Prif dermau
1Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn
1
Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.
2
Trefniadau teithio, ni waeth beth fo'r disgrifiad ohonynt, yw “trefniadau teithio” ac maent yn cynnwys—
a
darparu cludiant;
b
darparu un person neu fwy i hebrwng plentyn pan fydd yn teithio;
c
talu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;
d
talu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio dulliau teithio penodol.
3
Ystyr “dysgwyr” yw personau sy'n cael addysg neu hyfforddiant.
4
Mae “mannau perthnasol” fel a ganlyn—
a
ysgolion a gynhelir;
b
sefydliadau yn y sector addysg bellach;
c
ysgolion annibynnol a enwir mewn datganiadau a gedwir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56);
d
ysgolion arbennig nas cynhelir;
e
unedau cyfeirio disgyblion;
f
mannau ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion lle y trefnir addysg o dan adran 19(1) o Ddeddf Addysg 1996;
g
mannau lle y darperir addysg neu hyfforddiant a gyllidir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21);
h
sefydliadau lle y sicrhawyd addysg a hyfforddiant a llety byrddio gan Weinidogion Cymru o dan adran 41 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;
i
mannau lle y darperir addysg feithrin—
i
gan awdurdod lleol, neu
ii
gan unrhyw berson arall sy'n cael cymorth ariannol a roddir gan awdurdod lleol o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yn unol â'r ddyletswydd a osodir gan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);
j
mannau lle yr ymgymerir â phrofiad gwaith.