175 | 236 |
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 o funudau o amser arolygu. | 327 | 408 |
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu nad yw ymweliad arolygu yn ofynnol. | 130 | 168 |
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. | 141 | 171 |
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod mwy nag ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. | 193 | 229 |
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Gweithgaredd | Ffi (£) am ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny | Ffi (£) am ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar ôl 30 Tachwedd 2023 |
Ymweliad milfeddygol ychwanegol at ddiben ystyried cais am drwydded, adnewyddu trwydded yn flynyddol neu ymweliad dilynol yn sgil peidio â chydymffurfio, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw. | 246 | 318 |
Ymweliad milfeddygol at ddiben ystyried cais am newid gweithredol yn ystod y flwyddyn, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw. | 246 | 318 |
Tâl atodol ar unrhyw ymweliad pan fo’r amser arolygu milfeddygol yn hwy na’r amser penodedig a ddarperir yn yr Atodlen hon. | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
Yr amser a dreulir gan arolygydd milfeddygol yn teithio i’r fangre drwyddedig, neu’r fangre y bwriedir ei thrwyddedu, ac oddi yno, at ddiben gweithgareddau trwyddedu nad ydynt wedi eu heithrio rhag ffioedd o dan erthygl 3(4) o’r Gorchymyn hwn. | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o 132 | 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o 132” |