CyffredinolLL+C

27Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu [F1ddosbarthau ar achos neu ddibenion gwahanol neu] ardaloedd gwahanol;

[F2(aa)i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;]

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion [F3neu ddosbarthau ar achos] penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 3(9), F4... [F57, 8, 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1] hefyd yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth ganlyniadol ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda ei gwneud.

(4)Caiff y ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol, arbed neu ganlyniadol sydd i'w gwneud mewn rheoliadau gynnwys y cyfryw ddarpariaeth ag sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un o ddarpariaethau—

(a)y Mesur hwn neu unrhyw un arall o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a basiwyd cyn y Mesur hwn neu yn yr un flwyddyn Cynulliad ag ef;

(b)Deddf a basiwyd cyn pasio'r Mesur hwn;

(c)is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.

[F6(4A)Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae'r cyfeiriad at “y Mesur hwn” yn is-adran (4) i'w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2011.]

(5)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (7) yn gymwys iddynt.

(7)Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill)—

(a)rheoliadau o dan adran 3(9),

(b)rheoliadau o dan adran 7,

(c)rheoliadau o dan adran 8,

(d)rheoliadau o dan adran 14(14)(a), F7...

[F8(da)rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu]

[F8(db)gorchymyn o dan adran 14N(6).]

(e)rheoliadau o dan is-adran (4) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Deddf neu Fesur Cynulliad,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.