Trefniadau teithio i ddysgwyr
6Pŵer awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio i ddysgwyr
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â dysgwr—
(a)
os yw'r dysgwr yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu
(b)
os yw'r dysgwr yn cael addysg neu hyfforddiant yn ardal yr awdurdod lleol.
(2)
Caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau teithio i hwyluso'r ffordd i'r dysgwr fynychu man lle y mae'r person hwnnw'n cael addysg neu hyfforddiant.
(3)
Caiff awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio a wneir o dan yr adran hon ar gyfer disgyblion cofrestredig o oedran ysgol gorfodol yn unol â darpariaethau adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996.
(4)
Caiff awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio a wneir o dan yr adran hon ar gyfer dysgwyr eraill.