ATODLEN 2DIDDYMIADAU

(cyflwynir gan adran 26)

Enw byr a phennod

Graddau'r diddymiad

Deddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981 (p.14)

Yn adran 46(3)(a) y geiriau “section 509(1) or (1A)”.

Deddf Trafnidiaeth 1985 (p.67)

Yn adran 6(1B) y geiriau “section 509(1) or (1A)” ym mharagraff (a) a'r gair “or” ym mharagraff (b).

Deddf Addysg 1996 (p.56)

Yn adran 444(5) y geiriau “and (4)”.

Yn adran 455, yn is-adran (1)(c) y geiriau “or 509(2)” ac yn is-adran (2)(b) “or” ar ddiwedd yr is-adran.

Adran 509.

Yn adran 509AA, yn is-adran (2)(d) y geiriau “or the National Assembly for Wales”, is-adran (9A), ac yn is-adran (10) y geiriau “(in relation to local education authorities in England) or the National Assembly for Wales (in relation to local education authorities in Wales)”.

Yn adran 509AB, is-adran (4), yn is-adran (6)(c) y geiriau “(in the case of a local education authority in England)”, yn is-adran (6)(d) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair hwnnw'n ymddangos.

Yn adran 509AC, is-adran (3), yn is-adran (6) y geiriau ar ôl “subsection (5)” i ddiwedd yr is-adran, is-adran (7).

Yn adran 509A, yn is-adran (5), y geiriau “in relation to England,” a pharagraff (b).

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)

Atodlen 30, paragraff 133.

Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21)

Atodlen 9, paragraff 59.

Deddf Addysg 2002 (p.32)

Atodlen 19, paragraff 2.

Atodlen 21, paragraff 51.

Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40)

Adran 83, is-adran (1), yn is-adran (2) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair yn ymddangos, ac is-adran (3).

Atodlen 10, paragraffau 4 a 5(b).