xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
28.—(1) Mae person sy’n torri’r gofyniad yn rheoliad 14(3) (hysbysiad i CNC) yn euog o drosedd.
(2) Mae cynhyrchydd yn euog o drosedd os yw’n torri gofyniad o dan unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)rheoliad 16 (rhwymedigaethau casglu data);
(b)rheoliad 17(2) a (3) (rhwymedigaethau adrodd am ddata);
(c)rheoliad 18 (hysbysu am ddirwyn i ben, derbynyddiad, mynd i ddwylo’r gweinyddwyr etc).
(3) Mae gweithredwr cynllun cofrestredig yn euog o drosedd os yw’n torri gofyniad o dan unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)rheoliad 20(1) (rhwymedigaethau adrodd);
(b)rheoliad 20(2) (rhwymedigaethau cadw cofnodion).
(4) Mae person sy’n darparu unrhyw wybodaeth i CNC mewn cysylltiad â swyddogaethau’r corff o dan y Rheoliadau hyn yn euog o drosedd os yw’r person hwnnw, wrth ddarparu’r wybodaeth—
(a)yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol o ran manylyn perthnasol, neu
(b)yn darparu’r wybodaeth honno yn ddi-hid, a’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol o ran manylyn perthnasol.
(5) Mae person sy’n methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir mewn hysbysiad o dan reoliad 23(2) (monitro) yn euog o drosedd.
(6) Mae person sydd—
(a)yn methu, heb esgus rhesymol, â rhoi unrhyw gynhorthwy neu wybodaeth i swyddog o CNC (“swyddog”) y mae’n rhesymol ofynnol i’r swyddog hwnnw ei gael neu ei chael wrth arfer ei bwerau o dan reoliad 26, neu
(b)yn fwriadol yn peri oedi neu rwystr i swyddog wrth arfer pwerau y cyfeirir atynt yn rheoliad 26,
yn euog o drosedd.
(7) Mae trosedd o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (1) i (6) i’w chosbi—
(a)ar euogfarn ar dditiad, drwy ddirwy, neu
(b)ar euogfarn ddiannod, drwy ddirwy.
(8) Pan—
(a)bo trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig neu gan gymdeithas anghorfforedig, a
(b)profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(i)unigolyn perthnasol, neu
(ii)unigolyn sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unigolyn perthnasol,
mae’r unigolyn hwnnw yn ogystal â’r corff corfforedig neu’r gymdeithas anghorfforedig yn cyflawni trosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(9) Os yw trosedd a gyflawnir gan berson o dan y rheoliad hwn o ganlyniad i weithred neu ddiffyg rhyw berson arall, mae’r person arall hwnnw hefyd yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny, pa un a yw’r person a grybwyllir gyntaf yn cael ei erlyn am y drosedd ai peidio.
(10) Ym mharagraff (8), ystyr “unigolyn perthnasol” yw—
(a)mewn perthynas â chorff corfforedig—
(i)cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff, neu berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn unrhyw rinwedd o’r fath;
(ii)pan reolir materion y corff gan ei aelodau, aelod;
(b)mewn partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, aelod;
(c)mewn perthynas â phartneriaeth heblaw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, partner;
(d)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig heblaw partneriaeth, person sy’n ymwneud â rheoli’r gymdeithas neu sydd â rheolaeth drosti.
29. Gorfodir y Rheoliadau hyn gan CNC.