Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008

5Dull darparu iawn

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (6), caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglyn â sut y mae iawn i'w ddarparu.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)ynglŷn ag ymchwilio i geisiadau am iawn a wneir o dan y rheoliadau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer goruchwylio'r ymchwiliad gan unigolyn o ddisgrifiad penodedig);

(b)ynglŷn â ffurf a chynnwys cytundebau setlo o dan y rheoliadau;

(c)i gytundebau setlo o dan y rheoliadau fod yn ddarostyngedig mewn achosion o ddisgrifiad penodedig i'w cymeradwyo gan lys;

(d)ynglŷn â'r weithdrefn i'w dilyn pan fydd yr adeg a'r amgylchiadau cyfryw fel na chaniateir canlyn arni gyda cheisiadau am iawn o dan y rheoliadau mwyach.

(3)Rhaid i'r rheoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer terfynau amser ac unrhyw estyniadau iddynt mewn perthynas â—

(i)trefnu a chwblhau ymchwiliad;

(ii)gwneud cynnig o iawn; a

(iii)derbyn cynnig o iawn;

o dan y rheoliadau,

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer cofnodi mewn adroddiad ganfyddiadau ymchwiliad i achos pan fo unigolyn yn ceisio iawn o dan y rheoliadau, a

(c)yn ddarostyngedig i is-adran (4), gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi copi o'r adroddiad i'r unigolyn sy'n ceisio iawn.

(4)Caiff y rheoliadau ddarparu nad oes angen rhoi copi o adroddiad ymchwiliad—

(a)cyn i gynnig o iawn o dan y rheoliadau gael ei wneud neu cyn i'r achos gael ei ddirwyn i ben am unrhyw reswm;

(b)pan fo'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n debygol o achosi niwed neu ofid arwyddocaol i'r claf neu i geisydd arall; neu

(c)o dan unrhyw amgylchiadau eraill a bennir.

(5)Rhaid i'r rheoliadau ddarparu bod cytundeb setlo am iawn a wneir o dan y rheoliadau yn cynnwys ildiad o unrhyw hawl i godi achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd y mae a wnelo'r setliad ag ef.

(6)Rhaid i'r rheoliadau ddarparu na chaniateir ceisio iawn o dan y rheoliadau bellach os daw'r atebolrwydd y ceisir iawn yn ei gylch yn destun achos sifil.