Trefniadau teithio i ddysgwyrLL+C

4Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio eraillLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn o oedran ysgol gorfodol—

(a)os yw'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant mewn man perthnasol,

(b)os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol, ac

(c)os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod angen trefniadau teithio er mwyn hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y man perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau teithio addas i hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.

(3)Rhaid i awdurdod lleol beidio â chodi tâl ar blentyn neu riant sy'n unigolyn am unrhyw drefniadau teithio a wneir yn unol ag is-adran (2).

(4)Caiff trefniadau teithio a wneir yn unol ag is-adran (2) gynnwys talu'r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau teithio plentyn.

(5)Wrth ystyried a yw trefniadau teithio yn addas at ddibenion yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw'n benodol—

(a)i'r asesiad a wneir ganddo yn unol ag adran 2(2);

(b)i'r trefniadau cludo y mae dyletswydd arno i'w gwneud ar gyfer y plentyn o dan adran 3;

(c)i oed y plentyn;

(d)i unrhyw anabledd neu anhawster dysgu sydd gan y plentyn;

(e)i natur y ffyrdd y gellid yn rhesymol ddisgwyl i'r plentyn eu dilyn.

(6)At ddibenion yr adran hon nid yw trefniadau teithio'n addas—

(a)os ydynt yn peri lefelau afresymol o straen i'r plentyn,

(b)os ydynt yn cymryd amser afresymol o hir, neu

(c)os nad ydynt yn ddiogel.

(7)Wrth ystyried a yw trefniadau teithio'n angenrheidiol at ddibenion yr adran hon—

(a)rhaid i awdurdod lleol roi sylw'n benodol i'r materion a bennir yn is-adran (5);

(b)caiff awdurdod lleol roi sylw'n benodol i ba un a yw'r plentyn yn mynychu'r man perthnasol addas agosaf at fan preswyl arferol y plentyn ai peidio.

(8)Mae is-adran (7)(b) yn gymwys—

(a)os nad yw'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

(b)os yw trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i fynychu man perthnasol addas sy'n nes at fan preswyl arferol y plentyn.

(9)At ddibenion yr adran hon, mae man perthnasol yn addas i blentyn os yw'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yno yn addas, o ystyried oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 4 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2