- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
45.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag unrhyw achos penodol neu unrhyw ddosbarth o achos, mai hwy fydd yn gorfodi’r Gorchymyn hwn yn hytrach na’r awdurdod lleol.
46.—(1) Caiff arolygydd, drwy ddangos awdurdodiad sydd wedi ei ddilysu’n briodol os gofynnir amdano, fynd i unrhyw fangre (ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl fel annedd breifat) ar unrhyw awr resymol at ddiben gorfodi’r Gorchymyn hwn.
(2) Caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant i ganiatáu i arolygydd fynd i unrhyw fangre, gan gynnwys annedd breifat, drwy rym rhesymol os bydd angen hynny, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno at ddiben gorfodi’r Gorchymyn hwn, a
(b)bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (3) wedi ei fodloni neu eu bodloni.
(3) Yr amodau yw—
(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,
(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i fwriad mynd i’r fangre,
(c)bod angen mynd i’r fangre ar fyrder, neu
(d)nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(4) Caniateir rhoi gwarant am gyfnod o hyd at 3 mis.
(5) Rhaid i arolygydd sy’n mynd i fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu y mae ei meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.
47.—(1) Caiff arolygydd sy’n mynd i fangre at ddibenion gorfodi’r Gorchymyn hwn—
(a)arolygu unrhyw anifail neu unrhyw eitem yno;
(b)cymryd samplau;
(c)cynnal unrhyw ymholiadau, unrhyw archwiliadau neu unrhyw brofion;
(d)cael mynediad at unrhyw ddogfennau neu gofnodion perthnasol (ar ba ffurf bynnag y’u cedwir), eu harolygu a’u copïo, a mynd â hwy oddi yno i’w gwneud yn bosibl eu copïo;
(e)arolygu a gwirio gweithrediad, a data ar, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu sydd wedi ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion.
(2) Pan fo arolygydd wedi mynd i fangre ac nad yw’n rhesymol ymarferol penderfynu a yw dogfennau neu gofnodion yn y fangre honno yn berthnasol, caiff yr arolygydd ymafael ynddynt i ganfod pa un a ydynt yn berthnasol ai peidio.
(3) Caiff yr arolygydd—
(a)mynd ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd angenrheidiol i’r fangre;
(b)mynd gydag unrhyw bersonau eraill y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
48.—(1) Os bydd corff corfforedig yn cyflawni trosedd yn erbyn y Ddeddf ac os dangosir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu ei bod i’w phriodoli i esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw, mae’r swyddog hwnnw yn ogystal â’r corff corfforedig yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Os yw materion busnes corff corfforedig yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â’i swyddogaethau rheoli, fel pe bai’r person hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.
(3) Ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: