Mae adrannau 4-18 yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Addysg 2002
Adran 4 Llunio'r cwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 (adran 116A o Ddeddf Addysg 2002)
12.Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer llunio yn ardal pob awdurdod addysg lleol gwricwlwm lleol neu gwricwla lleol ar gyfer disgyblion 14-16 oed (disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4).
13.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod addysg lleol i lunio o leiaf un cwricwlwm lleol i ddisgyblion 14-16 oed yn ei ardal.
14.Mae is-adran (2) yn datgan bod yn rhaid i gwricwlwm lleol gynnwys cyrsiau astudio addas sy'n dod o fewn y meysydd dysgu a osodir yn is-adran (3), ac a ddetholir gan yr awdurdod lleol. O dan is-adran (6), mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu drwy gyfarwyddyd pa gyrsiau astudio sy'n addas ar gyfer eu cynnwys mewn cwricwla lleol. Yna bydd yr awdurdod lleol yn dewis o'r rhestr honno o gyrsiau addas.
15.Mae is-adran (3) yn disgrifio'r meysydd dysgu sy'n ffurfio'r categorïau ym mhob cwricwlwm lleol.
16.Mae is-adran (4) yn darparu disgresiwn i awdurdodau lleol i lunio cwricwlwm lleol i fodloni anghenion lleol, yn ddarostyngedig i reoliadau y caniateir eu gwneud o dan is-adran (5).
17.Mae is-adran (5) yn gwneud darpariaeth i reoliadau gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru o ran llunio cwricwlwm lleol, er enghraifft i osod lleiafswm nifer y cyrsiau y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cwricwlwm lleol neu leiafswm cyfran y cyrsiau astudio galwedigaethol sydd i'w cynnwys mewn cwricwlwm lleol.
18.Mae is-adran (6) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ddynodi cwrs astudio yn un galwedigaethol ei natur neu'n “suitable” at ddibenion yr adran hon ac i bennu manylion y maes dysgu penodol y mae cwrs astudio yn cael ei osod ynddo.
19.Is-adran (7) – Mae hon yn caniatáu i reoliadau ddarparu ar gyfer gofynion gwahanol ar gyfer cwricwla lleol mewn ardaloedd gwahanol. Er enghraifft, fe all fod lleiafswm nifer o gyrsiau mewn rhai ardaloedd y mae'n rhaid eu cynnwys yn eu cwricwla lleol sy'n uwch nag ydyw mewn ardaloedd eraill.
Adran 5 Cwricwla lleol: Y Gymraeg (adran 116B o Ddeddf Addysg 2002)
20.Mae'r adran hon yn darparu, bod yn rhaid i awdurdodau addysg lleol wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o ran y cwricwlwm lleol, hybu mynediad at gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd hyrwyddo’r ffaith eu bod ar gael. Bydd hyn yn gymwys, er enghraifft, i'r awdurdodau pan fyddant yn llunio eu cwricwlwm lleol ar gyfer eu hardal. Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, bydd awdurdodau addysg lleol hefyd o dan ddyletswydd i roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Mae'r adran hefyd yn gosod gofyniad i adrodd ar awdurdodau addysg lleol ynghylch arfer eu swyddogaethau o dan yr adran.
21.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod addysg lleol arfer ei swyddogaethau o ran cwricwla lleol mewn modd a fydd yn hyrwyddo mynediad at gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd yn hyrwyddo’r ffaith eu bod ar gael.
22.Mae is-adran (2) yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau addysg lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth gyflawni'r ddyletswydd a roddir arnynt o dan is-adran (1).
23.Mae is-adran (3) yn darparu y gellir rhoi canllawiau a ddyroddir o dan is-adran (2) i awdurdod unigol, i ddosbarth o awdurdodau neu i bob awdurdod yn gyffredinol.
24.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod addysg lleol o fewn dau fis ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd, baratoi adroddiad i'w gyflwyno i Weinidogion Cymru. Rhaid i'r adroddiad:
disgrifio'r cyrsiau astudio mewn cwricwla lleol, ar gyfer y flwyddyn honno, sydd i'w haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;
disgrifio'r nifer o ddisgyblion a wnaeth ddewis dilyn y cyfryw gyrsiau a pha nifer gafodd hawlogaeth ganddynt i wneud hynny;
esbonio cynlluniau'r awdurdod mewn blynyddoedd academaidd diweddarach, er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion cofrestredig ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod i ddilyn cyrsiau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
25.Mae is-adran (5) yn diffinio “academic year” at ddibenion is-adran (4) fel y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 1 Medi.
