xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
17 Gorffennaf 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 148(2) a (3) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2024.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(2);
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a sefydlwyd gan adran 1 o’r Ddeddf;
mae i “corff llywodraethu” (“governing body”) yr ystyr a roddir gan adran 57(1) o Ddeddf 2015, ac eithrio mewn perthynas ag erthygl 4(2)(b) pan fo iddo’r ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf 1992;
ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3);
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015(5);
ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau, Gweithdrefn a Chyhoeddi) (Cymru) 2016(6);
mae i “sefydliad rheoleiddiedig” (“regulated institution”) yr ystyr a roddir gan adran 7(5)(b) o Ddeddf 2015.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024—
(a)adran 6(1) (hybu gwaith ymchwil ac arloesi) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adran 23 (diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru);
(c)adran 50(1) i (3), (4)(b) ac (c), (7) ac (8) (fframweithiau sicrhau ansawdd);
(d)adran 86(2), (3) a (7) (cyllido’r Comisiwn: cyfyngiadau ar delerau ac amodau);
(e)adran 131(1), (2)(c) a (d), (4) a (5) (personau y mae’n ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn);
(f)adran 135(1), (2), (4) a (5) (gwybodaeth arall, cyngor arall a chanllawiau eraill);
(g)adran 136 (ymchwil gan y Comisiwn neu Weinidogion Cymru);
(h)adran 139(1), (2) a (4) (diddymu corfforaethau addysg uwch yng Nghymru);
(i)adran 140 (dyletswydd i ymgynghori â’r Comisiwn ynghylch gwasanaethau gyrfaoedd);
(j)yn Atodlen 1 (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)—
(i)paragraff 4 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ii)paragraff 6;
(iii)paragraff 8 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(iv)paragraff 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(v)paragraff 11 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(vi)paragraff 15 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(k)yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i)paragraff 2;
(ii)paragraff 3(1) a (2)(b);
(iii)paragraff 5;
(iv)paragraff 6(1), (2), (3)(e) ac (g), (5)(a) a (7);
(v)paragraff 7(1) i (3), (4)(a)(iii) a (iv) a (b);
(vi)paragraff 8(1), (3), (4) a (7);
(vii)paragraff 12(1), (2)(a)(ii) a (iii), (3) a (4);
(viii)paragraff 14(1), (24) a (26);
(ix)paragraff 15(1), (3) a (5);
(x)paragraff 18(1), (6), (8), (9)(a) ac (c) a (10) i (13);
(xi)paragraff 19(1) a (2)(a);
(xii)paragraff 20(2)(b);
(xiii)paragraff 22(1) a (3);
(xiv)paragraff 25(1) a (3);
(xv)paragraff 27;
(xvi)paragraff 28 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(xvii)paragraff 33(1), (2)(b) ac (e);
(xviii)paragraff 34;
(xix)paragraff 36;
(xx)paragraff 37;
(xxi)paragraff 38(1);
(xxii)paragraff 40;
(xxiii)paragraff 41.
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—
(a)adran 131(3)(a) i’r graddau y mae’n ymwneud â pherson a grybwyllir yn is-adran (2)(c) neu (d);
(b)adran 131(6) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 131(2)(a), (aa) (fel y’i mewnosodir gan erthygl 16 o’r Gorchymyn hwn), (b)(viii), (c) a (d);
(c)yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i)paragraff 6(3)(b) i’r graddau y mae’n hepgor adran 62(1), (3), (4) a (9) o Ddeddf 1992;
(ii)paragraff 6(3)(f) i’r graddau y mae’n hepgor adran 69(1) a (3) i (7) o Ddeddf 1992;
(iii)paragraff 6(6) i’r graddau y mae’n hepgor y cofnod ar gyfer “the HEFCW” yn adran 92 o Ddeddf 1992;
(iv)paragraff 31 i’r graddau y mae’n hepgor y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015—
(aa)adrannau 25, 49, 50(5) i (7), 51 a 53,
(bb)paragraffau 2, 5 a 7 i 26 yn Rhan 1 o’r Atodlen, ac
(cc)Rhan 2 o’r Atodlen;
(v)paragraff 33(2)(c) i’r graddau y mae’n hepgor y geiriau “a CCAUC” ac yn rhoi “a’r Comisiwn” yn ei le;
(vi)paragraff 33(2)(d) i’r graddau y mae’n hepgor y geiriau “a CCAUC” ac yn rhoi “a’r Comisiwn” yn ei le;
(vii)paragraff 38(2) i’r graddau y mae’n hepgor paragraffau 7, 8, 11, 17, 18(2), (3) a (5) i (7), 20, 25 a 26(3) o Atodlen 11 i Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017(7).
4.—(1) Daw adran 6(2) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i adran 105 o’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Mae adran 6(2) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai’r paragraffau a ganlyn wedi eu rhoi yn lle paragraffau (a) a (b)—
“(a)sefydliad addysg uwch o fewn yr ystyr a roddir i “higher education institution” gan adran 65(5) o Ddeddf 1992 sy’n cael cyllid gan y Comisiwn yn unol ag adran 65 o’r Ddeddf honno at ddibenion ymgymryd ag ymchwil, neu mewn cysylltiad â hynny;
(b)sefydliad cysylltiedig o fewn yr ystyr a roddir i “connected institution” gan adran 65(3B) o Ddeddf 1992, y mae corff llywodraethu sefydliad addysg uwch sy’n cael cyllid gan y Comisiwn yn unol ag adran 65 o’r Ddeddf honno yn cynnig talu iddo, gyda chydsyniad y Comisiwn, y cyfan neu unrhyw ran o’r cyllid hwnnw at ddibenion ymgymryd ag ymchwil, neu mewn cysylltiad â hynny.”
5.—(1) Daw adran 50(4)(a) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae adran 50(4)(a) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “darparwr cofrestredig” yn gyfeiriad at “sefydliad rheoleiddiedig”.
