Sancsiynau sifil
3. Mae’r Atodlen (sancsiynau sifil) yn gwneud darpariaeth ynghylch sancsiynau sifil y caniateir eu gosod at ddiben gorfodi trosedd o dan reoliad 38(2) o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(1) (“Rheoliadau 2016”) pan fo’r drosedd yn ymwneud â thorri amod trwydded a grybwyllir ym mharagraff 1 o Ran 4 o Atodlen 9 i Reoliadau 2016 neu baragraff 5A o Atodlen 10 iddynt.
(1)
O.S. 2016/1154, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/904; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.