SYLWEBAETH AR ADRANNAU

Adran 1 – Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn

3.Mae adran 1 yn diffinio’r prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur.

4.Gall ‘trefniadau teithio’ gynnwys darparu cludiant, darparu hebryngwyr i hebrwng plant, talu’r cyfan neu ran o dreuliau teithio, a thalu lwfansau.

5.Personau sy’n cael addysg neu hyfforddiant yw ‘dysgwyr’ o fewn cwmpas y Mesur.

6.Diffinnir ‘mannau perthnasol’ fel ysgolion a gynhelir, sefydliadau addysg bellach, ysgolion annibynnol a enwir mewn datganiadau o anghenion addysgol arbennig, ysgolion arbennig nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion, mannau lle y darperir addysg feithrin gan awdurdod lleol neu lle y’i cyllidir gan yr awdurdod, unrhyw fan a gyllidir gan Weinidogion Cymru i ddarparu addysg neu hyfforddiant i ddysgwyr ôl-16 (megis addysg bellach mewn sefydliad addysg uwch neu ddysgu seiliedig ar waith) ac unrhyw fan lle y mae dysgwyr yn ymgymryd â phrofiad gwaith.  Mae’r diffiniad hefyd yn cwmpasu trefniadau a wneir ar gyfer disgyblion ag anghenion eithriadol y mae eu haddysg wedi ei threfnu gan awdurdod lleol mewn man ac eithrio ysgol a sefydliadau lle y mae Gweinidogion Cymru wedi sicrhau addysg a hyfforddiant a llety byrddio ar gyfer dysgwyr ôl-16 ag anawsterau dysgu.

Adran 2 – Dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyr

7.Mae adran 2 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol i asesu anghenion teithio dysgwyr sy’n bersonau o dan 19 oed sy’n cael addysg neu hyfforddiant, neu sy’n bersonau sydd wedi cyrraedd 19 oed, sydd wedi cychwyn ar gwrs addysg a hyfforddiant pan oeddent o dan 19 oed ac sy’n parhau i fynychu’r cwrs hwnnw, ac sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod.  Anghenion dysgwyr am drefniadau teithio addas bob dydd rhwng y cartref ac ysgolion neu fannau eraill lle y maent yn cael addysg a hyfforddiant (ac a elwir yn ‘fannau perthnasol’) yw ‘anghenion teithio dysgwyr’. Yn ymarferol, golyga hyn fod disgyblion o oedran ysgol gorfodol, disgyblion o oedran chweched dosbarth, a phlant o oedran cael addysg feithrin a gyllidir gan yr awdurdod, yn dod o fewn cwmpas yr asesiad y mae adran 2 yn ei wneud yn ofynnol. O dan is-adran (1)(c) gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau’n pennu dysgwyr eraill os dyna’u dymuniad; felly gallai cwmpas yr asesiad gael ei newid.  Bydd yr asesiad yn cynnwys dysgwyr sy’n teithio i fannau perthnasol yn ardaloedd awdurdodau eraill. Rhaid i awdurdod wneud yr asesiad hwn ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.  Bydd yr asesiad yn rhoi i awdurdod lleol drosolwg o anghenion teithio dysgwyr a bydd yr wybodaeth honno’n helpu’r awdurdod i wneud trefniadau teithio ar gyfer dysgwyr mewn modd effeithlon ac effeithiol.

8.Mae’r ddyletswydd yn rhoi effaith i’r mathau o weithgareddau y byddai awdurdod lleol wedi ymgymryd â hwy i gyflawni’n effeithiol ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Addysg 1996 (fel y’i diwygiwyd).  Er na wnaeth y Ddeddf honno roi dyletswydd benodol ar awdurdod lleol i asesu anghenion teithio plant mewn addysg oedran statudol, byddai awdurdod effeithiol wedi ystyried anghenion teithio dysgwyr er mwyn gwneud trefniadau o dan adran 509(1) o Ddeddf Addysg 1996 ar gyfer cludo plant o oedran ysgol gorfodol.  Ar gyfer dysgwyr o oedran chweched dosbarth, byddai awdurdod wedi casglu ac asesu gwybodaeth er mwyn paratoi datganiad polisi cludiant o dan adran 509AA.

9.Mae’r asesiad i gwmpasu anghenion teithio dysgwr sy’n mynychu ‘mannau perthnasol’ gwahanol ar ddyddiau gwahanol.  Pwrpas hyn yw cymryd i ystyriaeth y ffaith bod rhai dysgwyr yn mynychu ysgol wahanol neu sefydliad addysg bellach gwahanol am ran o’u haddysg neu o’u hyfforddiant, neu’n ymgymryd â phrofiad gwaith yn rhywle arall, neu wedi ymrestru ar gwrs dysgu seiliedig ar waith. Fodd bynnag, fel y mae adran 5 yn egluro, o ran mannau o’r fath, nid yw’r asesiad i ymwneud ond â theithio i’r cartref ac o’r cartref  ac nid yw’n ymwneud â theithio rhwng mannau yn ystod y dydd.  Nid yw’r asesiad i ymwneud ag anghenion teithio ar gyfer ymweliadau preswyl neu dripiau diwrnod a drefnir gan ysgolion neu sefydliadau addysg bellach, ac nid yw ychwaith yn ofynnol i awdurdodau ystyried gweithgareddau allgyrsiol, clybiau brecwast neu glybiau ar ôl ysgol (ond cânt ddewis gwneud hynny os dyna’u dymuniad).