6.—(1) Daw adran 86(1), (5) a (6) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir ym mharagraff (2).
(2) Hyd nes y daw paragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym—
(a)mae adran 86(1) yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “adran 65 (gweinyddu cronfeydd gan y Comisiwn) o Ddeddf 1992,” wedi eu mewnosod ar ôl “i berson o dan”;
(b)mae adran 86(5) yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “adran 65 o Ddeddf 1992 neu” wedi eu mewnosod ar ôl “y Comisiwn o dan”;
(c)mae adran 86(6) yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “adran 65 o Ddeddf 1992 neu” wedi eu mewnosod ar ôl “y Comisiwn o dan”.
7.—(1) Daw adran 86(4) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i adran 105 o’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Mae adran 86(4) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “105 (ymchwil ac arloesi)” yn gyfeiriad at “65 (gweinyddu cronfeydd gan y Comisiwn) o Ddeddf 1992”.
8.—(1) Daw adran 131(2)(a) a (b)(viii) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae adran 131(2)(a) a (b), i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (viii), yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at “darparwr cofrestredig” yn gyfeiriadau at “sefydliad rheoleiddiedig”.
9.—(1) Daw adran 135(3) o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae adran 135(3) yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at “darparwr cofrestredig” yn gyfeiriadau at “sefydliad rheoleiddiedig”.
10.—(1) Daw paragraff 32 o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2), sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â’r dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl mis Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(8).
(2) Mae adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015(9) yn cael effaith mewn perthynas â’r Comisiwn fel pe bai’r is-adran a ganlyn wedi ei rhoi yn lle is-adran (6)—
“(6) Mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3)—
(a)yn dechrau â 1 Awst 2024, a
(b)yn dod i ben â’r dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl mis Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.”
11.—(1) Daw paragraff 12(2)(a)(i) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Mewn perthynas ag astudiaeth sydd ar y gweill yn union cyn 1 Awst 2024 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 145B(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10), pan mai CCAUC yw’r corff sydd wedi gofyn am yr astudiaeth, mae’r astudiaeth honno i’w thrin, ar ac ar ôl 1 Awst 2024, at ddibenion yr adran honno ac adran 145B(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, fel pe bai’r Comisiwn wedi gofyn amdani.
12.—(1) Daw paragraff 12(2)(b) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn union cyn 1 Awst 2024, i fod i ymateb i gais am gyngor a ddaeth i law oddi wrth CCAUC cyn y dyddiad hwnnw o dan adran 145B(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, mae’r cais hwnnw am gyngor i’w drin, ar ac ar ôl 1 Awst 2024, fel pe bai wedi ei wneud gan y Comisiwn.
13.—(1) Daw paragraff 14(27) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2024 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Mewn perthynas â gwarediad tir yng Nghymru gan ymddiriedolwyr cyn 1 Awst 2024, y mae adran 144 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(11) yn gymwys iddo—
(a)mae adran 144(4A) o’r Ddeddf honno yn cael effaith fel pe bai’r paragraff a ganlyn wedi ei roi yn lle paragraff (b)—
“(b)in the case of land in Wales, the Welsh Ministers.”,
a
(b)mae adran 144(9) o’r Ddeddf honno yn cael effaith fel pe bai’r paragraff a ganlyn wedi ei roi yn lle paragraff (b)—
“(b)the Welsh Ministers, in respect of land in Wales.”
14. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2025—
(a)paragraff 16(1)(b) a (3) i (5) o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
(b)paragraff 17(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
15.—(1) Daw paragraff 16(1)(a) o Atodlen 1 i’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r addasiad ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Mae paragraff 16(1)(a) yn cael effaith fel pe na bai swyddogaethau’r Comisiwn y cyfeirir atynt yn cynnwys ei swyddogaethau o dan Ddeddf 2015.
16.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Ar ôl adran 131(2)(a) o’r Ddeddf mewnosoder—
“(aa)person ac eithrio sefydliad rheoleiddiedig sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 65 (gweinyddu cronfeydd gan y Comisiwn) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;”.
(3) Ar ôl adran 131(2) o’r Ddeddf mewnosoder—
“(2A) Yn adran 131(2)(aa), mae i “sefydliad rheoleiddiedig” yr ystyr a roddir yn adran 7(5)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.”
17. Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn, mae paragraff 11(3) o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai diben y Pwyllgor Ansawdd a sefydlwyd gan y ddarpariaeth honno yn cynnwys cynghori’r Comisiwn ynghylch arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan Ran 3 o Ddeddf 2015.
18.—(1) Mae’r addasiadau i’r adrannau o Ddeddf 1992 a nodir ym mharagraff (3) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i’r canlynol ddod i rym, mewn cysylltiad â’r addasiad i—
(a)adran 62, paragraff 6(3)(b) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(b)adran 65, paragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(c)adran 66, paragraff 6(3)(d) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(d)adran 69, paragraff 6(3)(f) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(e)adran 81, paragraff 6(3)(h) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(f)adran 83, paragraff 6(4) o Atodlen 4 i’r Ddeddf.
(2) Mae’r addasiad a nodir ym mharagraff (4) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 6(6) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym.
(3) Mae adrannau 62 (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru), 65 (gweinyddu cronfeydd gan CCAUC), 66 (gweinyddu cronfeydd: atodol), 69 (swyddogaethau atodol), 81 (cyfarwyddydau) a 83 (astudiaethau effeithlonrwydd) a’r penawdau i’r adrannau hynny yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at “the HEFCW” a “the Higher Education Funding Council for Wales” yn gyfeiriadau at “the Commission”.
(4) Yn adran 92 (mynegai), mae’r cofnod “institution in Wales (in relation to the HEFCW)” yn cael effaith fel pe bai’n darllen “institution in Wales (in relation to the Commission)”.
19. Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 8(2) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym, mae adran 13 o Ddeddf Addysg 1996(12) yn cael effaith fel pe bai is-adran (2)(b) wedi ei hepgor.
20. Mae’r addasiadau i’r darpariaethau yn Neddf 2015 a nodir yn erthyglau 21 a 22 yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
21.—(1) Ac eithrio mewn perthynas ag adran 57(1) o Ddeddf 2015, mae Deddf 2015 yn cael effaith fel bai’r holl gyfeiriadau at “CCAUC” neu “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” yn y Ddeddf honno yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”.
(2) Mae adran 57(1) o Ddeddf 2015 yn cael effaith fel pe bai’r diffiniad o “CCAUC” wedi ei hepgor.
22.—(1) Mae adran 50 o Ddeddf 2015 yn cael effaith—
(a)fel mai’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2023 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf y flwyddyn ganlynol fyddai’r cyfnod adrodd cyntaf, a
(b)fel mai pob cyfnod olynol o 12 mis fyddai’r cyfnodau adrodd dilynol.
(2) At ddibenion paragraff (1)(a), rhaid i adroddiad blynyddol y Comisiwn mewn cysylltiad â’r cyfnod adrodd cyntaf roi manylion ynghylch sut y mae CCAUC wedi cyflawni ei swyddogaethau o dan Ddeddf 2015 yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2023 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2024.
23. Mae rheoliad 7 o Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(13) (taliadau gan CCAUC) yn cael effaith fel pe bai’r holl gyfeiriadau at “CCAUC” yn gyfeiriadau at “y Comisiwn” yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym.
24.—(1) Mae’r addasiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011(14) a nodir ym mharagraff (2) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli: cyffredinol)—
(a)mae’r diffiniad o “non-regulated institution” yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “the Higher Education Funding Council for Wales” yn gyfeiriad at “the Commission for Tertiary Education and Research”;
(b)mae’r diffiniad o “regulated institution”, yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “the Higher Education Funding Council for Wales” yn gyfeiriad at “the Commission for Tertiary Education and Research”.
25.—(1) Mae’r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn cael effaith fel pe bai’r holl gyfeiriadau at “CCAUC” yn gyfeiriadau at “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil” yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Y Rheoliadau yw—
(a)Rheoliadau 2015;
(b)Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015(15);
(c)Rheoliadau 2016.
26. Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn, mae’r diffiniad o “sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(16), yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” yn gyfeiriad at “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
27.—(1) Mae’r addasiad i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(17) a nodir ym mharagraff (2) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Ym mharagraff 2A(1) o Atodlen 1, mae’r diffiniad o “sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” yn cael effaith fel bai’r cyfeiriad at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” yn gyfeiriad at “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
28.—(1) Mae unrhyw beth a wnaed (neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud) gan CCAUC, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran, cyn i adran 23 o’r Ddeddf ddod i rym, mewn cysylltiad â swyddogaeth CCAUC a wneir yn arferadwy gan y Comisiwn—
(a)yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, neu
(b)oherwydd bod darpariaeth o’r Ddeddf yn dod i rym yn rhinwedd y Gorchymyn hwn,
yn cael effaith, i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn parhau â’i effaith o pan ddaw adran 23 o’r Ddeddf i rym, fel pe bai wedi ei wneud gan y Comisiwn, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran.
(2) Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd wrthi’n cael ei wneud gan CCAUC, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran, yn union cyn i adran 23 o’r Ddeddf ddod i rym, mewn cysylltiad â swyddogaeth CCAUC a wneir yn arferadwy gan y Comisiwn—
(a)yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, neu
(b)oherwydd bod darpariaeth o’r Ddeddf yn dod i rym yn rhinwedd y Gorchymyn hwn,
barhau i gael ei wneud gan y Comisiwn, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran o pan ddaw adran 23 o’r Ddeddf i rym.
(3) Mae unrhyw ganllawiau, unrhyw wybodaeth, unrhyw gyngor neu unrhyw ddogfen arall a gymeradwyir, a roddir neu a wneir cyn i adran 23 o’r Ddeddf ddod i rym i gael effaith, i’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddibenion paragraffau (1) a (2), neu mewn cysylltiad â hwy, fel pe bai unrhyw gyfeiriadau at “CCAUC” (sut bynnag y’u mynegir) yn y canllawiau hynny, yr wybodaeth honno, y cyngor hwnnw neu’r ddogfen arall honno yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”.
(4) Nid yw’r erthygl hon—
(a)yn gymwys mewn perthynas ag erthyglau 11 i 13, 30 i 42, 44 na 45;
(b)yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed (neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud) gan CCAUC, mewn perthynas ag ef neu ar ei ran, cyn 1 Awst 2024.
29.—(1) Rhaid i’r Comisiwn lunio datganiad o gyfrifon ar gyfer CCAUC mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Ebrill 2023 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2024 (“datganiad o gyfrifon CCAUC”).
(2) Rhaid i ddatganiad o gyfrifon CCAUC gael ei lunio yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru i’r Comisiwn, y caniateir iddynt wneud darpariaeth ynghylch—
(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,
(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno,
(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy, neu
(d)gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r datganiad.
(3) Rhaid i’r Comisiwn gyflwyno datganiad o gyfrifon CCAUC i Weinidogion Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru erbyn 30 Tachwedd 2024.
(4) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio datganiad o gyfrifon CCAUC, ei ardystio ac adrodd arno a gosod copi o’r adroddiad a’r datganiad hwnnw gerbron Senedd Cymru.
30.—(1) Mae cynllun ffioedd a mynediad o fewn paragraff (2)—
(a)yn parhau mewn grym ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei gymeradwyo gan y Comisiwn.
(2) Mae cynllun ffioedd a mynediad o fewn y paragraff hwn—
(a)os yw wedi cael ei gymeradwyo gan CCAUC o dan adran 7 o Ddeddf 2015, a
(b)os yw mewn grym, yn union cyn 1 Awst 2024, at ddibenion adran 7(4) o Ddeddf 2015.
(3) At ddibenion paragraff (2)(a), mae cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan CCAUC yn cynnwys cynllun ffioedd a mynediad sy’n ddarostyngedig i amrywiad a gymeradwywyd gan CCAUC o dan adran 9 o Ddeddf 2015.
(4) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cynllun ffioedd a mynediad o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
31.—(1) Mae hysbysiad rhybuddio a roddir gan CCAUC ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae hysbysiad rhybuddio mewn effaith os nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwnnw wedi dod i ben.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau yw’r cyfnod a bennir—
(a)yn rheoliad 3 o Reoliadau 2015, neu
(b)yn achos hysbysiad rhybuddio a roddir mewn perthynas ag adran 38 o Ddeddf 2015, yn rheoliad 3 o Reoliadau 2015 fel y’i cymhwysir gan reoliad 5 o Reoliadau 2016.
(4) Mae sylwadau a gyflwynir i CCAUC yn unol â’r rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) mewn perthynas â hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (1) yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024 fel pe baent yn sylwadau a gyflwynir i’r Comisiwn.
(5) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
(6) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad rhybuddio” yw hysbysiad rhybuddio fel y’i nodir yn adran 42 o Ddeddf 2015.
32.—(1) Mae cyfarwyddyd o fewn paragraff (2) a roddir gan CCAUC cyn 1 Awst 2024 ac y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—
(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(2) Mae cyfarwyddyd o fewn y paragraff hwn yn gyfarwyddyd a roddir i gorff llywodraethu sefydliad o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015
(a)adran 11;
(b)adran 13;
(c)adran 19;
(d)adran 33.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir i gorff llywodraethu sefydliad pan, yn union cyn 1 Awst 2024—
(a)na fo’r corff llywodraethu hwnnw wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd ac na fo’r cyfnod amser ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu
(b)bo’r corff llywodraethu hwnnw wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—
(i)na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu
(ii)bo’r adolygiad wedi gorffen ond na fo CCAUC wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod y cyfarwyddyd yn cael effaith.
(4) Ym mharagraff (3)(a), ystyr hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015.
(5) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar y modd y caiff cyfarwyddyd ei drin at ddibenion Rheoliadau 2015 fel y’i nodir yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny.
(6) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cyfarwyddyd o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
33.—(1) Mae adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan adran 44 o Ddeddf 2015 yn union cyn 1 Awst 2024 yn parhau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 fel pe bai’r cyfarwyddyd neu’r hysbysiad sy’n destun yr adolygiad yn gyfarwyddyd neu’n hysbysiad gan y Comisiwn.
(2) At ddibenion paragraff (1) nid yw adolygiad yn cael ei gynnal os yw’r panel adolygu, cyn 1 Awst 2024, wedi anfon copi o’i adroddiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 9(8)(g) o Reoliadau 2015.
34.—(1) Mae cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau o Ddeddf 2015 y cyfeirir atynt yn erthygl 32(2) ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae cyfarwyddyd mewn effaith—
(a)os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd,
(b)os na all corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod amser ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu
(c)os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo wedi cael ei hysbysu yn ysgrifenedig gan CCAUC fod y cyfarwyddyd yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r cyfarwyddyd hwnnw orffen.
(3) Mae cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC i gorff llywodraethu o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau o Ddeddf 2015 y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(4) Yr adrannau o Ddeddf 2015 yw—
(a)adran 16;
(b)adran 21;
(c)adran 35.
(5) At ddibenion paragraffau (1) a (3), o ran cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC—
(a)mae’n cynnwys cyfarwyddyd sydd wedi ei amrywio gan CCAUC cyn 1 Awst 2024 o dan adran 46(b) o Ddeddf 2015;
(b)mae mewn effaith i’r graddau nad yw CCAUC wedi rhoi hysbysiad, o dan adran 45(3) o Ddeddf 2015, i’r corff llywodraethu sy’n cael y cyfarwyddyd, sy’n datgan bod CCAUC wedi ei fodloni bod y corff—
(i)wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd, neu
(ii)wedi cydymffurfio â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd;
(c)nid yw mewn effaith os yw CCAUC wedi dirymu’r cyfarwyddyd o dan adran 46(b) o Ddeddf 2015.
(6) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cyfarwyddyd o fewn paragraff (1) neu (3) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
35.—(1) Mae cyfarwyddyd a roddir o dan adran 28(4) o Ddeddf 2015 gan Weinidogion Cymru i CCAUC ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan Weinidogion Cymru i’r Comisiwn.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae cyfarwyddyd mewn effaith—
(a)os yw’r cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd yn dechrau cyn 1 Awst 2024 ac yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, a
(b)os nad yw wedi cael ei ddirymu gan gyfarwyddyd dilynol a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 56(b) o Ddeddf 2015.
(3) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cyfarwyddyd o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
36.—(1) Mae cod rheolaeth ariannol y mae paragraff (2) yn gymwys iddo ac sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b)yn cael effaith fel pe bai—
(i)wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru a Senedd Cymru o dan adran 30 o Ddeddf 2015, a
(ii)wedi ei gyhoeddi gan y Comisiwn o dan adran 30(7) o Ddeddf 2015.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i god rheolaeth ariannol sydd—
(a)wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru a Senedd Cymru o dan adran 30 o Ddeddf 2015, a
(b)wedi cael ei gyhoeddi gan CCAUC o dan adran 30(7) o Ddeddf 2015.
