Atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru
10.—(1) Pan fo cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 94 o Ddeddf 2023 (atgyfeirio cais at Weinidogion Cymru), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid i’r awdurdod cynllunio—
(a)cyflwyno i’r ceisydd ac i Weinidogion Cymru, ar yr un pryd, hysbysiad o atgyfeiriad, a
(b)anfon copi o ffeil y cais at Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i hysbysiad o atgyfeiriad—
(a)datgan bod y cais am gydsyniad adeilad rhestredig wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru,
(b)nodi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros ddyroddi’r cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cais gael ei atgyfeirio atynt,
(c)datgan y caiff y ceisydd gyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru ac esbonio beth yw hynny, a
(d)nodi’r gofynion ym mharagraff (4).
(3) Caiff ceisydd y mae hysbysiad o atgyfeiriad yn cael ei gyflwyno iddo anfon datganiad achos llawn at Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i geisydd sy’n anfon datganiad achos llawn—
(a)sicrhau ei fod yn dod i law Gweinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o atgyfeiriad, a
(b)anfon copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio ar yr un pryd ag y’i hanfonir at Weinidogion Cymru.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “ffeil y cais” yw’r cais am gydsyniad adeilad rhestredig ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig a’r holl ohebiaeth gyda’r awdurdod cynllunio sy’n ymwneud â’r cais.