xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
12.—(1) Caiff y ceisydd wneud sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad hysbysedig o dan reoliad 7(2) neu 11(2).
(2) Caniateir pennu ar ba ffurf ac ym mha fodd y mae rhaid gwneud sylwadau, gan gynnwys y dogfennau neu’r wybodaeth arall sy’n ofynnol, a’r terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am eu penderfyniad yn dilyn sylwadau a wneir o dan baragraff (1).