xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 3
1.—(1) Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod—
(a)gofyniad i dalu cosb ariannol i’r rheoleiddiwr o unrhyw swm y caiff y rheoleiddiwr ei ganfod (“cosb ariannol amrywiadwy”);
(b)gofyniad i gymryd unrhyw gamau y caiff y rheoleiddiwr eu pennu, o fewn unrhyw gyfnod y caiff ei bennu, er mwyn sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu nad yw’n digwydd eto (“hysbysiad cydymffurfio”);
neu gyfuniad o’r gofynion hyn, mewn perthynas â throsedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023.
(2) Cyn gwneud hynny rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Ni chaniateir gosod gofyniad o dan y paragraff hwn ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
(4) Cyn cyflwyno hysbysiad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o’r drosedd.
2.—(1) Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod gofyniad ar berson o dan yr Atodlen hon, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Yn achos hysbysiad cydymffurfio arfaethedig rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y seiliau dros yr hysbysiad arfaethedig;
(b)gofyniad yr hysbysiad;
(c)gwybodaeth am—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
(ii)o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod yr hysbysiad (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).
(3) Yn achos cosb ariannol amrywiadwy arfaethedig rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y seiliau dros osod y gosb ariannol amrywiadwy;
(b)swm y gosb,
(c)gwybodaeth am—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
(ii)o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).
3. Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo o fewn 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio.
4.—(1) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran y camau sydd i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno (“ymgymeriad trydydd parti”).
(2) Caiff y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod ymgymeriad trydydd parti o’r fath.
5.—(1) Ar ôl i’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ddod i ben, rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai—
(a)i osod y gofynion yn yr hysbysiad o fwriad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)i osod unrhyw ofyniad arall y mae gan y rheoleiddiwr bŵer i’w osod o dan yr Atodlen hon.
(2) Wrth wneud ei benderfyniad, rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i unrhyw ymgymeriad trydydd parti a dderbyniwyd ganddo.
(3) Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 6 neu 7.
(4) Ni chaiff y rheoleiddiwr osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
6. Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth am—
(a)y seiliau dros osod y gosb;
(b)y swm sydd i’w dalu;
(c)sut y caniateir talu;
(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau;
(e)hawliau apelio; ac
(f)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
7. Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio gynnwys gwybodaeth am—
(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad;
(b)pa gamau cydymffurfio sy’n ofynnol ac o fewn pa gyfnod y mae rhaid eu cymryd;
(c)yr hawliau apelio; a
(d)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
8.—(1) Caiff y person sy’n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, fod swm y gosb yn afresymol;
(d)yn achos hysbysiad cydymffurfio, fod natur y gofyniad yn afresymol;
(e)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
(f)unrhyw reswm tebyg arall.
9.—(1) Os—
(a)gosodir cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio ar unrhyw berson, neu
(b)derbynnir ymgymeriad trydydd parti oddi wrth unrhyw berson,
ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy, yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
(2) Mae’r achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn achos—
(a)pan fo hysbysiad cydymffurfio yn cael ei osod ar berson neu pan fo ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson,
(b)pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw, ac
(c)pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.
(3) Caniateir dechrau achos troseddol am drosedd y mae hysbysiad neu ymgymeriad yn is-baragraff (2) yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad pan fydd y rheoleiddiwr yn hysbysu’r person bod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r hysbysiad neu’r ymgymeriad hwnnw.