xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
16.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Ar ôl adran 131(2)(a) o’r Ddeddf mewnosoder—
“(aa)person ac eithrio sefydliad rheoleiddiedig sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 65 (gweinyddu cronfeydd gan y Comisiwn) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;”.
(3) Ar ôl adran 131(2) o’r Ddeddf mewnosoder—
“(2A) Yn adran 131(2)(aa), mae i “sefydliad rheoleiddiedig” yr ystyr a roddir yn adran 7(5)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.”
17. Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn, mae paragraff 11(3) o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai diben y Pwyllgor Ansawdd a sefydlwyd gan y ddarpariaeth honno yn cynnwys cynghori’r Comisiwn ynghylch arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan Ran 3 o Ddeddf 2015.
18.—(1) Mae’r addasiadau i’r adrannau o Ddeddf 1992 a nodir ym mharagraff (3) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i’r canlynol ddod i rym, mewn cysylltiad â’r addasiad i—
(a)adran 62, paragraff 6(3)(b) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(b)adran 65, paragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(c)adran 66, paragraff 6(3)(d) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(d)adran 69, paragraff 6(3)(f) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(e)adran 81, paragraff 6(3)(h) o Atodlen 4 i’r Ddeddf;
(f)adran 83, paragraff 6(4) o Atodlen 4 i’r Ddeddf.
(2) Mae’r addasiad a nodir ym mharagraff (4) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 6(6) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym.
(3) Mae adrannau 62 (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru), 65 (gweinyddu cronfeydd gan CCAUC), 66 (gweinyddu cronfeydd: atodol), 69 (swyddogaethau atodol), 81 (cyfarwyddydau) a 83 (astudiaethau effeithlonrwydd) a’r penawdau i’r adrannau hynny yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at “the HEFCW” a “the Higher Education Funding Council for Wales” yn gyfeiriadau at “the Commission”.
(4) Yn adran 92 (mynegai), mae’r cofnod “institution in Wales (in relation to the HEFCW)” yn cael effaith fel pe bai’n darllen “institution in Wales (in relation to the Commission)”.
19. Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 8(2) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym, mae adran 13 o Ddeddf Addysg 1996(1) yn cael effaith fel pe bai is-adran (2)(b) wedi ei hepgor.
20. Mae’r addasiadau i’r darpariaethau yn Neddf 2015 a nodir yn erthyglau 21 a 22 yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
21.—(1) Ac eithrio mewn perthynas ag adran 57(1) o Ddeddf 2015, mae Deddf 2015 yn cael effaith fel bai’r holl gyfeiriadau at “CCAUC” neu “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” yn y Ddeddf honno yn gyfeiriadau at “y Comisiwn”.
(2) Mae adran 57(1) o Ddeddf 2015 yn cael effaith fel pe bai’r diffiniad o “CCAUC” wedi ei hepgor.
22.—(1) Mae adran 50 o Ddeddf 2015 yn cael effaith—
(a)fel mai’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2023 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf y flwyddyn ganlynol fyddai’r cyfnod adrodd cyntaf, a
(b)fel mai pob cyfnod olynol o 12 mis fyddai’r cyfnodau adrodd dilynol.
(2) At ddibenion paragraff (1)(a), rhaid i adroddiad blynyddol y Comisiwn mewn cysylltiad â’r cyfnod adrodd cyntaf roi manylion ynghylch sut y mae CCAUC wedi cyflawni ei swyddogaethau o dan Ddeddf 2015 yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2023 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2024.
23. Mae rheoliad 7 o Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(2) (taliadau gan CCAUC) yn cael effaith fel pe bai’r holl gyfeiriadau at “CCAUC” yn gyfeiriadau at “y Comisiwn” yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym.
24.—(1) Mae’r addasiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011(3) a nodir ym mharagraff (2) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli: cyffredinol)—
(a)mae’r diffiniad o “non-regulated institution” yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “the Higher Education Funding Council for Wales” yn gyfeiriad at “the Commission for Tertiary Education and Research”;
(b)mae’r diffiniad o “regulated institution”, yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “the Higher Education Funding Council for Wales” yn gyfeiriad at “the Commission for Tertiary Education and Research”.
25.—(1) Mae’r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn cael effaith fel pe bai’r holl gyfeiriadau at “CCAUC” yn gyfeiriadau at “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil” yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Y Rheoliadau yw—
(a)Rheoliadau 2015;
(b)Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015(4);
(c)Rheoliadau 2016.
26. Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn, mae’r diffiniad o “sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(5), yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” yn gyfeiriad at “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
27.—(1) Mae’r addasiad i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(6) a nodir ym mharagraff (2) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Awst 2024 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Ym mharagraff 2A(1) o Atodlen 1, mae’r diffiniad o “sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” yn cael effaith fel bai’r cyfeiriad at “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” yn gyfeiriad at “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
O.S. 2007/2310 (Cy. 181), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/481 (Cy. 148); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
O.S. 2011/1986, a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/114; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/235 (Cy. 54); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.