- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13.—(1) Dadansoddiad o’r pecynwaith a gyflenwyd ym mhob categori o becynwaith yn ystod y cyfnod perthnasol, gan bennu—
(a)pa un ai pecynwaith cynradd, pecynwaith cludo, pecynwaith eilaidd neu becynwaith trydyddol yw’r pecynwaith (sef y “math o becynwaith”);
(b)pwysau mewn cilogramau y pecynwaith a gyflenwyd ym mhob math o becynwaith;
(c)pwysau mewn cilogramau y pecynwaith cartref a gyflenwyd sy’n becynwaith cynradd neu’n becynwaith cludo;
(d)pwysau mewn cilogramau y pecynwaith, a nifer yr unedau o becynwaith, ym mhob categori o becynwaith sydd ar ffurf cynwysyddion diodydd.
(2) Yn is-baragraff (1)(d), ystyr “cynhwysydd diod” yw potel neu gan—
(a)sy’n cynnwys diod neu a oedd yn cynnwys diod,
(b)sydd wedi ei gwneud neu wedi ei wneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf o blastig polyethylen tereffthalad (PET), gwydr, dur neu alwminiwm,
(c)sydd â chynhwysedd o 50 o fililitrau o leiaf ond dim mwy na thri litr o hylif,
(d)sydd wedi ei chynllunio neu ei gynllunio, neu wedi ei bwriadu neu ei fwriadu, i gael ei selio mewn cyflwr aerglos a dwrglos yn y man cyflenwi i dreuliwr yn y Deyrnas Unedig, ac
(e)nad yw wedi ei chreu neu ei greu, wedi ei chynllunio neu ei gynllunio nac wedi ei marchnata neu ei farchnata i gael ei hail-lenwi neu ei ail-lenwi nac ei hailddefnyddio neu ei ailddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall gan unrhyw berson.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â phecynwaith wedi ei fewnforio sydd wedi ei daflu gan fewnforiwr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: