5Dull darparu iawn
1
Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (6), caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglyn â sut y mae iawn i'w ddarparu.
2
Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth—
a
ynglŷn ag ymchwilio i geisiadau am iawn a wneir o dan y rheoliadau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer goruchwylio'r ymchwiliad gan unigolyn o ddisgrifiad penodedig);
b
ynglŷn â ffurf a chynnwys cytundebau setlo o dan y rheoliadau;
c
i gytundebau setlo o dan y rheoliadau fod yn ddarostyngedig mewn achosion o ddisgrifiad penodedig i'w cymeradwyo gan lys;
d
ynglŷn â'r weithdrefn i'w dilyn pan fydd yr adeg a'r amgylchiadau cyfryw fel na chaniateir canlyn arni gyda cheisiadau am iawn o dan y rheoliadau mwyach.
3
Rhaid i'r rheoliadau—
a
gwneud darpariaeth ar gyfer terfynau amser ac unrhyw estyniadau iddynt mewn perthynas â—
i
trefnu a chwblhau ymchwiliad;
ii
gwneud cynnig o iawn; a
iii
derbyn cynnig o iawn;
o dan y rheoliadau,
b
gwneud darpariaeth ar gyfer cofnodi mewn adroddiad ganfyddiadau ymchwiliad i achos pan fo unigolyn yn ceisio iawn o dan y rheoliadau, a
c
yn ddarostyngedig i is-adran (4), gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi copi o'r adroddiad i'r unigolyn sy'n ceisio iawn.
4
Caiff y rheoliadau ddarparu nad oes angen rhoi copi o adroddiad ymchwiliad—
a
cyn i gynnig o iawn o dan y rheoliadau gael ei wneud neu cyn i'r achos gael ei ddirwyn i ben am unrhyw reswm;
b
pan fo'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n debygol o achosi niwed neu ofid arwyddocaol i'r claf neu i geisydd arall; neu
c
o dan unrhyw amgylchiadau eraill a bennir.
5
Rhaid i'r rheoliadau ddarparu bod cytundeb setlo am iawn a wneir o dan y rheoliadau yn cynnwys ildiad o unrhyw hawl i godi achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd y mae a wnelo'r setliad ag ef.
6
Rhaid i'r rheoliadau ddarparu na chaniateir ceisio iawn o dan y rheoliadau bellach os daw'r atebolrwydd y ceisir iawn yn ei gylch yn destun achos sifil.