[F1Diogelwch ar gludiant i ddysgwyrLL+C

Diwygiadau Testunol

F1A. 14A ac cross-heading wedi ei fewnosod (1.10.2014) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 1, 16(1)

14AGofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyrLL+C

(1)Rhaid i gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae'n ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.

(2)Rhaid i berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir ar gyfer cludiant o'r fath yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.

(3)Mae person sy'n methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Mae'n amddiffyniad i ddangos bod y methiant i gydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) wedi ei gyfiawnhau oherwydd amgylchiadau eithriadol.

(5)Nid oes dim yn yr adran hon i'w ddehongli fel petai'n gosod safonau technegol ar gyfer gwneuthuriad neu gyfarpar cerbyd sy'n wahanol i'r safonau a fyddai neu a allai fod yn gymwys mewn modd arall i'r cerbyd hwnnw yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu [F2unrhyw ofyniad yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir].

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “bws” yw cerbyd modur sydd wedi ei wneuthur neu wedi ei addasu i gario mwy nag wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ychwanegol at y gyrrwr;

  • ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o'r canlynol, pryd bynnag y'i pasiwyd neu y'i gwnaed—

    (a)

    Deddf Seneddol;

    (b)

    is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol;

    (c)

    darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu is-ddeddfwriaeth o'r fath;

  • ystyr “gwregys diogelwch” yw gwregys sydd wedi ei fwriadu ar gyfer ei wisgo gan berson mewn cerbyd ac sydd wedi ei ddylunio i atal neu leihau anafiadau i'r sawl sy'n ei wisgo os bydd damwain i'r cerbyd.]