Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Rheoliad 3

ATODLEN 4Ymgymeriadau gorfodi

Ymgymeriadau gorfodi

1.  Caiff y rheoleiddiwr dderbyn ymgymeriad gorfodi gan berson mewn achos pan fo gan y rheoleiddiwr sail resymol dros amau bod y person wedi cyflawni trosedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023.

Ffurf a chynnwys ymgymeriad gorfodi

2.—(1Rhaid i ymgymeriad gorfodi fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—

(a)camau i sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau nac yn digwydd eto,

(b)camau i sicrhau bod y sefyllfa, i’r graddau y bo’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn a fyddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni,

(c)camau (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno, neu

(d)pan na fo’n bosibl adfer y niwed sy’n deillio o’r drosedd, gamau a fydd yn sicrhau budd cyfatebol neu welliant i’r amgylchedd.

(2Rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae rhaid cymryd y camau.

(3Rhaid iddo gynnwys—

(a)datganiad bod yr ymgymeriad wedi ei wneud yn unol â’r Atodlen hon;

(b)telerau’r ymgymeriad;

(c)sut a phryd yr ystyrir bod person wedi cyflawni’r ymgymeriad.

(4Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodi, neu ymestyn y cyfnod y mae rhaid cymryd y camau o’i fewn, os yw’r ddau barti yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.

Derbyn ymgymeriad gorfodi

3.  Os yw’r rheoleiddiwr wedi derbyn ymgymeriad gorfodi, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad neu unrhyw ran ohono—

(a)ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r ymgymeriad yn ymwneud â hi;

(b)ni chaiff y rheoleiddiwr osod unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy nac unrhyw hysbysiad cydymffurfio ar y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred honno.

Darpariaethau cyffredinol ar ymgymeriadau gorfodi

4.—(1Rhaid i’r rheoleiddiwr sefydlu a chyhoeddi’r weithdrefn ar gyfer ymrwymo i ymgymeriad gorfodi.

(2Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn gwneud hynny.

(3Pan fydd yn derbyn ymgymeriad caiff y rheoleiddiwr ei gyhoeddi ym mha bynnag fodd y gwêl yn dda.

Cyflawni ymgymeriad gorfodi

5.—(1Rhaid i reoleiddiwr sydd wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd ag ymgymeriad gorfodi ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw.

(2Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad.

(3Caiff y person a roddodd yr ymgymeriad wneud cais am dystysgrif o’r fath ar unrhyw adeg.

(4Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif o’r fath, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau i gais o’r fath.

(5Caiff y person y rhoddir yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif ar y sail bod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm tebyg arall.

Gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol

6.—(1Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodi i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.

(2Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif a ddyroddwyd o dan baragraff 5 os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol.

Peidio â chydymffurfio ag ymrwymiad gorfodi

7.—(1Os na chydymffurfir ag ymgymeriad gorfodi, caiff y rheoleiddiwr naill ai—

(a)cyflwyno hysbysiad cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio, neu

(b)cychwyn achos troseddol

mewn cysylltiad â’r drosedd.

(2Os yw person wedi cydymffurfio’n rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu unrhyw sancsiwn arall ar y person.

(3Caniateir cychwyn achos troseddol am y drosedd y mae ymgymeriad gorfodi yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad y mae’r rheoleiddiwr yn hysbysu’r person bod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.