(3) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn cod rheolaeth ariannol o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
37.—(1) Mae hysbysiad o fewn paragraff (2) a roddir gan CCAUC cyn 1 Awst 2024 ac y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—
(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(2) Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn yn hysbysiad a roddir i gorff llywodraethu sefydliad o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015—
(a)adran 37;
(b)adran 38;
(c)adran 39.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i hysbysiad a roddir i gorff llywodraethu sefydliad—
(a)pan na fo’r corff llywodraethu hwnnw wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig, yn union cyn 1 Awst 2024, ei fod yn derbyn yr hysbysiad ac na fo’r cyfnod amser ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu
(b)pan fo’r corff llywodraethu hwnnw, yn union cyn 1 Awst 2024, wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—
(i)na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu
(ii)bo’r adolygiad wedi gorffen ond na fo CCAUC wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod yr hysbysiad yn cael effaith.
(4) Ym mharagraff (3)(a), ystyr hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015.
(5) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar y modd y caiff hysbysiad ei drin at ddibenion Rheoliadau 2015 fel y’i nodir yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny.
(6) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn hysbysiad o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
38.—(1) Mae hysbysiad a roddir gan CCAUC o dan adran o Ddeddf 2015 y cyfeirir ati yn erthygl 37(2) ac sydd mewn effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae hysbysiad mewn effaith—
(a)os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi hysbysu CCAUC yn ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn yr hysbysiad,
(b)os na all corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod amser ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu
(c)os yw corff llywodraethu’r sefydliad y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi cael ei hysbysu yn ysgrifenedig gan CCAUC fod yr hysbysiad yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r hysbysiad orffen.
(3) At ddibenion paragraff (1), nid yw hysbysiad a roddir gan CCAUC o dan adran 37 o Ddeddf 2015 mewn effaith—
(a)os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad wedi dod i ben;
(b)os yw CCAUC wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl o dan adran 37(6) o Ddeddf 2015.
(4) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn hysbysiad o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
39. Mae hysbysiad a roddir o dan adran 45(3) o Ddeddf 2015 gan CCAUC, sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei roi gan y Comisiwn.
40. I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru”, mewn unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Deddf 2015 sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024, yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024 fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
41. Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru i CCAUC o dan adran 49 o Ddeddf 2015 ac sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024 yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024 fel pe bai wedi cael ei roi gan Weinidogion Cymru i’r Comisiwn o dan adran 20 o’r Ddeddf.
42.—(1) Mae datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd, sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024—
(a)yn parhau mewn effaith ar ac ar ôl 1 Awst 2024, a
(b)yn cael effaith fel pe bai wedi cael ei lunio a’i gyhoeddi gan y Comisiwn o dan adran 52 o Ddeddf 2015.
(2) I’r graddau y bo’n angenrheidiol at ddiben bod y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau yn unol â Deddf 2015, mae cyfeiriadau at “CCAUC” neu at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” mewn datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd o fewn paragraff (1) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”, ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd” yw datganiad a gyhoeddir o dan adran 52 o Ddeddf 2015.
43. O ran ei gymhwyso i’r Comisiwn, mae paragraff (a) o adran 9(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael effaith fel pe bai’r paragraff a ganlyn wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—
“(a)heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2025, a”.
44.—(1) Pan fo cyfarwyddyd o dan adran 11 o Ddeddf 2015 yn cael ei gyhoeddi ar wefan CCAUC, yn unol â rheoliad 11(1)(b) o Reoliadau 2015, yn union cyn 1 Awst 2024, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi copi o’r cyfarwyddyd hwnnw ar ei wefan.
(2) Mae cyhoeddi’r cyfarwyddyd gan y Comisiwn o dan baragraff (1) yn cael effaith fel cyhoeddi yn unol â rheoliad 11(1)(b) o Reoliadau 2015 at ddibenion rheoliad 11(2) o’r Rheoliadau hynny.
45.—(1) Pan fo hysbysiad a roddir o dan adran 37, 38 neu 39 o Ddeddf 2015 yn cael ei gyhoeddi ar wefan CCAUC, yn unol â rheoliad 7(b) o Reoliadau 2016, yn union cyn 1 Awst 2024, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi copi o’r hysbysiad hwnnw ar ei wefan.
(2) Mae cyhoeddi’r hysbysiad gan y Comisiwn o dan baragraff (1) yn cael effaith fel cyhoeddi yn unol â rheoliad 7(b) o Reoliadau 2016 at ddibenion rheoliadau 9 a 10 o’r Rheoliadau hynny.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
17 Gorffennaf 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“y Ddeddf”) ac yn gwneud darpariaeth ddarfodol a throsiannol mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaethau penodol i rym. Hwn yw’r pumed gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf. Roedd y gorchymyn blaenorol (y pedwerydd) yn darparu ar gyfer diwygiadau i orchymyn cychwyn cynharach a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf.
Mae Rhan 1 (erthygl 1) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag enwi a dehongli’r Gorchymyn hwn.
Mae Rhan 2 (erthyglau 2 i 13) yn dwyn i rym ddarpariaethau o’r Ddeddf ar 1 Awst 2024. Dygir rhai darpariaethau i rym yn llawn a dygir eraill i rym at ddibenion penodol.
Mae erthygl 2(b) yn dwyn i rym adran 23 o’r Ddeddf, sy’n darparu ar gyfer diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”). Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer y cyfnodau pryd y bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”) yn arfer swyddogaethau penodol CCAUC, o ddiddymu CCAUC ymlaen, o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“Deddf 1992”) (erthygl 18) a Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) (erthyglau 20 i 22).