10.Wrth wneud asesiad, mae’n ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i faterion a restrir yn is-adran (4)(a) i (e).  Anghenion dysgwyr anabl neu ddysgwyr ag anawsterau dysgu, unrhyw anghenion penodol sydd gan ddysgwyr sy’n blant ac sy’n ‘derbyn gofal’ neu a fu’n derbyn gofal gynt gan awdurdod lleol, oed y dysgwr a natur y ffordd y disgwylir iddo ei dilyn rhwng y cartref a’r mannau lle y mae’n cael addysg neu hyfforddiant yw’r materion hyn.

Adran 3 – Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo

11.Mae adran 3 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol mewn amgylchiadau penodedig ac yn ddarostyngedig i amodau penodedig. Nodir yr amgylchiadau a’r amodau yn y tabl ar ôl is-adran (2).  Mae’r adran yn darparu system o hawl i gludiant am ddim yn dibynnu p’un ai addysg gynradd ai addysg uwchradd y mae plant yn ei chael ac a ydynt yn byw y pellteroedd penodedig neu’n bellach o’r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant.  Mae’r dull hwn o benderfynu hawl yn debyg i’r system a luniwyd wrth roi ar waith gyda’i gilydd adrannau 444 a 509 o Ddeddf Addysg 1996.

12.Mae is-adran (1) yn darparu bod yr adran yn gymwys i blant o oedran ysgol gorfodol sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol os yw’r amgylchiadau a nodir yng ngholofn 1 y tabl yn gymwys i’r plentyn ac os bodlonir yr amodau a geir yng ngholofn 2.

13.Mae is-adran (2) yn nodi’r brif ddyletswydd sydd ar yr awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo addas i hwyluso’r ffordd i blentyn y mae’r adran yn gymwys iddo fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae’r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Hwylusir y ffordd i’r plentyn fynychu’r mannau hynny os gwneir trefniadau i’r plentyn deithio o’i gartref i’r man lle y mae’n cael addysg neu hyfforddiant ac yn ôl adref.

14.Mae’r tabl ar ôl is-adran (2) yn nodi’r amgylchiadau a’r amodau sy’n arwain at hawl i gael trefniadau cludo am ddim.

15.Bydd gan blant sy’n cael addysg gynradd yr hawl i gludiant am ddim os ydynt yn byw ddwy filltir neu fwy o’r ysgol a gynhelir, o’r uned cyfeirio disgyblion, neu o’r ysgol arbennig nas cynhelir lle y maent yn ddisgyblion, onid yw’r awdurdod wedi trefnu i’r plentyn ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn sefydliad addas yn nes at gartref y plentyn neu wedi trefnu i’r plentyn fyrddio yn yr ysgol neu’n agos ati.  Pan fo gan blentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy’n enwi ysgol annibynnol, os bydd yr ysgol honno ddwy filltir neu fwy o gartref y plentyn, bydd yn rhaid i awdurdod lleol ddarparu cludiant am ddim onid yw wedi trefnu i’r plentyn ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn sefydliad addas yn nes at ei gartref, neu wedi trefnu i’r plentyn fyrddio yn yr ysgol neu’n agos ati.

16.Darperir hawl debyg i blant sy’n cael addysg uwchradd, ond gwneir hynny yn yr achos hwn os ydynt yn byw dair milltir neu fwy o’r ysgol a gynhelir, o’r uned cyfeirio disgyblion, o’r ysgol arbennig nas cynhelir neu o’r ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad o anghenion addysgol arbennig lle y maent yn ddisgyblion.  Nid yw’r ddyletswydd i ddarparu cludiant am ddim yn gymwys pan yw’r awdurdod lleol wedi trefnu i’r plentyn ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn sefydliad addas sy’n nes at ei gartref, neu pan yw’r awdurdod wedi trefnu i’r plentyn fyrddio yn yr ysgol neu’n agos ati. Mae’r hawl yn cynnwys cludiant i unrhyw blentyn o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu sefydliad addysg bellach fel myfyriwr llawn-amser os yw’r sefydliad dair milltir neu fwy o’i gartref ac os nad yw’r awdurdod lleol wedi trefnu i’r plentyn fynychu sefydliad addas yn nes at ei gartref.  Mae’r hawl hefyd yn cynnwys teithio rhwng y cartref a man perthnasol ac eithrio’r man lle y mae plentyn yn ddisgybl cofrestredig.  Mae hyn yn cymryd i ystyriaeth y ffaith bod rhai plant yn mynychu mannau gwahanol ar ddyddiau gwahanol, a byddai, er enghraifft, yn cwmpasu lleoliadau profiad gwaith neu fynychu ysgol wahanol neu sefydliad addysg bellach gwahanol ar gyfer cyrsiau penodol. Fodd bynnag, nid yw trefniadau teithio ond i ymwneud â theithio rhwng y cartref a mannau perthnasol ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol ac nid ydynt yn ymwneud â theithio yn ystod y dydd. Mae unrhyw drefniadau ar gyfer teithio yn ystod y dydd y tu allan i gwmpas y ddyletswydd sydd ar awdurdod lleol (gweler adran 5).

17.Mae’r un meini prawf oed a phellter yn gymwys i blant sy’n ‘derbyn gofal’, ond nid yw mynychu’r sefydliad agosaf i’w cartref sy’n sefydliad addas yn amod. Yr awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo fydd i benderfynu ble y dylai plentyn fynd a gallai’r man hwnnw fod yn ysgol ac eithrio’r ysgol agosaf sy’n addas oherwydd, er enghraifft, bod sicrhau parhad yn addysg y plentyn neu yng nghysylltiad y plentyn â brodyr a chwiorydd a ffrindiau yn flaenoriaeth.

18.Mae is-adran (3) yn gwahardd awdurdod rhag codi tâl am drefniadau cludo y mae’n ofynnol iddo eu gwneud ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol o dan yr adran hon (ac eithrio mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal ac yn yr achos hwnnw gall adennill costau oddi wrth awdurdod arall o dan adran 18).

19.Mae is-adran (4) yn pennu y caiff trefniadau cludo a wneir o dan yr adran gynnwys darparu cludiant neu dalu’r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau teithio plentyn. Ystyr yr is-adran hon yw y gallai awdurdod gyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (2) drwy drefnu gyda chontractwr bysiau neu dacsi wasanaeth bysiau, a darparu pàs i’w ddefnyddio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ad-dalu treuliau teithio rhieni neu ddysgwyr.

20.Mae is-adrannau (5) i (8) yn diffinio a yw trefniadau’n ‘addas’, a yw ysgol neu gyfleuster addysg arall yn gwneud darpariaeth ‘addas’, ac a oes llwybr ‘ar gael’.

21.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i drefniadau cludo fod, o fewn rheswm, yn rhydd o straen, iddynt beidio â chymryd amser afresymol o hir, ac iddynt fod yn ddiogel.

22.Mae is-adran (6) yn diffinio addasrwydd addysg neu hyfforddiant at ddiben yr adran hon drwy gyfeirio at oed plentyn, ei allu a’i ddoniau, ac at unrhyw anawsterau dysgu.  Nid oes a wnelo dewis iaith, neu famiaith, na chredo neu argyhoeddiad crefyddol y plentyn neu’r rhiant, ddim ag addasrwydd ysgol at ddiben yr adran hon.

23.Mae is-adran (7) yn pennu bod y pellteroedd yn y tabl i’w mesur ar hyd y llwybr byrraf sydd ar gael.  Ymdrinnir ag a oes llwybr ar gael yn is-adran (8) sy’n nodi’r amgylchiadau pan ellir disgwyl i blentyn gerdded i’r ysgol.  Os nad yw’r amgylchiadau hyn yn gymwys, yna ni ellir disgwyl i blentyn gerdded i’r ysgol hyd yn oed pan fydd y pellter rhwng ei gartref a’r ysgol yn llai na’r terfyn pellter sy’n gymwys i’w oed fel a nodir yn y tabl. Yr amgylchiadau yw bod natur y ffordd yn ei gwneud yn ddiogel i blentyn gerdded ar ei ben ei hun neu, pan fo oed y plentyn yn gwneud hynny’n ofynnol, gydag oedolyn yn ei hebrwng.  Os nad yw’r amgylchiadau hyn yn gymwys, mae is-adrannau (1) a (2) yn darparu hawl i drefniadau teithio am ddim onid yw awdurdod wedi gwneud trefniadau i addysgu’r plentyn mewn ysgol addas amgen yn nes at gartref y plentyn.

24.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (9) yn pennu’r amgylchiadau a’r amodau pan fyddai gan blant o oedran ysgol gorfodol hawl i gludiant am ddim.  Caiff rheoliadau ddiwygio’r tabl neu is-adrannau (6), (7) ac (8) neu gofnodion yn y tabl. Er enghraifft, gallai Gweinidogion Cymru newid y meini prawf pellter ac oed sy’n penderfynu cymhwystra a darparu ar gyfer awdurdodau lleol fwy o ddisgresiwn neu lai i weithredu eu polisïau cludiant eu hunain. Byddai unrhyw reoliadau a wneid o dan y ddarpariaeth hon yn cael eu gwneud drwy’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol a byddent yn ddarostyngedig i asesiad effaith rheoleiddiol ac i graffu arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Adran 4 – Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio eraill

25.Mae adran 4 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol os yw’r awdurdod o’r farn bod angen gwneud hynny er mwyn hwyluso’r ffordd i blentyn fynychu’r man perthnasol lle y mae’r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant.

26 Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i drefniadau o dan yr adran hon fod yn ddi-dâl (ac eithrio mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal ac yn yr achos hwnnw caiff yr awdurdod adennill costau oddi wrth awdurdod arall o dan adran 18). Ni chaniateir gan is-adran (4) dalu rhan o dreuliau teithio dysgwr (dim ond y gost lawn y caniateir ei thalu).

27.Wrth ystyried a yw trefniadau teithio o dan yr adran hon yn addas, mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod roi sylw i asesiad o anghenion yr ymgymerir ag ef o dan adran 2(2), y trefniadau cludo y mae’n ddyletswydd arno eu gwneud o dan adran 3, oed y plentyn, unrhyw anabledd neu anhawster dysgu a natur y ffordd. Rhaid i drefniadau, yn rhinwedd is-adran (6), fod yn ddiogel, peidio â chymryd amser afresymol o hir, a rhaid iddynt beidio â pheri lefelau afresymol o straen.

28.Rhaid i awdurdod gael ei fodloni hefyd fod angen y trefniadau. Wrth ystyried hyn, mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol iddo ystyried yr un ffactorau ag a geir yn is-adran (5) ond mae’n caniatáu iddo hefyd ystyried a yw plentyn yn mynychu’r sefydliad addysgol sydd agosaf at ei gartref ac sy’n sefydliad addas. Mae hyn yn gwneud y berthynas rhwng adrannau 3 a 4 yn glir. O dan is-adrannau (7) ac (8) nid oes angen i awdurdod lleol ystyried bod angen trefniadau teithio os nad yw plentyn yn mynychu’r ysgol agosaf sy’n addas (a bod trefniadau wedi eu gwneud i’r plentyn fynychu ysgol sy’n nes at ei gartref ac sy’n addas). Mae is-adran (8)(a) yn ei gwneud yn glir fodd bynnag nad yw hyn yn gymwys mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal. Ni all y cwestiwn a yw plentyn sy’n derbyn gofal yn mynychu’r ysgol agosaf sy’n addas fod yn ffactor i’r awdurdod lleol ei ystyried wrth benderfynu a yw trefniadau teithio’n angenrheidiol.

