- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Ni chaiff ceidwad gymryd (na threfnu cymryd) sampl y cyfeirir ati ym mharagraff (2) oni chymerir y sampl gan filfeddyg cymeradwy, neu o dan oruchwyliaeth milfeddyg cymeradwy.
(2) Y samplau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yw—
(a)sampl o waed o unrhyw anifail buchol, neu
(b)unrhyw sampl o anifail buchol pan fo gan yr anifail hwnnw statws BVD unigol positif.
12. Rhaid i samplau a gymerir o anifail buchol i’w profi o dan y Gorchymyn hwn—
(a)cael eu cyflwyno i labordy cymeradwy,
(b)cael eu cyflwyno yn unol â’r gofynion hynny o ran storio, trin ac amseru y nodir eu bod yn angenrheidiol ar gyfer profi’r sampl yn effeithiol gan weithredwr y labordy y mae’r sampl i’w chyflwyno iddo neu, yn ôl y digwydd, y cyfarwyddiadau sy’n dod gyda’r cyfarpar a ddefnyddir i gymryd y sampl, a
(c)dod gyda hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(i)enw a chyfeiriad y ceidwad,
(ii)disgrifiad o’r sampl,
(iii)y dyddiad y cymerwyd y sampl,
(iv)y rhif CPH ar gyfer y daliad yr oedd y fuches yn cael ei chadw neu’r anifail yn cael ei gadw arno ar yr adeg y cymerwyd y sampl,
(v)manylion cyswllt y milfeddyg, a
(vi)unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdani’n rhesymol gan weithredwr y labordy.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae sampl tag clust o feinwe wedi ei chymryd yn unol â’r erthygl hon os caiff ei thynnu o’r anifail buchol o dag clust swyddogol neu dag rheoli ac os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
(2) Yr amodau yw—
(a)rhaid i’r llestr a ddefnyddir i gasglu’r sampl fod â rhif adnabod wedi ei argraffu arno ymlaen llaw sydd yn union yr un fath â’r rhif tag clust swyddogol neu’r rhif ar y tag rheoli (yn ôl y digwydd), a
(b)rhoddir hysbysiad o’r rhif adnabod ynghyd â rhif tag clust yr anifail pan gyflwynir y sampl.
(3) Ni chaiff y ceidwad gymryd, na threfnu cymryd, sampl tag clust o feinwe o unrhyw anifail buchol y casglwyd sampl ohono yn flaenorol o dag rheoli at ddiben ei chyflwyno ar gyfer samplu o dan y Gorchymyn hwn.
(4) Pan gymerir sampl o feinwe o lo, rhaid cymryd y sampl o dag clust swyddogol oni bai—
(a)bod sampl o feinwe wedi ei chymryd o’r llo yn flaenorol o dag clust swyddogol, ac os felly rhaid cymryd y sampl o dag rheoli, neu
(b)bod y llo wedi marw cyn cymryd y sampl, ac os felly caniateir cymryd y sampl o dag clust swyddogol neu dag rheoli.
(5) At ddibenion yr erthygl hon, mae “casglwyd” yn cynnwys unrhyw ymgais i gasglu sampl.
14.—(1) Rhaid i’r ceidwad dynnu ymaith dag rheoli sydd wedi ei osod ar anifail buchol pan fo’r wybodaeth ar y tag wedi mynd yn annarllenadwy.
(2) Ni chaiff y ceidwad dynnu ymaith dag rheoli at unrhyw ddiben arall ac eithrio—
(a)gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, neu
(b)pan fo angen ei dynnu ymaith er mwyn diogelu lles yr anifail.
15.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo tag rheoli—
(a)wedi ei dynnu ymaith yn unol ag erthygl 14, neu
(b)wedi datgysylltu fel arall oddi wrth yr anifail.
(2) Pan fo’r erthygl hon yn gymwys, rhaid i’r ceidwad osod tag amnewid ar yr anifail sy’n cydymffurfio â’r amodau ym mharagraff (3).
(3) Yr amodau yw—
(a)bod rhaid i’r tag amnewid ddwyn yr un rhif adnabod â’r tag rheoli, a
(b)ni chaiff y tag amnewid fod yn dag rheoli.
