F1ATODLEN A1COSBAU SIFIL
Gofynion yn ôl disgresiwn: gorfodi
6
(1)
Caiff darpariaeth o dan baragraff 4 gynnwys darpariaeth i berson dalu cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) i awdurdod gorfodi os yw'r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad heb fod yn ariannol yn ôl disgresiwn a osodir ar y person.
(2)
Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1)—
(a)
pennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio neu ddarparu i'r swm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â'r rheoliadau, neu
(b)
darparu i'r swm gael ei benderfynu gan yr awdurdod gorfodi neu drwy rhyw ffordd arall.
(3)
Os yw rheoliadau yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2)(b), rhaid iddynt, mewn perthynas â phob math o fethiant y caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio—
(a)
pennu'r gosb uchaf y caniateir ei gosod am fethiant o'r math hwnnw, neu
(b)
darparu am benderfynu'r gosb uchaf honno yn unol â'r rheoliadau.
(4)
Rhaid i ddarpariaeth o dan is-baragraff (1) sicrhau —
(a)
bod y gosb am beidio â chydymffurfio yn cael ei gosod drwy hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi, a
(b)
bod y person y gosodir hi arno yn cael apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.
(5)
Rhaid i ddarpariaeth yn unol â pharagraff (b) o is-baragraff (4) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn hysbysiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw yn cynnwys y canlynol—
(a)
bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad wedi ei seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)
bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;
(c)
bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol am unrhyw reswm (gan gynnwys, mewn achos pan benderfynwyd swm y gosb am beidio â chydymffurfio gan yr awdurdod gorfodi, bod y swm yn afresymol).