29.Efallai y bydd awdurdod o’r farn bod angen gwneud trefniadau o dan yr adran hon ar gyfer plentyn nad oes ganddo hawl i gludiant am ddim o dan adran 3 oherwydd amgylchiadau arbennig y plentyn hwnnw. Neu efallai y bydd awdurdod o’r farn bod angen gwneud trefniadau o dan yr adran hon yn ychwanegol at ddarparu cludiant fel sy'n ofynnol o dan adran 3; er enghraifft, bod angen trefnu hebryngwr neu offer ar gyfer plentyn anabl.  Nid oes rhaid i awdurdod ddarparu cludiant.  Gallai, er enghraifft, ddarparu pàs bws ar gyfer dysgwr neu drefnu i blant gerdded gyda hebryngwr i’r man perthnasol. Bydd yr adran hon hefyd yn darparu sail i awdurdodau lleol gefnogi teithio gan blant a chanddynt unrhyw anghenion penodol p’un a yw’r anghenion yn deillio o anhawster dysgu, o anabledd neu o unrhyw ffactor arall sy’n gwneud trefniadau teithio penodol yn angenrheidiol er mwyn hwyluso’r ffordd i blentyn fynychu man perthnasol.

Adran 5 – Terfynau dyletswydd teithio gan ddysgwyr

30.Mae’r adran hon yn gosod terfynau ar ddyletswyddau a roddir ar awdurdodau lleol gan adrannau 2, 3 a 4 fel nad ydynt yn ymestyn i gynnwys teithio yn ystod y dydd neu deithio at ddibenion ac eithrio mynychu man perthnasol i gael addysg a hyfforddiant.

31.Nid yw’n ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i anghenion teithio a allai godi yn ystod y dydd. Mae’r dyletswyddau a osodir gan y Mesur i wneud trefniadau teithio yn ymwneud â theithio o’r cartref i’r ysgol (neu fan perthnasol arall) ac yn ôl adref.

32.Mae’r dyletswyddau i asesu a gwneud trefniadau teithio’n gymwys i deithio i’r mannau a restrir yn adran 1(4) lle y mae dysgwyr yn cael addysg a hyfforddiant ac oddi yno. Mae tripiau ysgol ac ymweliadau preswyl y tu allan i gwmpas y dyletswyddau.

Adran 6 – Pŵer awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio i ddysgwyr

33.Mae’r adran hon yn rhoi i awdurdod lleol bŵer yn ôl ei ddisgresiwn i wneud unrhyw drefniant y mae’n gweld yn dda ei wneud i hwyluso’r ffordd i ddysgwyr deithio i fan lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno. Mae’r pŵer yn gymwys mewn perthynas â dysgwr sy’n byw neu’n astudio yn ardal yr awdurdod.  Gallai hyn gynnwys cludiant i ysgolion ac eithrio’r ysgol agosaf sy’n addas - er enghraifft gallai gynnwys cludiant i ysgolion sydd, neu sydd heb fod, yn grefyddol eu natur neu i ysgolion cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg mewn achosion pan nad yw’r ysgol agosaf sy’n addas wedi bodloni dymuniadau rhieni o ran y materion hyn.  Gallai trefniant gynnwys bod awdurdod lleol yn talu’r cyfan neu ran o dreuliau teithio dysgwr.

34.Yn rhinwedd is-adrannau (3) a (4) gellir codi tâl am y trefniadau hyn. Mewn perthynas â dysgwyr nad ydynt o oedran ysgol gorfodol, nid oes cyfyngiad ar godi tâl. Mewn perthynas â phlant o oedran ysgol gorfodol, os codir tâl rhaid gwneud hynny’n unol ag adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996 (fel y’i diwygir gan adran 22).

35.Mae’r modd i godi tâl neu i dalu’r cyfan neu ran o dreuliau teithio dysgwr yn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol i roi ar waith drefniadau teithio sy’n mynd y tu hwnt i’r gofynion statudol a osodir gan adrannau 3 a 4.

Adran 7 – Trefniadau teithio ar gyfer dysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16

36.Bydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud rheoliadau o dan yr adran hon ynghylch trefniadau teithio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sy’n byw yng Nghymru ac sy’n mynychu cyrsiau yng Nghymru neu yn rhywle arall lle y cyllidir yr addysg neu’r hyfforddiant gan Weinidogion Cymru.

37.Gallai’r rheoliadau wneud darpariaeth debyg i’r ddarpariaeth a wneir yn y Mesur mewn perthynas â phlant o oedran ysgol gorfodol. Gellid gwneud darpariaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol, neu’n caniatáu, i Weinidogion Cymru, i awdurdodau lleol neu i sefydliadau addysg bellach wneud trefniadau teithio, ac a fyddai’n pennu’r math o faterion i’w hystyried wrth wneud trefniadau. Gallai’r rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch codi tâl, gallent fynnu bod cydweithredu â’r person sy’n gysylltiedig â’r trefniadau’n digwydd, a gallent wneud darpariaeth ynghylch gorfodi’r cod ymddygiad wrth deithio a wneir o dan adran 12 ac sy’n nodi safonau ymddygiad i’w harddel wrth deithio.

Adran 8 – Trefniadau teithio i fannau lle y darperir addysg feithrin ac oddi yno

38.Pŵer gwneud rheoliadau yw adran 8 sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i blant oed meithrin. O dan y pŵer hwn gallai Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio i blant o dan oedran ysgol gorfodol sydd mewn addysg feithrin.  Mae is-adran (2) yn disgrifio cwmpas y pwerau gwneud rheoliadau. Gallai’r rheoliadau wneud darpariaeth debyg i’r ddarpariaeth a wneir yn y Mesur mewn perthynas â phlant o oedran ysgol gorfodol a gallent ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu gwybodaeth a chymorth y gallai fod yn rhesymol bod ar awdurdod lleol eu hangen.

