xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5.—(1) Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008(1) (“Gorchymyn 2008”) yn gymwys fel a ganlyn.
(2) Ar 1 Medi 2022, nid yw Gorchymyn 2008 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021.
(3) O 1 Medi 2023, nid yw Gorchymyn 2008 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8 mewn ysgol a gynhelir.
(4) Caiff Gorchymyn 2008 ei ddirymu ar 1 Medi 2024.