Mae erthygl 2(a) yn dwyn i rym ddyletswyddau’r Comisiwn i hybu gwaith ymchwil ac arloesi yn adran 6(1) o’r Ddeddf. Mae erthygl 4 yn dwyn i rym adran 6(2), sy’n darparu ar gyfer ystyr “person perthnasol” fel y cyfeirir ato yn adran 6(1). Mae i “person perthnasol” yr ystyr a nodir yn erthygl 4(2) yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i adran 105 o’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
Mae erthygl 2(c) yn dwyn i rym swyddogaethau penodol y Comisiwn sy’n ymwneud â chyhoeddi fframweithiau sicrhau ansawdd o dan adran 50(1) i (3), (4)(b) ac (c), (7) ac (8) o’r Ddeddf. Mae erthygl 5 yn dwyn i rym adran 50(4)(a) yn ddarostyngedig i addasiad bod rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â phob sefydliad rheoleiddiedig (yn lle pob darparwr cofrestredig) cyn cyhoeddi, adolygu neu dynnu’n ôl unrhyw fframwaith yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026. Mae’r addasiad hwn yn ofynnol gan na fydd unrhyw ddarparwyr cofrestredig yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae “sefydliad rheoleiddiedig” yn sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd mewn grym (gweler adran 7(5)(b) o Ddeddf 2015) ac mae “darparwr cofrestredig” yn ddarparwr addysg drydyddol sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Comisiwn o dan adran 25 o’r Ddeddf (gweler adran 144(1) o’r Ddeddf).
Mae erthygl 2(d) yn dwyn i rym adran 86(2), (3) a (7) o’r Ddeddf, sy’n nodi’r cyfyngiadau ar y telerau ac amodau y caniateir i Weinidogion Cymru eu gosod ar gyllid y maent yn ei ddarparu i’r Comisiwn. Mae erthygl 6 yn dwyn i rym adran 86(1), (5) a (6) ac yn darparu ar gyfer addasiadau dros dro fel bod y cyfyngiadau ar y telerau ac amodau sy’n gymwys yn unol â’r is-adrannau hynny hefyd yn gymwys mewn cysylltiad â darparu cyllid gan y Comisiwn i berson o dan adran 65 o Ddeddf 1992. Mae’r addasiadau yn gymwys o 1 Awst 2024 hyd nes bod adran 65 o Ddeddf 1992 wedi ei diddymu. Mae erthygl 7 yn dwyn i rym adran 86(4) yn ddarostyngedig i’r addasiad bod y cyfeiriad at bŵer y Comisiwn i gyllido gwaith ymchwil ac arloesi o dan adran 105 o’r Ddeddf yn gyfeiriad at bŵer cyllido’r Comisiwn o dan adran 65 o Ddeddf 1992. Mae’r addasiad hwn yn gymwys o 1 Awst 2024 hyd nes y dygir adran 105 o’r Ddeddf i rym yn llawn.
Mae erthygl 2(e) yn dwyn i rym adran 131(1), (2)(c) a (d), (4) a (5). Mae adran 131(1) yn galluogi’r Comisiwn, drwy hysbysiad, i’w gwneud yn ofynnol i bersonau a restrir yn is-adran (2) roi i’r Comisiwn wybodaeth y mae’n gofyn amdani at ddibenion arfer ei swyddogaethau. Mae awdurdod lleol wedi ei restru fel person yn adran 131(2)(c) ac mae corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch, neu sydd wedi trefnu i addysg uwch gael ei ddarparu, yn yr ysgol, yn berson at ddibenion adran 131(2)(d). Mae erthygl 8 yn dwyn i rym adran 131(2)(a) a (b)(viii) yn ddarostyngedig i’r addasiad bod cyfeiriadau at “darparwr cofrestredig” yn adran 131(2)(a) a (2)(b), i’r graddau y mae’n gymwys i is-baragraff (viii), i’w darllen fel cyfeiriadau at “sefydliad rheoleiddiedig” yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026. Mae erthygl 8 yn galluogi’r Comisiwn i’w gwneud yn ofynnol i sefydliadau rheoleiddiedig a phersonau ac eithrio sefydliadau rheoleiddiedig sy’n cael cyllid gan y Comisiwn yn unol ag adran 136 o’r Ddeddf roi i’r Comisiwn wybodaeth y mae’n gofyn amdani at ddibenion arfer ei swyddogaethau.
Mae erthygl 16 yn mewnosod darpariaeth newydd (aa) yn adran 131(2) a darpariaeth newydd (2A) ar ôl adran 131(2) yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026. Mae’r darpariaethau hyn yn galluogi’r Comisiwn i’w gwneud yn ofynnol i berson ac eithrio sefydliad rheoleiddiedig sy’n cael cyllid a ddarperir o dan adran 65 o Ddeddf 1992 roi i’r Comisiwn wybodaeth y mae’n gofyn amdani at ddibenion arfer ei swyddogaethau.
Mae erthygl 3(a) yn dwyn i rym adran 131(3)(a) o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n ymwneud â pherson a grybwyllir yn is-adran (2)(c) neu (d). Mae erthygl 3(b) yn dwyn i rym adran 131(6) o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n galluogi’r Comisiwn i roi gwybodaeth i berson a restrir yn adran 131(2)(a), (aa), (b)(viii), (c) a (d) am unrhyw fater y mae gan y Comisiwn swyddogaeth mewn perthynas ag ef.
Mae erthygl 2(f) yn dwyn i rym adran 135(1), (2), (4) a (5) o’r Ddeddf. Mae adran 135(1) yn galluogi’r Comisiwn i roi cyngor a dyroddi canllawiau ynghylch darparu addysg drydyddol neu ynghylch materion sy’n gysylltiedig â swyddogaethau’r Comisiwn. Mae adran 135(2) yn gosod rhwymedigaeth ar y Comisiwn i nodi arferion da a dyroddi cyngor a chanllawiau mewn perthynas â rhannu gwybodaeth gan bersonau a restrir yn is-adran (3). Mae erthygl 9 yn dwyn i rym adran 135(3) o’r Ddeddf yn ddarostyngedig i’r addasiad bod y ddau gyfeiriad at “darparwr cofrestredig” i’w darllen fel cyfeiriadau at “sefydliad rheoleiddiedig” yn ystod y cyfnod trosiannol sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026. Mae adran 135(4) a (5) yn gosod rhwymedigaeth ar y Comisiwn i gyhoeddi unrhyw ganllawiau y mae’n eu dyroddi o dan is-adrannau (1) a (2) ac i sefydlu systemau ar gyfer casglu gwybodaeth.