Adran 9 – Trefniadau teithio i ddysgwyr a’r rheini’n drefniadau nad ydynt i ffafrio mathau penodol o addysg neu hyfforddiant

39.Mae adran 9 yn gwahardd y trefniadau teithio a wneir o dan adrannau 3, 4 a 6 rhag camwahaniaethu rhwng amryw gategorïau o ddysgwyr.  Gwelir y categorïau yn y tabl.  Rhaid peidio â thrin plant o oedran ysgol gorfodol sydd mewn sefydliadau nad ydynt yn ysgolion a gynhelir yn llai ffafriol na phlant yr un oed mewn ysgolion a gynhelir. Rhaid peidio â thrin dysgwyr eraill sy’n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn sefydliadau nad ydynt yn ysgolion a gynhelir yn llai ffafriol na dysgwyr yr un oed mewn ysgolion a gynhelir. Yn yr un modd ni ddylid camwahaniaethu rhwng y rhai sydd yr un oed a chanddynt anawsterau dysgu neu anabledd neu sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy’n mynychu sefydliadau ac eithrio ysgolion a gynhelir, a’r rhai sy’n mynychu ysgolion a gynhelir.  Mae’n diogelu’r egwyddor bod dysgwyr sy’n elwa o drefniadau teithio yn cael eu trin yn deg.

Adran 10 – Hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg

40.Mae’r adran hon yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol ac ar Weinidogion Cymru, pan fyddant yn arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur hwn, i hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Adran 11 – Dulliau teithio cynaliadwy

41.Mae adran 11 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol ac ar Weinidogion Cymru i hybu dulliau teithio cynaliadwy pan fyddant yn arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur.  Golyga hyn y dylai awdurdod lleol ystyried cynaliadwyedd pan fydd yn asesu anghenion teithio dysgwyr o dan adran 2(2).  Rhaid ystyried a hybu cynaliadwyedd hefyd pan wneir trefniadau teithio gan awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru.  Er enghraifft, gallai hyn olygu annog dysgwyr i deithio ar fws yn hytrach nag mewn car.

42.Mae is-adran (2) yn diffinio ‘dulliau teithio cynaliadwy’ fel dulliau y mae’r awdurdod neu Weinidogion Cymru o’r farn y gallant wella llesiant corfforol y rhai sy’n eu defnyddio a llesiant/neu lesiant amgylchedd ardal gyfan yr awdurdod neu ran ohoni, neu Gymru gyfan neu ran ohoni (yn achos Gweinidogion Cymru).

Adran 12 – Cod ymddygiad wrth deithio

43.Mae adran 12 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio ac adolygu o bryd i’w gilydd god ymddygiad wrth deithio sy’n nodi’r safonau ymddygiad y mynnir bod dysgwyr yn eu harddel wrth deithio i’r man lle y maent yn cael eu haddysgu ac oddi yno.

44.Bydd y Cod yn gymwys i bob dysgwr o dan 19 oed yn ogystal ag i’r sawl sydd wedi cyrraedd 19 oed ac sy’n parhau i fynychu cwrs addysg neu hyfforddiant y bu iddo gychwyn arno pan oedd o dan 19 oed (is-adran (3)). Gall Gweinidogion Cymru, o dan is-adran (3)(c), wneud rheoliadau sy’n pennu dysgwyr eraill.

45.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cod ac mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymgynghori cyn gwneud neu ddiwygio’r cod.

Adran 13 – Gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: dysgwyr mewn ysgolion perthnasol

46.Mae adran 13 yn diwygio adran 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006. Mae adran 89 o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol benderfynu beth fydd polisi ymddygiad ysgol. Mae is-adran (2) o’r adran honno’n ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ddilyn datganiad neu ganllawiau corff llywodraethu ar ddisgyblaeth ysgol pan fydd yn penderfynu ar fesurau ar gyfer ymddygiad plant. Mae is-adran (2A) newydd o adran 89 a fewnosodir gan yr adran hon yn rhoi dyletswydd ar benaethiaid i benderfynu ar fesurau disgyblaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddisgyblion mewn ysgolion perthnasol yng Nghymru gydymffurfio â’r cod ymddygiad wrth deithio a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o’r Mesur.

47.Mae is-adran (3A) newydd o adran 89 o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r pennaeth benderfynu pa safon ymddygiad sy’n dderbyniol mewn ysgol i’r graddau nad yw’n cael ei phenderfynu gan y corff llywodraethu neu gan Weinidogion Cymru (mewn perthynas â theithio at ddibenion addysg a hyfforddiant). Mae adran 89(5) o Ddeddf 2006 yn caniatáu i bennaeth benderfynu ar fesurau i reoleiddio ymddygiad disgyblion pan nad ydynt ar fangre’r ysgol neu o dan reolaeth aelod o staff yr ysgol neu yn ei ofal. Mae is-adran (6) yn darparu nad yw adran 89(5) yn gymwys o ran Cymru, ond gwneir yr un ddarpariaeth yn is-adran (5A) newydd o adran 89 ond gyda chyfeiriad at is-adran (2A) newydd o adran 89 a fewnosodir gan yr adran hon.

Adran 14 – Gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu’n ôl drefniadau teithio

48.Mae’r adran hon yn caniatáu i awdurdod lleol dynnu’n ôl drefniadau teithio i ddysgwr nad yw’n cydymffurfio â’r cod ymddygiad a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12. Mae’r adran yn gymwys i bob dysgwr y mae’r awdurdod yn gwneud trefniadau teithio o dan adrannau 3 neu 4 ar ei gyfer. A dibynnu a yw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol ai peidio, mae amodau’n gymwys mewn ffordd wahanol.