Adran 6 Awdurdodau â mwy nag un cwricwlwm lleol (adran 116C o Ddeddf Addysg 2002)
26.Mae'r adran hon yn gymwys pan fydd awdurdod lleol yn llunio mwy nag un cwricwlwm lleol o dan adran 116A o Ddeddf Addysg 2002 ( fel y’i mewnosodwyd gan adran 4 o’r Mesur hwn).
27.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol ddynodi'r ysgolion uwchradd a gynhelir y mae pob cwricwlwm lleol yn gymwys iddynt. Yn sgíl y darpariaethau a ddisgrifir isod, mae hawl gan ddisgyblion cofrestredig ysgolion uwchradd a gynhelir i ddewis dilyn cyrsiau astudio a gynhwysir yn y cwricwlwm lleol ar gyfer eu hysgol.
Adran 7 Dewisiadau disgyblion o gyrsiau cwricwlwm lleol (adran 116D o Ddeddf Addysg 2002)
28.Mae'r adran hon yn dechrau'r broses sy'n peri bod gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cyrsiau astudio a gynhwysir yn y cwricwlwm lleol sy'n gymwys i'w ysgol. O dan yr adran hon, mae hawl gan ddisgyblion i ddewis dilyn cwrs astudio penodol. Mae darpariaethau diweddarach yn penderfynu a yw'r dewis hwnnw i gael ei drosi'n hawlogaeth i ddilyn y cwrs astudio o dan sylw.
29.Mae is-adran (1) yn gosod hawliau disgyblion i ddewis dilyn cwrs neu gyrsiau, yn ystod Cyfnod Allweddol 4, o'r cwricwlwm lleol cymwys. Er hynny, mae'r hawliau yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).
30.Mae is-adran (2) yn galluogi gwneud rheoliadau a allai, er enghraifft, bennu uchafswm nifer y cyrsiau y gall disgybl dewis eu dilyn o’r cwricwlwm lleol cyfan, nodi nifer y ‘pwyntiau’ sy’n gysylltiedig â chyrsiau penodol a gosod uchafswm nifer y ‘pwyntiau’ crynswth na ddylid mynd y tu hwnt iddynt gan ddewis y disgybl o gyrsiau a’r cyfnod lle mae’r dewisiadau hynny i gael eu gwneud. Gall fod angen cyfyngu ar y cyfnod ar gyfer gwneud dewisiadau fel bod yr asiantaethau perthnasol, ar ôl hynny, yn cael digon o amser i wneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer cyflenwi’r cyrsiau astudio a ddewiswyd (y gellir eu cyflenwi o bosibl gan ysgol neu sefydliad heblaw'r un a fynychir wrth wneud y dewisiadau).
Adran 8 Hawlogaethau disgyblion o ran y cwricwlwm lleol (adran 116E o Ddeddf Addysg 2002)
31.Mae’r adran hon yn darparu bod dewis a wneir gan ddisgybl o dan adran 7/116D yn hawlogaeth ‘mewn egwyddor’ i ddilyn y cwrs astudio a ddewiswyd. Bydd yn dod yn hawlogaeth go iawn oni bai bod achlysur y darperir ar ei gyfer yn yr adran hon yn digwydd.
32.Mae is-adran (1) yn pennu bod hawlogaeth disgybl yn dod i ben os bydd yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol, er enghraifft, os bydd yn gadael ardal yr awdurdod addysg lleol ac yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol sydd mewn ardal wahanol yng Nghymru, neu os, cyn cychwyn cyfnod allweddol pedwar, bod pennaeth ysgol y disgybl wedi penderfynu, o dan adran 116F o DA 2002, nad oes hawlogaeth gan y disgybl i ddilyn y cwrs astudio a ddewiswyd.
33.Mae is-adran (2) yn pennu, pan fydd hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio mai’r pennaeth sydd i benderfynu pryd mae’r cwrs astudio i ddechrau.
Adran 9 Penderfyniad pennaeth ysgol ynghylch hawlogaeth (adran 116F o Ddeddf Addysg 2002)
34.Mae is-adran (1) yn caniatáu i benaethiaid ysgol benderfynu, ar seiliau penodedig, nad oes gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio penodol.
35.Mae is-adran (2) yn pennu ar ba sail y gall pennaeth ysgol benderfynu nad oes gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio.
Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru, mewn rheoliadau, i wneud darpariaeth sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau o dan is-adran(1). Er enghraifft, darpariaeth ar gyfer pa amser neu pa ddyddiad y mae penderfyniadau i'w gwneud a'r weithdrefn sydd i'w dilyn mewn achosion o'r fath, ar gyfer apelau i gorff llywodraethu ysgol neu i berson arall a bennir yn y rheoliadau, yr amser neu'r dyddiad ar gyfer dyfarnu apelau a'r weithdrefn sydd i'w dilyn mewn cysylltiad â dyfarnu apelau o'r fath.
36.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth yr ysgol a'r person y gosodwyd arno'r cyfrifoldeb i ddyfarnu apelau o dan y rheoliadau, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â'r dull y caiff swyddogaethau eu harfer o dan yr adran hon.
37.Mae is-adran (5) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy Orchymyn, i newid y sail dros ddiddymu’r hawlogaeth.
Adran 10 Cyflawni hawlogaethau’r cwricwlwm lleol (adran 116G o Ddeddf Addysg 2002)
38.Mae'r adran hon yn pennu'r ddyletswydd a osodir ar gorff llywodraethu ysgol i gyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol yn ystod Cyfnod Allweddol 4. Mae'r adran yn darparu lle y mae gan ddisgybl hawl i ddilyn cwrs, rhaid bod y cwrs ar gael i'r disgybl gan, neu ar ran, corff llywodraethu ei ysgol. Mae hyn yn golygu y gellir cynnig cyrsiau astudio o fewn y cwricwlwm lleol mewn lleoliad dysgu gwahanol i’r lleoliad lle y mae’r disgybl wedi’i gofrestru.
Adran 11 Penderfyniad pennaeth ysgol i ddileu hawlogaeth (adran 116H o Ddeddf Addysg 2002)
39.Weithiau, bydd angen dileu hawlogaeth disgybl i ddilyn cwrs astudio, am resymau iechyd a diogelwch, er enghraifft. Gosodir ar ba sail y gall pennaeth ysgol benderfynu na fydd gan ddisgybl hawlogaeth bellach i ddilyn cwrs astudio yn is-adran (2).
40.Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru, mewn rheoliadau, i wneud darpariaeth bellach sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau o dan yr adran hon gan gynnwys:
y weithdrefn benderfynu;
darpariaeth ar gyfer apelau i gorff llywodraethu ysgol neu i berson arall a bennir yn y rheoliadau;
darpariaeth ynghylch effaith penderfyniad hyd nes y ceir dyfarniad ar apêl;
y weithdrefn sydd i'w dilyn mewn cysylltiad â dyfarnu apêl.
41.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth yr ysgol a'r person y gosodwyd arno'r cyfrifoldeb i ddyfarnu apelau o dan y rheoliadau, roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o ran arfer y swyddogaethau o dan yr adran hon.
42.Mae is-adran (5) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy Orchymyn, i newid y sail dros ddiddymu’r hawlogaeth.
Adran 12 Cynllunio'r cwricwlwm lleol (adran 116I o Ddeddf Addysg 2002)
43.Bydd penderfyniad awdurdod lleol ynghylch pa gyrsiau astudio i’w cynnwys yn ei gwricwla lleol o dan adran 116A yn dibynnu i raddau helaeth ar y cynhwysedd addysgol lleol. Ychydig iawn o werth fyddai i gynnwys cyrsiau nad yw ysgolion lleol a Sefydliadau Addysg Bellach yn medru eu cyflenwi. Yn unol â hynny, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol bod y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu addysg i ddisgyblion 14 i 16 oed o fewn ardal awdurdod addysg lleol yn cynorthwyo’r awdurdod i gynllunio ei gwricwla lleol.
44.Mae is-adran (1) yn pennu bod yn rhaid i’r personau canlynol gynorthwyo’r awdurdod lleol yn hyn o beth:
corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir sydd wedi'i lleoli yn ardal yr awdurdod;
pennaeth unrhyw ysgol o'r fath;
corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach sydd wedi'i leoli yn ardal yr awdurdod; a
pennaeth unrhyw sefydliad Addysg Bellach o'r fath.
45.Mae is-adran (2) yn diffinio “planning the local curriculum or curricula” fel y broses y mae awdurdod addysg lleol yn ei defnyddio i benderfynu pa gyrsiau astudio i'w cynnwys yn y cwricwlwm neu'r cwricwla lleol. Mae is-adran (3) yn darparu bod Gweinidogion Cymru’n dyroddi canllawiau ac yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch arfer swyddogaethau person o dan yr adran hon ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r personau hynny roi sylw i'r canllawiau a chydymffurfio â'r cyfarwyddiadau.
46.Nid yw’r adran hon yn atal rhag gwneud cynlluniau ar gyfer cydweithredu ar draws yr awdurdodau wrth ddarparu cyrsiau y cwricwlwm lleol, er enghraifft bod Sefydliad Addysg Bellach yn darparu cwrs astudio ar ran ysgolion sydd mewn ardal awdurdod addysg lleol gwahanol i’r un lle lleolir y sefydliad. Serch hynny, bydd unrhyw drefniant o’r fath yn gwbl wirfoddol ac ni fyddant yn amodol ar y ddyletswydd a’r rheolaethau canolog (Gweinidogion Cymru) a ddarparwyd ar eu cyfer yn yr adran hon.
Adran 13 Cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol: cydweithio (adran 116J o Ddeddf Addysg 2002)
47.Fel a nodir yn is-adran (1), amcan yr adran hon yw sicrhau bod y nifer mwyaf o gyrsiau astudio ar gael o fewn cwricwlwm lleol.
48.Mae is-adrannau (2) a (4), yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu ysgol uwchradd a gynhelir a sefydliad addysg bellach i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau amcan yr adran hon.
49.Mae is-adran (3) yn darparu bod y ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau amcan yr adran yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, dyletswydd i geisio ymrwymo mewn trefniadau cydweithredu, lle y mae'r personau perthnasol wedi penderfynu y byddai'n hyrwyddo amcan yr adran i ymrwymo mewn trefniadau o'r fath.
50.Diffinnir “co-operation arrangement” yn is-adran (5) i olygu trefniant lle y mae unrhyw berson yn darparu cwrs astudio ar ran corff llywodraethu ysgol a gynhelir, neu drefniadau a wneir o dan reoliadau o dan adrannau 26 o Ddeddf Addysg 2002 a 166 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, sy'n drefniadau cydweithio mwy ffurfiol a allai gynnwys, er enghraifft, sefydlu cyd-bwyllgor.
51.Mae is-adran (6) yn diffinio “relevant local curriculum” at ddibenion yr adran hon.
Adran 14 Cydweithio: canllawiau a chyfarwyddiadau (adran 116K o Ddeddf Addysg 2002)
52.Mae’r adran hon yn ymwneud â’r ymrwymiadau i gydweithio a osodir gan adran 116J. Mae’n ofynnol i awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu ysgol uwchradd a gynhelir a chorff llywodraethu sefydliad addysg bellach roi ystyriaeth i’r canllawiau neu gydymffurfio â’r cyfarwyddiadau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’u swyddogaethau o dan adran 116J.
53.Mae is-adran (4) yn ei gwneud hi’n glir y caiff cyfarwyddiadau a osodir gan yr adran hon ei gwneud hi'n ofynnol i sefydlu trefniant cydweithredol penodol o dan adran 116J. Mewn achos o gyfarwyddyd i ymrwymo mewn trefniadau i gydweithredu gyda pharti arall nad yw’n Awdurdod Addysg Lleol, yn gorff llywodraethu ysgol neu’n gorff llywodraethu Sefydliad Addysg Bellach, rhaid peidio â rhoi cyfarwyddyd o’r fath heb gydsyniad y parti hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys sefydliadau eraill sy’n darparu cyrsiau astudio sy’n rhan o’r cwricwlwm lleol, er enghraifft, darparwyr hyfforddiant preifat neu gyrff yn y sector gwirfoddol.
Adran 15 Pŵer i ddiwygio meysydd dysgu (adran 116L o Ddeddf Addysg 2002)
54.Mae'r ddarpariaeth hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio a gwneud newidiadau eraill i adran 116A(3). Byddai hyn, er enghraifft, yn caniatáu creu meysydd dysgu newydd.
Adran 16 Cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i blant nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig (adran 116M o Ddeddf Addysg 2002)
55.Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddefnyddio rheoliadau i gymhwyso’r darpariaethau cwricwlwm lleol i blant nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir. Darperir diffiniad o’r rhai fyddai’n perthyn i’r categori hwn yn is-adran (3). Mae’r diffiniad yn dal plant o oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn y cyfan, neu’r rhan fwyaf, o’u haddysg o dan drefniadau a wneir gan Sefydliadau Addysg Bellach ac nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir.
Adran 17 Cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i blant sydd yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig (adran 116N o Ddeddf Addysg 2002)
56.Nid yw’r Rhan hon o’r Mesur yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion arbennig. Fodd bynnag, mae is-adran (1) yn caniatáu gwneud rheoliadau i gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol ynglŷn â disgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig.
57.Mae is-adran (2) yn caniatáu gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) i gymhwyso’r cwricwlwm lleol gyda diwygiadau y gallai bod eu hangen, er enghraifft, er mwyn cymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau y mae ysgolion arbennig yn gweithredu ynddynt.
Adran 18 Cwricwlwm lleol: cyfarwyddiadau (adran 116O o Ddeddf Addysg 2002)
58.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn glir bod unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 116A, llunio cwricwla lleol, 116I cynllunio’r cwricwlwm lleol ac 116K, gweithio ar y cyd, yn gallu cael eu hamrywio neu eu dirymu gan gyfarwyddyd pellach.