Mae erthygl 2(g) yn dwyn i rym adran 136 o’r Ddeddf, sy’n galluogi’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru i wneud ymchwil, neu i sicrhau cyllid er mwyn i eraill wneud ymchwil, sy’n dod o fewn is-adran (1)(a) i (d).
Mae erthygl 2(h) yn dwyn i rym adran 139(1), (2) a (4) o’r Ddeddf, sy’n darparu ar gyfer diwygio adran 128(1)(b)(iii) a (4)(b) (diddymu corfforaethau addysg uwch yng Nghymru) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 er mwyn rhoi cyfeiriadau at y Comisiwn yn lle cyfeiriadau at CCAUC.
Mae erthygl 2(i) yn dwyn i rym adran 140 o’r Ddeddf. Mae adran 140 yn mewnosod adran newydd 9A yn Neddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973, sy’n gosod rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â’r Comisiwn, ym mhob blwyddyn ariannol, ynghylch blaenoriaethau strategol yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae erthygl 2(j) yn dwyn i rym ddarpariaethau ym mharagraffau 4, 8, 9, 11 a 15 o Atodlen 1 (y Comisiwn) i’r Ddeddf i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ynghyd â pharagraff 6. Mae’r paragraffau hyn o Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch aelod cyswllt y Comisiwn, telerau aelodaeth gyswllt, pwyllgor penodi aelod y staff a gofynion o ran cyfrifon ac archwilio.
Mae erthygl 2(k)(i) i (xxiii) yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r Ddeddf, sy’n diwygio deddfwriaeth sy’n codi o ganlyniad i’r Ddeddf.
Mae erthygl 3(c)(i) i (vii) yn dwyn i rym ddiwygiadau penodol a nodir yn Atodlen 4 i’r Ddeddf i’r graddau a bennir.
Mae erthygl 10 yn dwyn i rym baragraff 32 o Atodlen 4 i’r Ddeddf, sy’n rhoi cyfeiriadau at y Comisiwn yn lle cyfeiriadau at CCAUC yn adran 6 (ystyr corff cyhoeddus) ac adran 32 (partneriaid eraill) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf Llesiant 2015”). Mae erthygl 10 yn gwneud darpariaeth ddarfodol mewn cysylltiad â’r cyfnod pryd y mae rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymchwiliadau a rhoi adroddiad ynglŷn ag i ba raddau y mae’r Comisiwn wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth osod ei amcanion llesiant a chymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny at ddibenion adran 15(1) o Ddeddf Llesiant 2015.
Mae erthygl 43 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad ag adran 9(2)(a) o Ddeddf Llesiant 2015 fel ei bod yn ofynnol i’r Comisiwn osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2025.
Mae erthyglau 11(1) a 12(1) yn dwyn i rym ddiwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud ag adran 145B (astudiaethau ar gais cyrff addysgol) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”), a nodir ym mharagraff 12(2)(a)(i) a (b) o Atodlen 4 i’r Ddeddf. Mae erthygl 11(2) yn darparu, pan mai CCAUC yw’r corff sydd wedi gofyn am astudiaeth sydd ar y gweill yn union cyn 1 Awst 2024 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 145B(1), fod yr astudiaeth honno i’w thrin, ar ac ar ôl 1 Awst 2024, at ddibenion yr adran honno ac adran 145B(3) o Ddeddf 1998, fel pe bai’r Comisiwn wedi gofyn amdani. Mae erthygl 12(2) yn darparu, pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn union cyn 1 Awst 2024, i fod i ymateb i gais am gyngor a ddaeth i law oddi wrth CCAUC cyn 1 Awst 2024 o dan adran 145B(4) o Ddeddf 1998, fod y cais hwnnw am gyngor i’w drin ar ac ar ôl 1 Awst 2024 fel pe bai wedi ei wneud gan y Comisiwn.
Mae erthygl 13 yn dwyn i rym ddiwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud ag adran 144 (sefydliadau dynodedig: gwaredu tir, etc.) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir ym mharagraff (2). Mae adran 144 yn ymwneud â gwarediadau tir penodol gan ymddiriedolwyr. Mae’r darpariaethau trosiannol yn darparu, mewn perthynas â gwarediad tir yng Nghymru cyn 1 Awst 2024, mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol o hyd (yn hytrach na’r Comisiwn) at ddibenion yr adran honno; a phan fo cymrodeddwr wedi ei benodi mewn perthynas â gwarediad o’r fath, bo treuliau’r cymrodeddwr hwnnw yn cael eu hysgwyddo’n gyfartal rhwng yr ymddiriedolwyr a Gweinidogion Cymru (yn hytrach na’r Comisiwn).
Mae Rhan 3 (erthyglau 14 a 15) yn dwyn i rym o 1 Ebrill 2025 baragraff 16(1)(a) a (b) a (3) i (5) o Atodlen 1 i’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn lunio adroddiad blynyddol sy’n nodi sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod blwyddyn ariannol, y cynnydd y mae wedi ei wneud tuag at weithredu ei gynllun strategol ac i ba raddau y mae wedi ymdrin â’r datganiad o flaenoriaethau strategol gan Weinidogion Cymru. Mae erthygl 15(2) yn darparu nad yw dyletswydd y Comisiwn i lunio adroddiad blynyddol mewn cysylltiad â sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau ym mharagraff 16(1)(a) yn cynnwys manylion ynghylch sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf 2015 yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn. Rhaid i’r Comisiwn anfon copi o’r adroddiad at Weinidogion Cymru, a rhaid iddynt hwythau osod copi gerbron Senedd Cymru. Mae erthygl 14(b) yn dwyn i rym baragraff 17(1) sy’n rhoi ystyr “blwyddyn ariannol” at ddibenion paragraff 16.
