Adran 44 - cynllunio cymunedol etc: cyfraniad y gymuned
85.Mae adran 44 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol a’i bartneriaid cynllunio cymunedol wneud trefniadau i gynnwys y canlynol a chymryd eu barn i ystyriaeth:
trigolion lleol;
rhai nad ydynt yn drigolion lleol ond sy’n cael gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod neu gan un o’i bartneriaid cynllunio cymunedol;
cynrychiolwyr cyrff gwirfoddol;
cynrychiolwyr buddiannau busnes; ac
unrhyw un arall sydd ym marn yr awdurdod yn ymddiddori mewn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol yr ardal
mewn cysylltiad â chynllunio cymunedol, paratoi strategaeth gymunedol ac adolygu strategaeth gymunedol.