49.Mae is-adrannau (14) ac (15) yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a gaiff ddiwygio neu ddiddymu’r cyfnodau hwyaf a nodir yn is-adrannau (9) a (10) pan yw’r trefniadau teithio wedi eu tynnu’n ôl, yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau a wnaed o dan is-adran (2) i dynnu cludiant yn ôl ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn y cyfryw benderfyniadau.

Adran 15 – Canllawiau a chyfarwyddiadau

50.Pan fydd awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach yn arfer unrhyw un neu rai o’u swyddogaethau o dan y Mesur, mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt roi ystyriaeth i ganllawiau a ddyroddir o byd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru.

51.At hynny, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau wneud trefniadau teithio i ddysgwyr, neu gydymffurfio â chyfarwyddyd pan fyddant yn eu gwneud (is-adrannau (2) a (3)).  Gall cyfarwyddiadau o’r fath gael eu rhoi i un awdurdod neu fwy neu eu rhoi’n gyffredinol o dan is-adran (4).  Mae’r pŵer hwn i roi cyfarwyddyd yn debyg i bŵer a ddarperir gan adrannau 509(1) a 509AA(9) o Ddeddf Addysg 1996.  Mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd ar achosion unigol neu ynghylch materion polisi mwy cyffredinol.  Caniateir i’r pŵer gael ei arfer ni waeth a yw awdurdod lleol wedi methu â chyflawni ei ddyletswyddau ai peidio.  Nid yw’n disodli’r pwerau cyfarwyddo mwy cyffredinol sydd gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 496-497A o Ddeddf Addysg 1996, nac yn effeithio arnynt.

Adran 16 – Gwybodaeth am drefniadau teithio

52.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi gwybodaeth ynghylch yr asesiad o dan adran 2, ynghylch y trefniadau a wneir gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru ar gyfer teithio gan ddysgwyr ac ynghylch y cod ymddygiad wrth deithio.  Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi gwybodaeth am ei bolisi cludiant mewn cysylltiad ag ysgolion o dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999.  Mae rheoliad 6 yn y Rheoliadau hynny’n pennu gofynion ynghylch pryd i gyhoeddi’r wybodaeth ac ym mha ddull.  Mae adran 509AA o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn ofynnol hefyd ar hyn o bryd i awdurdod lleol gyhoeddi datganiad polisi cludiant bob blwyddyn ar gyfer personau o ‘oedran chweched dosbarth’.

53.Mae Atodlenni 1 a 2 i’r Mesur yn diwygio ac yn diddymu darpariaethau yn adran 509AA fel na fydd yn rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru mwyach gyhoeddi datganiad polisi cludiant ar gyfer dysgwyr oedran chweched dosbarth. Bydd rheoliadau a wneir o dan adran 16 yn disodli’r gofyniad a ddiddymwyd ac yn cysoni’r gofynion i gyhoeddi gwybodaeth ar gyfer dysgwyr o oedran chweched dosbarth â’r hyn y mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 eisoes yn ei wneud yn ofynnol ar gyfer plant ysgol.  Bydd hyn yn creu set unedig o ofynion.

Adran 17 – Cydweithredu: gwybodaeth a chymorth arall

54.O dan is-adran (1) mae ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad addysg bellach ddyletswydd i gydweithredu ag awdurdod lleol.  Rhaid iddo roi i’r awdurdod wybodaeth neu gymorth arall y mae ei hangen neu ei angen er mwyn i’r awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Mesur. Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi i’w gilydd wybodaeth neu gymorth y gallai fod yn rhesymol fod arnynt ei hangen neu ei angen er mwyn iddynt wneud asesiadau a threfniadau teithio.  Bydd hyn yn sicrhau y gellir cyflawni swyddogaethau’n effeithiol pan fydd dysgwyr yn teithio rhwng awdurdodau neu pan fydd plentyn yn byw mewn dau awdurdod gwahanol.

55.O dan is-adran (3) a (4) rhaid i awdurdodau lleol a phenaethiaid gynorthwyo’i gilydd hefyd mewn perthynas â gorfodi’r cod ymddygiad wrth deithio.

Adran 18 – Talu costau teithio gan awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo

56.Mae’r adran hon yn ymwneud ag amgylchiadau pan fo un awdurdod lleol  yn gwneud trefniadau teithio ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod gwahanol (yr awdurdod cyfrifol y mae arno gyfrifoldeb corfforaethol am y plentyn) yng Nghymru.  Mae’n darparu’r pŵer i’r awdurdod lleol sy’n gwneud y trefniadau teithio alw am i’r awdurdod cyfrifol y mae’r plentyn yn derbyn gofal ganddo ad-dalu costau ac yn mynnu bod yr awdurdod cyfrifol hwn yn cydymffurfio â’r galw am ad-dalu.

Adran 19 – Penderfynu ar breswylfa arferol mewn amgylchiadau penodol

57.Mae’r adran hon yn nodi’r darpariaethau ar gyfer penderfynu ar breswylfa arferol person mewn amgylchiadau penodol.  Os nad oes gan berson breswylfa arferol, mae is-adran (1) yn datgan y dylai’r person gael ei drin at ddibenion y Mesur fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y man lle y mae’n preswylio am y tro.

58.Mae is-adrannau (2) i (6) yn gwneud darpariaeth i blentyn neu berson ifanc a chanddo fwy nag un cartref.  Os nad yw rhieni plentyn yn cyd-fyw ond bod y plentyn yn byw gyda’r naill riant a’r llall, neu gyda rhiant ac mewn cartref plant hefyd, yna dylid ystyried bod y ddau fan preswyl yn fan preswyl arferol i’r plentyn at ddibenion y Mesur.  Os oes mwy na dau o’r cyfryw fannau yna mae is-adran (6) yn datgan mai dim ond y ddau fan agosaf at yr ysgol neu’r sefydliad addysg fydd yn cyfrif.

59.Mae is-adran (7)(b) yn ei gwneud yn glir mai ystyr “rhiant” yw rhiant o fewn yr ystyr sydd i “parent” yn adran 576(1) o Ddeddf Addysg 1996 ac sy’n unigolyn.  Mae’r adran honno’n diffinio’r term rhiant fel pe bai’n cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sy’n berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant neu sy’n gofalu am y plentyn neu’r person ifanc.  Gall y diffiniad hwn felly gynnwys tad-cu, mam-gu, nain a thaid, perthnasau eraill a gofalwyr maeth.

Adran 20 – Diwygiadau i Ddeddf Addysg 1996

60.Mae adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 yn creu’r tramgwydd ar ran rhiant o fethu â sicrhau bod disgybl cofrestredig yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Mae adran 20 yn diwygio adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 drwy roi, yn lle’r hen un, is-adran (4) newydd i gyfeirio at ddyletswyddau awdurdod lleol o dan y Mesur hwn, a thrwy wneud diwygiad canlyniadol i is-adran (5). Bydd gan riant amddiffyniad i erlyniad os bydd awdurdod lleol wedi methu â chyflawni dyletswydd o dan y Mesur hwn i wneud trefniadau teithio.

Adran 21 – Diwygiadau i Ddeddf Addysg 2002

61.Mae adran 21 yn gwneud diwygiadau ar gyfer Cymru i adrannau 32 a 210 o Ddeddf Addysg 2002.  Mae adran 32 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol benderfynu amserau sesiynau ysgol.  Pŵer gwneud rheoliadau yw is-adran (3) o adran 32 o Ddeddf Addysg 2002 sy’n llywodraethu’r weithdrefn ar gyfer newid amserau sesiynau ysgol, ac yng Nghymru (ar yr adeg y pasiwyd y Mesur hwn) gwneir y cyfryw newidiadau yn unol â Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000.

62.Mae is-adran (2) yn mewnosod is-adrannau (5) i (10) newydd yn adran 32 o Ddeddf 2002. Pan fydd awdurdod lleol yn fodlon y byddai newid amser sesiynau ysgol yn hybu dulliau teithio cynaliadwy neu’n ychwanegu at effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau teithio, gall newid amserau’r sesiynau. Bydd yn gwneud hynny drwy hysbysu’r corff llywodraethu. Os oes gan ysgol ddwy sesiwn mewn diwrnod, bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu faint o’r gloch y bydd sesiwn y bore’n dechrau a sesiwn y prynhawn yn gorffen.  Bydd y corff llywodraethu’n cadw’r pŵer i bennu faint o’r gloch y bydd sesiwn y bore’n gorffen a sesiwn y prynhawn yn dechrau. Ond os un sesiwn yn unig sydd gan ysgol mewn diwrnod, yr awdurdod fydd yn penderfynu faint o’r gloch y bydd yn dechrau ac yn gorffen. Ceir cyfieithiad cwrteisi o’r mewnosodiad hwn yn yr Atodiad i’r fersiwn Gymraeg hon o’r nodiadau esboniadol hyn.

63.Mae pŵer corff llywodraethu ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig i bennu dyddiadau tymhorau a gwyliau’n parhau’n ddigyfnewid yn sgil adran 21.

64.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (9) newydd o adran 32 o Ddeddf 2002 ynghylch sut y dylai awdurdod lleol ddyroddi hysbysiad ac ynghylch materion perthynol ynglŷn â chynnwys hysbysiad. O dan is-adran (10) newydd o adran 32 bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru pan fydd yn defnyddio’r pŵer newydd hwn.

65.Mae adran 210 o Ddeddf 2002 yn rhagnodi sut y mae gorchmynion a rheoliadau o dan Ddeddf 2002 i’w gwneud.  Effaith y diwygiad a wneir gan adran 18(3) fydd gwneud y pŵer gwneud gorchmynion a fewnosodir yn adran 32(9) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

66.Mae adran 210(6A) yn rhagnodi bod unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 32(9) yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol.  Mae adran 210(6B) yn amlygu beth fydd effaith Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Adran 22 – Diwygiadau i adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996

67.Mae adran 22 yn gwneud diwygiadau i adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996.  Mae adran 455 yn caniatáu codi tâl ac mae adran 456 yn ymwneud â’r rheoliad am daliadau a ganiateir.  Mae’r diwygiadau a wneir gan adran 22 yn cymryd i ystyriaeth y pŵer a roddir gan adran 6 o’r Mesur i awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio.  Mae codi tâl am y trefniadau teithio hynny mewn cysylltiad â phlant o oedran ysgol gorfodol yn ddarostyngedig i’r rheolau yn Neddf 1996. Mae’r rhain yn cynnwys darparu i riant plentyn dalu taliadau a ganiateir ac i awdurdodau benderfynu polisi codi tâl a pheidio â chodi tâl. Mae’r diwygiad a wneir gan is-adran (3) yn caniatáu i dâl a godir am drefniadau teithio a ddarperir yn unol ag adran 6 fod yn fwy na chost darparu’r trefniadau.

