Search Legislation

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 8

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Adran 8 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 08 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

8Trefniadau teithio i fan lle y darperir addysg feithrin ac oddi ynoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i blant o dan oedran ysgol gorfodol i'r mannau lle y maent yn cael addysg feithrin ac oddi yno.

(2)Caiff y rheoliadau'n benodol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;

(b)caniata[acute]u i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;

(c)pennu'r mathau o fan y caniateir gwneud, neu y mae'n rhaid gwneud, trefniadau teithio yno ac oddi yno;

(d)pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;

(e)pennu'r materion y mae'n rhaid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;

(f)gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;

(g)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan y rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 8 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

Back to top

Options/Help