Mae Rhan 4 (erthyglau 16 i 27) yn nodi addasiadau dros dro i ddeddfwriaeth sy’n codi mewn cysylltiad â diddymu CCAUC a phontio i’r system gofrestru a sefydlwyd o dan Ran 2 o’r Ddeddf.
Mae Rhan 5 (erthyglau 28 i 45) yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â diddymu CCAUC. Mae hyn yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â pharhad pethau a wnaed gan CCAUC cyn ei ddiddymu, cyflwyno datganiad terfynol o gyfrifon CCAUC, agweddau penodol ar Ddeddf 2015 a rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 2015.
Mae erthygl 28 yn darparu ar gyfer parhad a thriniaeth, o 1 Awst 2024 ymlaen, bethau a wnaed, neu a oedd yn cael eu gwneud, gan CCAUC, mewn perthynas ag ef, neu ar ei ran, cyn y dyddiad hwnnw, pan fo’r pethau hynny yn gysylltiedig â swyddogaeth sydd i’w chyflawni gan y Comisiwn yn rhinwedd y Gorchymyn hwn neu oherwydd bod darpariaeth o’r Ddeddf yn dod i rym yn rhinwedd y Gorchymyn hwn. Mae erthygl 28 hefyd yn darparu bod cyfeiriadau at CCAUC mewn canllawiau, gwybodaeth, cyngor neu ddogfennau eraill cysylltiedig i gael effaith fel pe bai’r cyfeiriadau hynny yn gyfeiriadau at y Comisiwn. Nid yw erthygl 28 yn gymwys mewn perthynas ag erthyglau 11 i 13, 30 i 42, 44 na 45 o’r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 29 yn darparu bod rhaid i’r Comisiwn gyflwyno datganiad terfynol o gyfrifon CCAUC i Weinidogion Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru erbyn 30 Tachwedd 2024. Rhaid llunio’r datganiad yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru. Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio’r datganiad, ei ardystio ac adrodd arno a gosod copi o’r adroddiad hwnnw a’r datganiad gerbron Senedd Cymru.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer parhad a thriniaeth, o 1 Awst 2024 ymlaen, gynlluniau ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan CCAUC o dan Ran 2 o Ddeddf 2015 (erthygl 30), cyfarwyddydau, hysbysiadau ac unrhyw hysbysiadau rhybuddio cysylltiedig a roddir gan CCAUC o dan y Ddeddf honno (erthyglau 31, 32, 34 a 37 i 39) ac adolygiadau o dan Ran 6 o Ddeddf 2015 sydd ar y gweill yn union cyn y dyddiad hwnnw (erthygl 33). Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 28(4) o Ddeddf 2015 a chanllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024 (erthyglau 35, 40 a 41). Yn ogystal, mae erthyglau 36 a 42 yn gwneud darpariaeth, yn ôl eu trefn, ar gyfer parhad a thriniaeth, o 1 Awst 2024 ymlaen, y cod rheolaeth ariannol a gyhoeddir o dan Ran 4 o Ddeddf 2015, a’r datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd a gyhoeddir o dan adran 52 o Ddeddf 2015, sy’n cael effaith yn union cyn 1 Awst 2024.
O ran rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 2015, mae erthygl 44 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 11 o Reoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015. Mae erthygl 45 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 7 o Reoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau, Gweithdrefn a Chyhoeddi) (Cymru) 2016.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 1 | 15 Rhagfyr 2022 | O.S. 2022/1318 (Cy. 267) (C. 106) |
Adran 2 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 2 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 3 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 3 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 4 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 4 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 5 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 5 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 6 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 7 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 7 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 8 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 8 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 9 (yn rhannol) | 15 Rhagfyr 2022 | O.S. 2022/1318 (Cy. 267) (C. 106) |
Adran 9 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 9 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 10 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 10 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 11 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 11 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 12 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 12 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 13 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 14 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 15, yn ddarostyngedig i addasiad i is-adran (1) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ebrill 2024 ac sy’n dod i ben ar 16 Rhagfyr 2024 | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 16 | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 17 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 18 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 19 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 20 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 21 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 22 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 24 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 25 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 27 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 28 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 30 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 31 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 32 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 33 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 34 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 35 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 36 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 41 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 43 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 46 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 47 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 54 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 57 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 63 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2023 | O.S. 2023/1106 (Cy. 191) (C. 71) |
Adran 83 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 84 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 85 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 85 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 87 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 88 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 89 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 94 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2024 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 97 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 101 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 103 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 104 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 105 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 130 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 132 (yn rhannol) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 141 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 142 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Adran 147 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Atodlen 1, paragraffau 1 i 3; 4 (yn rhannol); 5 (yn rhannol); 7 (yn rhannol); 10 (yn rhannol); 11 (yn rhannol); 12 | 15 Rhagfyr 2022 | O.S. 2022/1318 (Cy. 267) (C. 106) |
Atodlen 1, paragraff 5 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym); paragraff 7 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym); paragraff 8 (yn rhannol); paragraff 9 (yn rhannol); paragraff 10 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym); paragraff 11(1) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym); paragraff 11 (yn rhannol); paragraff 13; paragraff 14; paragraff 15 (yn rhannol); paragraffau 18 i 22 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Atodlen 2 | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Atodlen 4, paragraffau 20(1), (2)(a); 28(a) | 4 Medi 2023 | O.S. 2023/919 (Cy. 144) (C. 52) |
Sefydlwyd CCAUC o dan Ran 2 o Ddeddf 1992 ac mae wedi ei ddiddymu gan adran 23 o’r Ddeddf ar 1 Awst 2024 yn unol ag erthygl 2(b) o’r Gorchymyn hwn.
1992 p. 13.
O.S. 2007/2310 (Cy. 181), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/481 (Cy. 148); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
O.S. 2011/1986, a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/114; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/235 (Cy. 54); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.