ApelauLL+C
[F115(1)Ni chaiff rheoliadau ddarparu am apelio ac eithrio i—
(a)y Tribiwnlys Haen Gyntaf, neu
(b)tribiwnlys arall a grëwyd o dan ddeddfiad (o fewn ystyr adran 14H(5)).
(2)Yn is-baragraff (1)(b) nid yw “tribiwnlys” yn cynnwys llys barn arferol.
(3)Os yw'r rheoliadau yn darparu am apêl mewn perthynas â gosod unrhyw ofyniad neu gyflwyniad unrhyw hysbysiad, cânt gynnwys—
(a)darpariaeth sy'n atal y gofyniad neu'r hysbysiad dros dro wrth aros i'r apêl ddod i ben;
(b)darpariaeth am bwerau'r tribiwnlys yr apelir iddo;
(c)darpariaeth am sut y mae adennill unrhyw swm sy'n daladwy yn unol â phenderfyniad gan y tribiwnlys hwnnw.
(4)Mae'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (3)(b) yn cynnwys darpariaeth sy'n rhoi i'r tribiwnlys yr apelir iddo bŵer—
(a)i dynnu'r gofyniad neu'r hysbysiad yn ôl;
(b)i gadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad;
(c)i gymryd y camau y gallai'r awdurdod gorfodi eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gofyniad neu'r hysbysiad;
(d)i anfon y penderfyniad ynghylch p'un ai i gadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy'n ymwneud â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl i'r awdurdod gorfodi;
(e)i ddyfarnu costau.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. A1 wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), a. 16(2), Atod.