Adran 23 – Diwygio Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006

68.Mae adran 23 yn gwneud diwygiadau i adrannau 162 a 181 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac yn mewnosod adran 182A newydd yn y Ddeddf honno.  Mae adran 162 yn rhagnodi’r pŵer i ddiddymu cyfeiriadau at awdurdod addysg lleol mewn Deddfau ac mewn offerynnau statudol.  Bydd y diwygiad a wneir gan adran 23 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio cyfeiriadau at awdurdod addysg lleol mewn Mesurau.

69.Mae adran 181 o Ddeddf 2006 yn rhagnodi sut y mae gorchmynion a rheoliadau o dan Ddeddf 2006 i gael eu gwneud.  Effaith y diwygiad a wneir o dan adran 23 o’r Mesur fydd gwneud y pŵer gwneud gorchmynion a fewnosodir yn adran 162 o Ddeddf 2006 yn arferadwy drwy offeryn statudol.

70.Mae adran 182A(1) newydd o Ddeddf 2006 yn rhagnodi bod yn rhaid i unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 162(5A) o Ddeddf 2006 gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad (y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol).  Mae adran 182A(2) newydd o Ddeddf 2006 yn amlygu beth yw effaith Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Adran 24 – Dehongli cyffredinol

71.Mae is-adran (1) yn diffinio terminoleg a ddefnyddir yn y Mesur.

72.Mae is-adran (2) yn diffinio plentyn sy’n ‘derbyn gofal’, at ddibenion y Mesur, fel pe bai iddo’r un ystyr ag sydd i ‘looked after’ child yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989, sef plentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol (yr awdurdod cyfrifol) neu y darperir llety iddo gan awdurdod lleol tra bo’r awdurdod yn arfer unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf honno.

73.Mae is-adran (3) yn darparu bod y Mesur i’w ddarllen fel pe bai’r Mesur a Deddf Addysg 1996 yn un endid. Golyga hyn fod y diffiniadau yn y Ddeddf honno i’w trosglwyddo wrth eu darllen i’r Mesur hwn, ac mae’r darpariaethau cyffredinol yn y Ddeddf honno’n gymwys i’r Mesur. Er enghraifft bydd pwerau Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo o dan adrannau 496, 497 a 497A o Ddeddf 1996 yn gymwys mewn perthynas â swyddogaethau a roddir i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu gan y Mesur. Mae’r diffiniadau a geir yn is-adran (1) yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddiffiniadau a ddefnyddir yn Neddf Addysg 1996 os bydd yr ystyr yn wahanol (is-adran (4)).

Adran 25 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

74.Mae adran 25 yn rhoi effaith i Atodlen 1 sy’n cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Adran 26 – Diddymiadau

75.Mae adran 26 yn rhoi effaith i Atodlen 2 sy’n cynnwys diddymiadau i ddeddfiadau eraill fel a bennir.

Adran 27 – Gorchmynion a rheoliadau

76.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw orchmynion neu reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Bydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud darpariaethau gwahanol ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol, gwneud darpariaethau ar gyfer achosion penodol neu eu gwneud yn fwy cyffredinol a gwneud darpariaethau cysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed.

77.Mae adran 27 hefyd yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud, drwy gyfrwng rheoliadau, ddarpariaeth ganlyniadol ac i ddiwygio neu i ddiddymu darpariaethau Mesurau Cynulliad, Deddfau neu is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn y Mesur.  Pwrpas is-adran (3) yw caniatáu i Weinidogion Cymru wneud newidiadau sydd yn eu barn hwy’n angenrheidiol, yn hwylus neu’n ganlyniadol, i roi effaith i reoliadau a wneir o dan adrannau 3(9), 7 neu 8 o’r Mesur. Rheoliadau yw’r rhain ynghylch y gofynion sydd ar awdurdodau lleol i drefnu cludiant ar gyfer plant ysgol, cludiant ar gyfer dysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16 ac i ddarparu cludiant ar gyfer plant mewn addysg feithrin.

78.Mae is-adrannau (5) i (7) yn nodi’r gweithdrefnau a fydd yn gymwys i unrhyw offeryn statudol a wneir o dan adrannau gwahanol o’r Mesur. Bydd yn rhaid i reoliadau sy’n cynnwys darpariaethau a restrir yn is-adran (7) gael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a’u cymeradwyo ganddo drwy benderfyniad (y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol). Rheoliadau yw’r rhain sy’n diwygio amgylchiadau dysgwyr y mae ganddynt hawl i gludiant o dan adran 3, sy’n rheoliadau ynghylch cludiant i ddysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16 o dan adran 7, yn rheoliadau ynghylch trefniadau teithio i blant mewn addysg feithrin o dan adran 8, yn rheoliadau o dan adran 14(14)(a) sy’n diwygio neu ddiddymu’r cyfnodau pan fydd cludiant wedi ei dynnu’n ôl ar sail mynd yn groes i’r cod ymddygiad wrth deithio, ac sy’n unrhyw reoliadau sy’n diwygio Deddf Seneddol neu Fesur Cynulliad (pŵer Harri’r VIII).  Mae is-adran (5) yn darparu bod y weithdrefn penderfyniad negyddol i fod yn gymwys i unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan y Mesur.

Adran 28 – Cychwyn

79.Daw darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru.  Mae is-adran (1) yn gwneud eithriadau i adrannau 27 a 29 a fydd yn dod i rym yn awtomatig ddeufis ar ôl cymeradwyo’r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor.

Adran 29 – Teitl byr

80.Mae’r adran hon yn cadarnhau mai ‘Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008’ yw enw’r Mesur.

Atodlen 1

81.Cyflwynir Atodlen 1 gan adran 25.  Mae’r Atodlen yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i amryw Ddeddfau Seneddol.

Atodlen 2

82.Cyflwynir Atodlen 2 gan adran 26.  Mae’r Atodlen yn rhestru amryw o ddarpariaethau Deddfau Seneddol a ddiddymir.