- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
19.—(1) Mewn achos effeithlonrwydd neu achos o dwyll sy’n ymwneud ag ymarferydd cymwysedig yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, yn lle penderfynu dileu ymarferydd cymwysedig o’r rhestr honno, benderfynu dileu’r ymarferydd cymwysedig yn ddigwyddiadol a bydd rheoliad 17(7) ac (8) yn gymwys i’r penderfyniad hwnnw.
(2) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried dileu ymarferydd cymwysedig yn ddigwyddiadol o dan baragraff (1), rhaid iddo, cyn gwneud y penderfyniad hwnnw, ddilyn y weithdrefn ym mharagraff 12(1) i (3) o Atodlen 3.
(3) Os yw’n penderfynu felly, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol osod unrhyw amodau y caiff benderfynu arnynt o ran cynnwys yr ymarferydd cymwysedig yn ei restr atodol gyda’r bwriad o—
(a)dileu unrhyw niwed i effeithlonrwydd y gwasanaethau o dan sylw (mewn achos effeithlonrwydd), neu
(b)rhwystro gweithredoedd neu anweithredoedd pellach (mewn achos o dwyll).
(4) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu dileu ymarferydd yn ddigwyddiadol o dan baragraff (1), ni chaiff y penderfyniad hwnnw gymryd effaith tan y diweddaraf o’r canlynol—
(a)diwedd cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y gwnaeth y Bwrdd Iechyd Lleol ei benderfyniad, neu
(b)y dyddiad y mae unrhyw apêl yn cael ei phenderfynu gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf.
(5) Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu bod yr ymarferydd cymwysedig wedi methu â chydymffurfio ag amod, caiff benderfynu—
(a)amrywio’r amodau a osodwyd,
(b)gosod amodau newydd, neu
(c)dileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr atodol.
(6) Yn y rheoliad hwn, mae i “achos effeithlonrwydd” ac “achos o dwyll” yr ystyr a roddir yn rheoliad 17.
(7) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol adolygu ei benderfyniad i ddileu’r ymarferydd cymwysedig yn ddigwyddiadol o dan y rheoliad hwn, ac os gofynnir yn ysgrifenedig gan yr ymarferydd cymwysedig iddo adolygu penderfyniad o’r fath, rhaid iddo wneud hynny.
(8) Ni chaiff ymarferydd cymwysedig ofyn am adolygiad o dan baragraff (7) tan ar ôl cyfnod o dri mis gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cynnwys yr ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol.
(9) Ar ôl i adolygiad ddigwydd, ni chaiff yr ymarferydd cymwysedig ofyn am adolygiad pellach cyn diwedd cyfnod o chwe mis gan ddechrau â dyddiad y penderfyniad ar yr adolygiad blaenorol.
(10) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn adolygu ei benderfyniad o dan y rheoliad hwn, caiff—
(a)amrywio’r amodau a osodir ar yr ymarferydd cymwysedig,
(b)gosod amodau gwahanol ar yr ymarferydd cymwysedig, neu
(c)dileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr atodol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: