- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
31.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at “y Datganiad” yn gyfeiriadau at benderfyniad gan Weinidogion Cymru, o dan adran 76 o’r Ddeddf, ynghylch y tâl sydd i’w dalu i’r rheini sy’n darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Datganiad.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), caiff y Datganiad ddarparu ei fod yn cael effaith mewn perthynas â thâl mewn cysylltiad â chyfnod sy’n dechrau ar neu ar ôl dyddiad a bennir yn y Datganiad, a all fod yn ddyddiad y Datganiad neu’n ddyddiad cynharach neu hwyrach.
(4) Ni chaiff y Datganiad ond darparu ar gyfer talu taliadau mewn cysylltiad â chyfnod sy’n dechrau â dyddiad cynharach na dyddiad y Datganiad os nad yw gwneud hynny yn niweidiol i’r personau y mae’n ymwneud â’u tâl.
(5) Pan na fo’r Datganiad yn pennu dyddiad, mae’n cael effaith mewn perthynas â thâl mewn cysylltiad â chyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y Datganiad.
32. Rhaid i drefniadau Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ymgorffori—
(a)y telerau gwasanaeth,
(b)y Datganiad (y mae’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud taliadau yn unol ag ef i gontractwyr am ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol), ac
(c)unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o’r Ddeddf (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol) sy’n ymwneud â thâl am ddarparu gwasanaethau archwilio llygaid neu am gydymffurfio â darpariaethau eraill yn y telerau gwasanaeth (y mae’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud taliadau yn unol â hwy i gontractwyr) (gyda’i gilydd, y “cyfarwyddydau ffioedd”).
33.—(1) Rhaid i gontractwr nad yw’n gallu cwblhau’r gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu’r gwasanaethau archwilio llygaid y mae wedi ymgymryd â’u darparu ar gyfer claf roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig yn unol â hynny.
(2) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod achos rhesymol dros yr analluogrwydd i gwblhau’r gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu’r gwasanaethau archwilio llygaid, rhaid iddo wneud taliad yn unol â’r Datganiad neu’r cyfarwyddydau ffioedd perthnasol (fel y bo’n briodol) i’r contractwr am unrhyw ran o’r gwasanaethau hynny y mae’r contractwr wedi ei darparu.
34.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud taliadau i ymarferwyr cymwysedig, neu mewn cysylltiad ag ymarferwyr cymwysedig, sydd wedi eu hatal dros dro o’i restr gyfunol o dan y Ddeddf neu o dan reoliad 23 yn unol â phenderfyniad gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â thaliadau o’r fath.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)gwneud y penderfyniad yn unol â pharagraff (3) ar ôl ymgynghori â chorff yr ymddengys iddynt ei fod yn gynrychioliadol o bersonau y byddai’r penderfyniad yn ymwneud â’u tâl, ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol, a
(b)cyhoeddi’r penderfyniad hwnnw gyda’r Datganiad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), rhaid i benderfyniad Gweinidogion Cymru fod yn un sy’n sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, fod yr ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei atal dros dro yn cael taliadau ar gyfradd sy’n cyfateb i’r tâl ar gyfer yr ymarferydd cymwysedig hwnnw am wasanaethau offthalmig sylfaenol yn ystod y 12 mis sy’n dod i ben ag ataliad dros dro yr ymarferydd cymwysedig.
(4) Caiff penderfyniad Gweinidogion Cymru gynnwys darpariaeth na chaiff taliadau yn unol â’r penderfyniad fod yn fwy na swm penodedig mewn unrhyw gyfnod penodedig.
(5) Rhaid i’r penderfyniad ddarparu ar gyfer didyniad er mwyn ystyried unrhyw daliadau y mae’r ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei atal dros dro yn eu cael am ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ac eithrio fel prif ymarferydd.
(6) Caniateir i benderfyniadau gael eu hamrywio neu eu dirymu gan benderfyniadau dilynol.
(7) Mae rheoliad 35(2) i (5) yn gymwys i daliadau a wneir o dan y rheoliad hwn fel y mae’n gymwys i daliadau a wneir o dan y rheoliad hwnnw.
35.—(1) Pan—
(a)bo Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud taliad i glaf o dan reoliad 7(6) mewn cysylltiad â phrawf golwg, a
(b)bo’r swm a dalwyd yn fwy na’r ffi sy’n daladwy i’r contractwr am wasanaethau offthalmig cyffredinol a nodir yn y Datganiad,
rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddidynnu’r swm dros ben o’r tâl sydd fel arall yn daladwy i’r contractwr.
(2) Mae paragraffau (3) i (5) yn gymwys pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried ei fod wedi gwneud gordaliad am wasanaethau offthalmig sylfaenol i gontractwr (pa un ai drwy gamgymeriad neu fel arall).
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ac eithrio i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall yn dilyn cais gan y Bwrdd Iechyd Lleol, roi gwybod i’r contractwr am y ffaith honno.
(4) Os yw’r contractwr yn cydnabod y gordaliad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol adennill y swm a ordalwyd drwy ei ddidynnu o dâl y contractwr neu rywfodd arall.
(5) Os nad yw’r contractwr yn cydnabod y gordaliad—
(a)caiff y Bwrdd Iechyd Lleol atgyfeirio’r mater o dan reoliad 5(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992(1) ar gyfer ymchwiliad, a
(b)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, yn penderfynu bod gordaliad wedi ei wneud, bydd y swm a ordalwyd yn adenilladwy drwy ei ddidynnu o dâl y contractwr neu rywfodd arall.
(6) Nid yw adennill gordaliad o dan y rheoliad hwn yn rhagfarnu’r ymchwiliad i doriad honedig o’r telerau gwasanaeth.
O.S. 1992/664, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/2469; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: