- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliadau 4(3), 6(2), 10(2) a 14(2)
1.—(1) Yn yr Atodlen hon—
ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person sydd wedi cael hawlogaeth i gael unrhyw fudd marwolaeth;
ystyr “dewisiad” (“election”) yw dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan, penderfyniad dewisiad dewis ar unwaith neu benderfyniad dewisiad dewis gohiriedig;
ystyr “goroeswr sy’n blentyn cymwys” (“eligible child survivor”) yw “plentyn cymwys” (“eligible child”) o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 94(2) o Reoliadau 2015 ac sydd o dan 18 oed;
ystyr “goroeswr sy’n oedolyn cymwys” (“eligible adult survivor”) yw—
“partner sy’n goroesi” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 85(1) a (2) o Reoliadau 2015, neu
“plentyn” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 94(1) o Reoliadau 2015 ac sy’n 18 oed neu’n hŷn;
ystyr “penderfynwr cymwys” (“eligible decision-maker”) yw’r person a gaiff wneud—
dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan fel y crybwyllir yn rheoliad 6;
dewisiad dewis ar unwaith fel y crybwyllir yn rheoliad 10;
penderfyniad dewisiad dewis gohiriedig fel y crybwyllir yn rheoliad 14.
2. Pan fo person—
(a)yn unig fuddiolwr, a
(b)yn oroeswr sy’n oedolyn cymwys,
y person hwnnw yw’r penderfynwr cymwys.
3. Pan fo person (“G”)—
(a)yn unig fuddiolwr, a
(b)yn oroeswr sy’n blentyn cymwys,
rhiant neu warcheidwad G yw’r penderfynwr cymwys.
4.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan mai dau neu ragor o oroeswyr sy’n oedolion cymwys yw’r buddiolwyr.
(2) Pan fo un o’r goroeswyr sy’n oedolion cymwys—
(a)yn briod,
(b)yn bartner sifil, neu
(c)yn bartner sy’n cyd-fyw
i’r ymadawedig, y person hwnnw yw’r penderfynwr cymwys.
(3) Pan na fo’r un o’r goroeswyr sy’n oedolion cymwys yn berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), y penderfynwr cymwys yw—
(a)y person y cytunir arno rhyngddynt, yn unol â pharagraff 6 isod, y mae rhaid iddo fod yn un ohonynt hwy, neu
(b)os nad oes cytundeb, y rheolwr cynllun.
5. Pan mai plant yw’r unig rai sy’n fuddiolwyr, y mae dau neu ragor ohonynt yn oroeswyr sy’n blant cymwys, y canlynol yw’r penderfynwr cymwys—
(a)pan fo pob un o’r goroeswyr sy’n blant cymwys yn byw ar yr un aelwyd, rhiant neu warcheidwad y plant cymwys;
(b)pan fo’r goroeswyr sy’n blant cymwys yn byw ar aelwydydd gwahanol, y person y cytunir arno gan rieni neu warcheidwaid y goroeswyr sy’n blant cymwys, yn unol â pharagraff 6 isod, y mae rhaid iddo fod yn un ohonynt hwy, neu
(c)os nad oes cytundeb, y rheolwr cynllun.
6.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o dan baragraffau 4(3)(a) a 5(b), y penderfynwr cymwys i’w gytuno naill ai gan fwy nag un goroeswr sy’n oedolyn cymwys, neu, yn ôl y digwydd, fwy nag un rhiant neu warcheidwad goroeswyr sy’n blant cymwys (“y penderfynwyr a all fod yn gymwys”).
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun—
(a)ceisio cael gwybod pwy yw’r holl benderfynwyr a all fod yn gymwys hynny a’u hysbysu bod angen iddynt gytuno pwy yw’r penderfynwr cymwys mewn cysylltiad â’r ymadawedig yn unol â’r paragraff hwn, a
(b)darparu hysbysiad mewn cysylltiad â’r ymadawedig i bob penderfynwr a all fod yn gymwys, sy’n nodi—
(i)yr wybodaeth y byddai’n ofynnol ei darparu o dan reoliad 4, pe bai’r hysbysiad yn ddatganiad gwasanaeth rhwymedïol, a
(ii)eglurhad o’r broses a nodir yn is-baragraff (3).
(3) Rhaid i’r penderfynwyr a all fod yn gymwys—
(a)cytuno’n unfrydol ar y penderfynwr cymwys (“y penderfynwr cymwys y cytunwyd arno”), a
(b)rhoi gwybod gyda’i gilydd i’r rheolwr cynllun pwy yw’r penderfynwr cymwys y cytunwyd arno, yn ysgrifenedig, o fewn 6 mis i gael yr hysbysiad a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b).
(4) Os nad yw’r rheolwr cynllun yn cael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (3)(b) uchod, y penderfynwr cymwys fydd y rheolwr cynllun yn union ar ôl i’r dyddiad ar gyfer hysbysiad yn yr is-baragraff hwnnw ddod i ben.
7. Mewn unrhyw achos nas cwmpesir gan baragraffau 2 i 6, y rheolwr cynllun yw’r penderfynwr cymwys.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: