Trefniadau teithio i ddysgwyr

9Trefniadau teithio i ddysgwyr a'r rheini'n drefniadau nad ydynt i ffafrio mathau penodol o addysg neu hyfforddiant

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys os gwneir trefniadau o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 mewn cysylltiad â dysgwyr o fath a ddisgrifir mewn cofnod yng ngholofn 1 y tabl a ganlyn.

(2)

Rhaid gwneud trefniadau hefyd yn unol â'r adrannau hynny mewn cysylltiad â'r dysgwyr o fath a ddisgrifir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 y tabl.

(3)

Rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) beidio â bod yn llai ffafriol na'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

TABL

Colofn 1

Colofn 2

Plant o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.

Plant yr un oed sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.

Dysgwyr sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ac sy'n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn ysgolion a gynhelir.

Dysgwyr yr un oed sy'n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn mannau perthnasol eraill.

Dysgwyr a chanddynt anawsterau dysgu sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.

Dysgwyr yr un oed a chanddynt anawsterau dysgu sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.

Dysgwyr a chanddynt anabledd sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.

Dysgwyr yr un oed a chanddynt anabledd sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.

Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.

Plant yr un oed sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.