Adran 24 - adroddiadau gwella blynyddol
51.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynhyrchu a chyhoeddi bob blwyddyn adroddiad gwella blynyddol ar gyfer pob awdurdod gwella Cymreig. Rhaid i’r adroddiad gynnwys crynodeb o ganlyniadau unrhyw adroddiad a ddyroddwyd o dan adrannau 19 a 22 o’r Mesur. Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ystyried yng ngoleuni’r adroddiad a ddylid:
argymell i reolydd perthnasol sut y dylai arfer ei swyddogaethau;
argymell y dylai Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan adran 28 ac adran 29; neu
arfer unrhyw rai o’i swyddogaethau mewn perthynas â’r awdurdod.