(4) Rhaid gosod y tag amnewid o fewn 28 o ddiwrnodau (neu unrhyw gyfnod hwy a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru yn yr amgylchiadau) i’r ceidwad ddod yn ymwybodol—
(a)ei bod yn ofynnol tynnu ymaith y tag o dan erthygl 14(1) neu 14(2)(b),
(b)bod Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo tynnu ymaith y tag yn unol ag erthygl 14(2)(a), neu
(c)bod y tag wedi datgysylltu fel arall oddi wrth yr anifail.
(5) Mae’r erthygl hon yn gymwys yn yr un modd i dynnu ymaith ac amnewid unrhyw dag amnewid a osodir yn unol â’r erthygl hon.
16. Rhaid i weithredwr labordy cymeradwy hysbysu’r ceidwad, Gweinidogion Cymru a’r milfeddyg am ganlyniad prawf o dan erthyglau 28, 31, 34, 37, 40 ac 41 o fewn 5 diwrnod gwaith i ddyddiad y prawf a rhaid cynnwys manylion am—
(a)enw a chyfeiriad y ceidwad,
(b)y disgrifiad o’r sampl,
(c)y dyddiad y cymerwyd y sampl,
(d)y dyddiad y profwyd y sampl,
(e)rhif CPH y daliad yr oedd y fuches yn cael ei chadw neu’r anifail yn cael ei gadw arno ar yr adeg y cymerwyd y sampl neu’r samplau, a
(f)pan fo tag clust wedi ei osod, y rhif tag clust swyddogol o’r tag clust swyddogol.
17.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys—
(a)pan fo anifail buchol â statws BVD unigol positif yn bresennol ar ddaliad, a
(b)pan fo anifail buchol sy’n perthyn i geidwad arall (yn yr erthygl hon “y ceidwad arall”) yn cael ei gadw ar yr un daliad.
(2) Rhaid i’r ceidwad roi hysbysiad i’r ceidwad arall fod anifail buchol â statws BVD unigol positif ar y daliad.
(3) Rhaid rhoi hysbysiad o dan baragraff (2) o fewn 5 diwrnod i’r diweddaraf o’r canlynol—
(a)y dyddiad y mae’r ceidwad yn gwybod (neu y dylai’n rhesymol fod wedi gwybod) fod gan yr anifail statws BVD unigol positif, neu
(b)y dyddiad y mae’r ceidwad arall yn symud anifail buchol i’r daliad.
(4) Pan fo statws BVD unigol yr anifail yn cael ei newid, rhaid i’r ceidwad, o fewn 5 diwrnod i gael hysbysiad gan labordy cymeradwy o newid y statws unigol (neu i ddod yn ymwybodol fel arall o’r newid), roi hysbysiad i’r ceidwad arall o’r newid.
18.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys, ac eithrio at ddibenion y Gorchymyn hwn, pan fo labordy (gan gynnwys labordy cymeradwy) yn profi am dystiolaeth o gysylltiad â feirws BVD, neu am bresenoldeb feirws BVD, mewn sampl (o unrhyw ddisgrifiad) a gymerwyd o anifail buchol.
(2) Rhaid i weithredwr y labordy drwy hysbysiad roi gwybod i Weinidogion Cymru a’r ceidwad, o fewn 5 diwrnod gwaith i brofi’r sampl, am—
(a)disgrifiad o’r sampl,
(b)y dyddiad y profwyd y sampl,
(c)canlyniad y prawf, gan nodi’n glir—
(i)pa un a yw’r sampl yn dangos tystiolaeth o gysylltiad â feirws BVD ai peidio, neu,
(ii)pa un a yw feirws BVD yn bresennol yn y sampl ai peidio, ac
(d)i’r graddau y mae’r gweithredwr yn gwybod—
(i)y rhif tag clust swyddogol,
(ii)enw a chyfeiriad y ceidwad,
(iii)y rhif CPH ar gyfer y daliad yr oedd yr anifail yn cael ei gadw arno ar yr adeg y cymerwyd y sampl, a
(iv)y dyddiad y cymerwyd y sampl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: