Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022, RHAN 6. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 6LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

CyflwyniadLL+C

36.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 36 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 9LL+C

37.  Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “2ZB,” mewnosoder “2ZC,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 37 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 12LL+C

38.  Yn rheoliad 12(1), yn lle “23E neu 23F” rhodder “23E, 23F neu 23G”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 38 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Mewnosod rheoliad newydd 23GLL+C

39.  Ar ôl rheoliad 23F mewnosoder—

23G.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 39 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 69LL+C

40.  Yn rheoliad 69, ym mharagraff (2), hepgorer Eithriad 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 40 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 80LL+C

41.  Yn rheoliad 80—

(a)ym mharagraff (2)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—

(id)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;;

(b)ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 41 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 81LL+C

42.  Yn rheoliad 81(3)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—

(id)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 42 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i Atodlen 2LL+C

43.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2ZB mewnosoder—

Categori 2ZC – Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir

2ZC.(1) Person—

(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—

(a)o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu

(b)y tu allan i’r rheolau mewnfudo—

(i)pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a

(ii)pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 43 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i Atodlen 4LL+C

44.  Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 4(1)(a)(i), ar ôl “2ZB,” mewnosoder “2ZC,”;

(b)ar ôl paragraff 13F mewnosoder—

13G.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.;

(c)ym mharagraff 14—

(i)yn is-baragraff (3)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—

(id)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;;

(ii)yn is-baragraff (4), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 44 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i Atodlen 7LL+C

45.  Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

“gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”Atodlen 2, paragraff 2ZC(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 45 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources