Cyffredinol

I127Gorchmynion a rheoliadau

1

Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

2

Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

a

i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu F2ddosbarthau ar achos neu ddibenion gwahanol neu ardaloedd gwahanol;

F3aa

i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;

b

i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion F4neu ddosbarthau ar achos penodol;

c

i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

3

Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 3(9), F5... F67, 8, 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1 hefyd yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth ganlyniadol ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda ei gwneud.

4

Caiff y ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol, arbed neu ganlyniadol sydd i'w gwneud mewn rheoliadau gynnwys y cyfryw ddarpariaeth ag sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un o ddarpariaethau—

a

y Mesur hwn neu unrhyw un arall o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a basiwyd cyn y Mesur hwn neu yn yr un flwyddyn Cynulliad ag ef;

b

Deddf a basiwyd cyn pasio'r Mesur hwn;

c

is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.

F14A

Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae'r cyfeiriad at “y Mesur hwn” yn is-adran (4) i'w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2011.

5

Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

6

Nid yw is-adran (5) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (7) yn gymwys iddynt.

7

Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill)—

a

rheoliadau o dan adran 3(9),

b

rheoliadau o dan adran 7,

c

rheoliadau o dan adran 8,

d

rheoliadau o dan adran 14(14)(a), F7...

F8da

rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu

F8db

gorchymyn o dan adran 14N(6).

e

rheoliadau o dan is-adran (4) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Deddf neu Fesur Cynulliad,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.