Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Hydref 2023.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Addysg a Gwella Iechyd Cymru” (“Health Education and Improvement Wales”) yw’r corff a sefydlwyd gan Orchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017 (1);

ystyr “anghymhwysiad cenedlaethol” (“a national disqualification”) yw—

(a)

penderfyniad a wneir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 115 o’r Ddeddf(2) (anghymhwysiad cenedlaethol);

(b)

penderfyniad a wneir o dan ddarpariaethau sydd mewn grym yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy’n cyfateb i adran 115 o’r Ddeddf;

mae i “archwiliad llygaid” (“eye examination”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG” (“the NHS Counter-Fraud Authority”) yw’r corff a sefydlwyd gan Orchymyn Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG (Sefydlu, Cyfansoddiad, Darpariaethau Trosglwyddo Staff a Darpariaethau Trosglwyddo Eraill) 2017(3);

mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 206 o’r Ddeddf (dehongli);

ystyr “claf” (“patient”) yw person y mae contractwr wedi cytuno i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ar ei gyfer;

ystyr “contractwr” (“contractor”) yw ymarferydd cymwysedig, ac eithrio myfyriwr optometreg, sydd wedi ymrwymo i drefniant â Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol;

ystyr “corff cyfatebol” (“equivalent body”) yw—

(a)

o ran Lloegr, GIG Lloegr, fel y’i sefydlwyd gan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(4);

(b)

o ran yr Alban, Bwrdd Iechyd a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(5);

(c)

o ran Gogledd Iwerddon, yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon;

ystyr “corff trwyddedu neu reoleiddio” (“licensing or regulatory body”) yw corff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio unrhyw broffesiwn y mae’r ymarferydd cymwysedig yn aelod ohono neu wedi bod yn aelod ohono, gan gynnwys corff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio addysg, hyfforddiant neu gymwysterau’r proffesiynau hynny, ac unrhyw gorff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio unrhyw broffesiwn o’r fath, ei addysg, ei hyfforddiant neu ei gymwysterau, y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) yw—

(a)

cyfarwyddwr i gorff corfforedig;

(b)

aelod o gorff o bersonau sy’n rheoli corff corfforedig (pa un a yw’n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ai peidio);

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw unrhyw gyflogaeth, pa un ai â thâl neu’n ddi-dâl a pha un ai o dan gontract gwasanaeth ai peidio, a rhaid dehongli “cyflogai”, “cyflogedig” a “cyflogwr” yn unol â hynny;

mae “cyflogwr” (“employer”) yn cynnwys unrhyw bartneriaeth y mae ymarferydd cymwysedig yn aelod ohoni, neu yr oedd yn aelod ohoni;

mae i “y Datganiad” (“the Statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 31;

mae i “digwyddiadau cychwynnol” (“originating events”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 3;

ystyr “dirprwy” (“deputy”) yw ymarferydd meddygol offthalmig neu optometrydd sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr gyfunol ac sy’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol;

ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym o dan reoliad 1(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “ffurflen gwasanaethau offthalmig sylfaenol” (“primary ophthalmic services form”) yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol y mae rhaid ei chwblhau gan gontractwr i gael taliad am ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol o dan y Rheoliadau hyn;

mae i “y gofrestr” (“the register”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 3;

mae i “gwasanaethau archwilio llygaid” (“eye examination services”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

mae i “gwasanaethau offthalmig cyffredinol” (“general ophthalmic services”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

mae i “gwasanaethau offthalmig sylfaenol” (“primary ophthalmic services”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

ystyr “gwasanaethau symudol” (“mobile services”) yw gwasanaethau offthalmig sylfaenol a ddarperir mewn man nad yw’n fangre gofrestredig;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

ystyr “mangre gofrestredig” (“registered premises”) yw cyfeiriad sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr offthalmig mewn perthynas â chontractwr, yn unol â pharagraff 1(g) o Atodlen 3;

mae i “meddygol” yr ystyr a roddir i “medical” yn adran 206 o’r Ddeddf (dehongli);

ystyr “myfyriwr optometreg” (“student optometrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 8A o Ddeddf Optegwyr 1989(6) (cofrestr myfyrwyr) fel person sy’n ymgymryd â hyfforddiant i fod yn optometrydd;

ystyr “NHS Resolution” (“NHS Resolution”) yw Awdurdod Ymgyfreitha’r GIG, sef corff a sefydlwyd gan Orchymyn Awdurdod Ymgyfreitha’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Sefydlu a Chyfansoddiad) 1995(7);

ystyr “optegydd corfforedig” (“corporate optician”) yw corff corfforedig sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf Optegwyr 1989(8) (rhestr o gyrff corfforedig sy’n cynnal busnes fel optegwyr), sy’n cynnal busnes fel optometrydd, ac at ddiben y diffiniad hwn, mae i “optometrydd” yr ystyr a roddir i “optometrist” yn adran 36 o’r Ddeddf honno(9) (dehongli);

ystyr “optegydd cyflenwi” (“dispensing optician”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel optegydd cyflenwi yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989(10) (cofrestr optegwyr);

ystyr “optometrydd” (“optometrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel optometrydd yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989 (cofrestr optegwyr);

mae i “person cymwys” (“eligible person”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;

mae i “practis symudol” (“mobile practice”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 3;

ystyr “Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig” (“Ophthalmic Qualifications Committee”) yw pwyllgor a benodir gan sefydliadau sy’n gynrychioliadol o’r proffesiwn meddygol ac a gaiff ei gydnabod gan Weinidogion Cymru at ddibenion cymeradwyo—

