xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
13 Mehefin 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 84(2), (3) a (4) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant neu ddisgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—
mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu
gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312(1) o Ddeddf 1996(2);
mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 2 o Ddeddf 2018;
ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 12” (“year 12”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 17 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 13” (“year 13”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 18 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Medi;
ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;
ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2018;
mae i “darpariaeth anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs provision” yn adran 312(4) o Ddeddf 1996(3);
mae i “darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“provider of funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(2)(a) o Ddeddf 2021;
ystyr “datganiad anghenion addysgol arbennig” (“statement of special educational needs”) yw datganiad o fewn ystyr adran 324 o Ddeddf 1996(4);
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(5);
ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(6);
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996(7);
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant neu ddisgyblion mewn lleoliad y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn academaidd benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
ystyr “lleoliad” (“setting”) yw—
ysgol a gynhelir,
darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
uned cyfeirio disgyblion, a
darpariaeth addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf 1996;
mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
mae i “uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol a gynhelir o fewn ystyr adran 79(1)(a) a (b) o Ddeddf 2021.
2. Hyd nes bod Rhan 4 o Ddeddf 1996 wedi ei diddymu gan Ddeddf 2018, mae cyfeiriadau yn Rhan 2 o Ddeddf 2021—
(a)at “darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol” yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys “darpariaeth addysgol arbennig”;
(b)at “anghenion dysgu ychwanegol” yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys “anghenion addysgol arbennig”; ac
(c)at “cynllun datblygu unigol” yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys “datganiad o anghenion addysgol arbennig”.
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 14 Mehefin 2022—
(a)adrannau 42 a 43 at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 42, a
(b)adran 69 at ddiben gwneud rheoliadau o dan yr adran honno.
4. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2022—
(a)adrannau 6 i 8 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym,
(b)adrannau 42 a 43 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym,
(c)adrannau 56 a 57 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym,
(d)adrannau 63 i 67,
(e)adran 69 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac
(f)adrannau 70 a 71.
5.—(1) Daw’r darpariaethau yn Neddf 2021 ym mharagraff (2) i rym ar 1 Medi 2022 ar gyfer plentyn neu ddisgybl—
(a)y darperir addysg feithrin ar ei gyfer,
(b)mewn blwyddyn derbyn,
(c)ym mlynyddoedd 1 i 6, a
(d)ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion a gynhelir hynny a’r unedau cyfeirio disgyblion hynny a nodir yn yr Atodlen.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)adrannau 9 i 24(1), (2), (3) a (4),
(b)adrannau 25 i 29,
(c)adrannau 34 i 41,
(d)adrannau 44 i 55, ac
(e)Atodlen 1.
6.—(1) Daw’r darpariaethau yn Neddf 2021 ym mharagraff (2) i rym ar 1 Medi 2023 ar gyfer plentyn neu ddisgybl—
(a)ym mlwyddyn 7 ar gyfer pob lleoliad arall nad yw wedi ei restru yn yr Atodlen (Rhestr Blwyddyn 7), a
(b)ym mlwyddyn 8.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)adrannau 9 i 24(1), (2), (3) a (4),
(b)adrannau 25 i 29,
(c)adrannau 34 i 41,
(d)adrannau 44 i 55, ac
(e)Atodlen 1.
7. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2024 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlwyddyn 9—
(a)adrannau 9 i 24(1), (2), (3) a (4),
(b)adrannau 25 i 29,
(c)adrannau 34 i 41,
(d)adran 68,
(e)adrannau 44 i 55, ac
(f)Atodlen 1.
8. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2025 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlwyddyn 10—
(a)adrannau 9 i 41,
(b)adrannau 44 i 55, ac
(c)Atodlen 1.
9. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2026 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)adrannau 9 i 41,
(b)adrannau 44 i 55,
(c)adrannau 58 i 62,
(d)adran 68, ac
(e)Atodlen 1.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
13 Mehefin 2022
erthygl 5
1. Yr ysgolion a’r unedau cyfeirio disgyblion y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(d) o’r Gorchymyn hwn yw—
Enw’r Ysgol a’r Uned Cyfeirio Disgyblion | Rhif yr Ysgol a Rhif yr Uned Cyfeirio Disgyblion |
---|---|
Cyngor Bro Morgannwg | |
Ysgol Llanilltud Fawr | 6734060 |
Ysgol Stanwell | 6735400 |
Ysgol Uwchradd Gatholig Richard Gwyn Sant | 6734612 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent | |
Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm | 6777011 |
Ysgol Gyfun Tredegar | 6774061 |
Ysgol Sylfaenol Brynmawr | 6775401 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | |
Canolfan Ddysgu Glanynant | 6761104 |
Lewis Girls’ School | 6764077 |
Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod | 6767011 |
Ysgol Gyfun Gy6munedol Rhisga | 6764068 |
Ysgol Gyfun Heolddu | 6764073 |
Ysgol Gymunedol Sant Cenydd | 6764065 |
Ysgol Idris Davies 3-18 | 6765500 |
Ysgol Lewis Pengam | 6764075 |
Ysgol Trecelyn | 6764031 |
Ysgol Uwchradd Bedwas | 6764093 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd | |
Yr Ysgol John Frost | 6804020 |
Ysgol Bassaleg | 6804030 |
Ysgol Bryn Derw | 6807004 |
Ysgol Gyfun Caerllion | 6804059 |
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed | 6804060 |
Ysgol Maes Ebbw | 6807002 |
Ysgol Sant Julian | 6804003 |
Ysgol Uwchradd Casnewydd | 6804025 |
Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant | 6804602 |
Ysgol Uwchradd Llysweri | 6804026 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | |
Canolfan Addysg Conwy | 6621109 |
Ysgol Aberconwy | 6624023 |
Ysgol Dyffryn Conwy | 6624035 |
Ysgol Eirias | 6625402 |
Ysgol John Bright | 6624022 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful | |
Ysgol Uwchradd Afon Taf | 6754011 |
Ysgol Uwchradd Cyfarthfa | 6754013 |
Ysgol Uwchradd Gatholig Esgob Hedley | 6754600 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr | |
Coleg Cymunedol y Dderwen | 6724086 |
Ysgol Bryn Castell | 6727012 |
Ysgol Brynteg | 6724078 |
Ysgol Gyfun Cynffig | 6724059 |
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd | 6724085 |
Ysgol Gyfun Pencoed | 6724076 |
Ysgol Heronsbridge | 6727003 |
Ysgol Maesteg | 6724071 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | |
Canolfan Addysg Tŷ Gwyn | 6741106 |
Ysgol Garth Olwg | 6745504 |
Ysgol Gatholig Cardinal Newman | 6744602 |
Ysgol Gyfun Bryn Celynnog | 6744019 |
Ysgol Gyfun Rhydywaun | 6744105 |
Ysgol Gymunedol Tonyrefail | 6745503 |
Ysgol Hen Felin | 6747011 |
Ysgol Arbennig Park Lane | 6747008 |
Ysgol Llanhari | 6745500 |
Ysgol Maesgwyn | 6747006 |
Ysgol Y Pant | 6744096 |
Ysgol Uwchradd Pontypridd | 6744022 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | |
Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen | 6781100 |
Ysgol Abersychan | 6784070 |
Ysgol Croesyceiliog | 6784051 |
Ysgol Crownbridge | 6787012 |
Ysgol Gorllewin Mynwy | 6784072 |
Cyngor Castell-nedd Port Talbot | |
Ysgol Gyfun Cefn Saeson | 6714064 |
Cyngor Dinas a Sir Caerdydd | |
Ysgol Arbennig Greenhill | 6817001 |
Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr | 6814072 |
Ysgol Gyfun Radur | 6814070 |
Ysgol Uwchradd Caerdydd | 6814039 |
Ysgol Uwchradd Cathays | 6814054 |
Ysgol Uwchradd y Dwyrain | 6814076 |
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf | 6814608 |
Ysgol Uwchradd Fitzalan | 6814042 |
Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant | 6814600 |
Ysgol Uwchradd Llanishen | 6814051 |
Ysgol Uwchradd Willows | 6814041 |
Cyngor Gwynedd | |
Ysgol Bro Idris | 6615500 |
Ysgol Brynrefail | 6614004 |
Ysgol Eifionydd | 6614009 |
Ysgol Friars | 6614036 |
Ysgol Godre’r Berwyn | 6615501 |
Ysgol y Moelwyn | 6614031 |
Cyngor Sir Caerfyrddin | |
Ysgol Bryngwyn | 6694054 |
Ysgol Glan y Môr | 6694053 |
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin | 6694056 |
Ysgol Gyfun y Strade | 6694052 |
Cyngor Sir Ceredigion | |
Ysgol Henry Richard | 6675501 |
Cyngor Sir Ddinbych | |
Ysgol Uwchradd Glan Clwyd | 6634020 |
Cyngor Sir Fynwy | |
Ysgol Brenin Harri’r VIII | 6794064 |
Ysgol Cas-gwent | 6794065 |
Ysgol Cil-y-Coed | 6794066 |
Ysgol Gyfun Trefynwy | 6794060 |
Cyngor Sir Penfro | |
Ysgol Bro Preseli | 6684064 |
Ysgol Caer Elen | 6685500 |
Cyngor Sir Powys | |
Ysgol Bro Hyddgen | 6665500 |
Ysgol Llanfyllin | 6665501 |
Ysgol Maesydderwen | 6664021 |
Ysgol Penmaes | 6667004 |
Ysgol Uwchradd Crucywel | 6664024 |
Ysgol Uwchradd Llanidloes | 6664002 |
Dinas a Sir Abertawe | |
Ysgol yr Esgob Gore | 6704044 |
Ysgol Gatholig Esgob Vaughan | 6704600 |
Ysgol Gyfun Gŵyr | 6704074 |
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe | 6704078 |
Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt | 6704069 |
Ysgol Gyfun Pontarddulais | 6704072 |
Ysgol Gyfun Treforys | 6704033 |
Ysgol Gymunedol Dylan Thomas | 6704076 |
Ysgol Pen y Bryn | 6707000 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol ar gyfer disgyblion sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig ac nid cynllun datblygu unigol (gweler erthygl 1 am y diffiniad o “anghenion addysgol arbennig” a “cynllun datblygu unigol”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn erthygl 3 yn dod i rym ar 14 Mehefin 2022 ond dim ond at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 42 a 69 o Ddeddf 2021.
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym yn llawn ar 1 Medi 2022.
Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym ar 1 Medi 2022 ar gyfer plentyn neu ddisgybl—
(a)y darperir addysg feithrin ar ei gyfer,
(b)mewn blwyddyn derbyn,
(c)ym mlynyddoedd 1 i 6, a
(d)ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion a gynhelir hynny a’r unedau cyfeirio disgyblion hynny a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym ar 1 Medi 2023 ar gyfer plentyn neu ddisgybl—
(a)ym mlwyddyn 7, a
(b)ym mlwyddyn 8.
Mae erthygl 6 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym ar 1 Medi 2024 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlwyddyn 9.
Mae erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym ar 1 Medi 2025 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlwyddyn 10.
Mae erthygl 8 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym ar 1 Medi 2026 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlynyddoedd 11 i 13.
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 1 i 5 | 29 Medi 2021 | O.S. 2021/1069 (Cy. 252) (C. 61) |
Adrannau 6 a 7 (yn rhannol) | 29 Medi 2021 | O.S. 2021/1069 (Cy. 252) (C. 61) |
Adran 8 (yn rhannol) | 23 Tachwedd 2021 | O.S. 2021/1069 (Cy. 252) (C. 61) |
Adran 56(1) (yn rhannol) | 11 Ionawr 2022 | O.S. 2022/12 (Cy. 6) (C. 1) |
Adran 57(1) (yn rhannol) | 11 Ionawr 2022 | O.S. 2022/12 (Cy. 6) (C. 1) |
Adran 56 (yn llawn) | 1 Medi 2022 | O.S. 2022/12 (Cy. 6) (C. 1) |
Adran 57 (yn llawn) | 1 Medi 2022 | O.S. 2022/12 (Cy. 6) (C. 1) |
Diwygiwyd gan O.S. 2010/1158.
Diwygiwyd gan O.S. 2010/1158.
Mewnosodwyd is-adran (4A) gan adran 9 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p. 10). Diwygiwyd is-adran (5) gan baragraff 77(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a chan baragraff 43 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Mewnosodwyd is-adran (5A) gan baragraff 77(b) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Diddymwyd adran 324 gan baragraff 4(1) a (9) o Atodlen 1 i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Nid yw’r diddymiad hwnnw mewn grym yn llawn eto.
Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 57(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi a diwygiwyd is-adran (1) ac (1A) ymhellach gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a pharagraff 34 o Atodlen 21 iddi.