(a)

ysbytai offthalmig, graddau academaidd, cyrsiau academaidd neu ôl-raddedig mewn offthalmoleg a swyddi sy’n rhoi cyfleoedd arbennig ar gyfer caffael y sgil a’r profiad angenrheidiol o’r math sy’n ofynnol ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol, a

(b)

cymwysterau ymarferwyr meddygol at ddiben gwasanaethau offthalmig cyffredinol;

mae i “rhestr atodol” (“supplementary list”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

ystyr “rhestr gofal sylfaenol” (“primary care list”) yw rhestr y cyfeirir ati yn adran 115(1)(a) i (d) o’r Ddeddf;

ystyr “rhestr gyfatebol” (“equivalent list”) yw rhestr a gedwir gan gorff cyfatebol sy’n cyfateb i restr gofal sylfaenol;

mae i “rhestr gyfunol” (“combined list”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

mae i “rhestr offthalmig” (“ophthalmic list”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

ystyr “rhif cofrestru proffesiynol” (“professional registration number”) yw’r rhif gyferbyn ag enw’r ymarferydd cymwysedig yn y gofrestr berthnasol a gynhelir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu’r Cyngor Optegol Cyffredinol;

mae i “swyddog” yr ystyr a roddir i “officer” yn adran 206 o’r Ddeddf (dehongli);

ystyr “telerau gwasanaeth” (“terms of service”) yw’r telerau a nodir yn Atodlen 4;

ystyr “Tribiwnlys Haen Gyntaf” (“First-tier Tribunal”) yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf a sefydlwyd o dan adran 3(1) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007(11) (y Tribiwnlys Haen Gyntaf);

ystyr “wedi ei atal dros dro” (“suspended”) yw wedi ei atal dros dro—

(a)

o dan y Ddeddf;

(b)

o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(c)

o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;

(d)

o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(12);

ystyr “ymarferydd cymwysedig” (“qualified practitioner”) yw—

(a)

optegydd corfforedig;

(b)

optometrydd;

(c)

ymarferydd meddygol offthalmig;

(d)

myfyriwr optometreg;

ystyr “ymarferydd meddygol” (“medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered person” yn adran 55 o Ddeddf Meddygaeth 1983(13) ac sy’n dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;

ystyr “ymarferydd meddygol offthalmig” (“ophthalmic medical practitioner”) yw person a gydnabyddir o dan reoliad 9 ac Atodlen 2;

mae “ymddygiad proffesiynol” (“professional conduct”) yn cynnwys materion sy’n ymwneud ag ymddygiad proffesiynol a pherfformiad proffesiynol fel ei gilydd;

mae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” yn adran 206 o’r Ddeddf (dehongli);

mae “ysbyty offthalmig” (“ophthalmic hospital”) yn cynnwys adran offthalmig mewn ysbyty.

(2)

Diwygiwyd adran 115 gan O.S. 2010/22, Atodlen 2, paragraff 139, gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), Atodlen 21, paragraff 31 a chan Ddeddf Iechyd a Gofal 2022 (p. 31), Atodlen 1, paragraff 1.

(3)

O.S. 2017/958, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

Ychwanegwyd adran 8A gan O.S. 2005/848, erthygl 9.

(7)

O.S. 1995/2800, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

1989 p. 44; diwygiwyd adran 9 gan O.S. 2005/848, erthygl 10, gan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 44 a chan Ddeddf Undebau Credyd a Chymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol (Gogledd Iwerddon) 2016 (p. 16), Atodlen 1, paragraff 37.

(9)

Diwygiwyd adran 36 gan O.S. 2005/848, Atodlen 1, paragraff 8. Mae diwygiadau eraill i adran 36 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

Diwygiwyd adran 7 gan O.S. 2005/848, erthygl 7.

(12)

O.S. 1972/1265 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

1983 p. 54; amnewidiwyd y diffiniad o “fully registered person” yn adran 55 gan O.S. 2007/3101, rheoliad 29 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2008/1774, Atodlen 1, paragraff 20 ac O.S. 2019/593, Atodlen 1, paragraff 30. Mae diwygiadau eraill i adran 55 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.