RHAN 1GWELLA LLYWODRAETH LEOL
Gweinidogion Cymru
28Gweinidogion Cymru: cymorth i awdurdodau gwella Cymreig
(1)
Os ydynt wedi cydymffurfio ag is-adran (3), caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent o'r farn ei fod yn debyg o gynorthwyo awdurdod gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.
(2)
Mae'r pŵer o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer—
(a)
i ymrwymo i drefniadau neu gytundebau gydag unrhyw berson;
(b)
i gydweithredu gydag unrhyw berson, neu i hwyluso neu gydlynu gweithgareddau'r person hwnnw;
(c)
i arfer ar ran unrhyw berson unrhyw un o swyddogaethau'r person hwnnw;
(d)
i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson.
(3)
Onid ydynt yn arfer y pŵer o dan is-adran (1) mewn ymateb i gais a wneir o dan is- adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn arfer y pŵer hwnnw, ymgynghori â—
(a)
yr awdurdod gwella Cymreig neu'r awdurdodau gwella Cymreig y maent yn bwriadu ei gynorthwyo neu eu cynorthwyo wrth arfer y pŵer; a
(b)
y personau hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru mai hwy yw'r prif randdeiliaid yr effeithir arnynt wrth arfer y pŵer y cyfeirir ato yn is-adran (1).
(4)
Os yw awdurdod gwella Cymreig yn gofyn iddynt wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bwyso a mesur a ddylent arfer eu pŵer o dan is-adran (1).
29Gweinidogion Cymru: pwerau cyfarwyddo etc
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ynghylch unrhyw un o'r canlynol—
(a)
bod—
(i)
yr awdurdod wedi bod yn wrthrych camau gan Weinidogion Cymru i arfer eu pŵer o dan adran 28 er mwyn cynorthwyo'r awdurdod i gydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon; a
(ii)
yr awdurdod yn methu, neu'n debyg o fethu, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon a bod y methiant hwnnw, neu'r methiant tebygol, yn ymwneud â gofyniad sydd wedi ei grybwyll yn is-baragraff (i);
(b)
bod—
(i)
yr awdurdod yn methu, neu'n debyg o fethu, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon; a
(ii)
bod brys y sefyllfa neu ganlyniadau posibl y methiant, neu'r methiant tebygol, yn golygu ei bod yn briodol arfer pŵer o dan yr adran hon er gwaethaf y ffaith nad yw Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pŵer o dan adran 28 er mwyn cynorthwyo'r awdurdod i gydymffurfio â'r gofynion hynny; neu
(c)
bod—
(i)
yr awdurdod yn methu, neu'n debyg o fethu, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon;
(ii)
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu eu bod am arfer eu pŵer o dan adran 28 er mwyn cynorthwyo'r awdurdod i gydymffurfio â'r gofynion hynny; a
(iii)
y pŵer o dan adran 28 yn methu â chael ei arfer yn effeithiol oherwydd bod yr awdurdod wedi methu â chydweithredu â Gweinidogion Cymru.
(2)
Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru ei gyfarwyddo i wneud y cyfan neu unrhyw rai o'r canlynol—
(a)
paratoi neu ddiwygio cynllun gwella neu ddilyn gweithdrefnau penodedig mewn perthynas â chynllun o'r fath;
(b)
cynnal adolygiad o'r modd y mae'n arfer swyddogaethau penodedig;
(c)
ymrwymo i drefniadau cydlafurio penodedig gydag awdurdod gwella Cymreig arall;
(d)
gosod amcanion gwella penodedig iddo'i hun o dan adran 3.
(3)
Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal i'r modd y mae swyddogaethau penodol awdurdod yn cael eu harfer.
(4)
Bydd is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (ymchwiliadau) yn gymwys o ran ymchwiliad y mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo ei gynnal o dan yr adran hon yn yr un modd ag y mae'r is-adrannau hynny'n gymwys o ran ymchwiliad y perir iddo gael ei gynnal o dan yr adran honno.
(5)
Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod i gymryd unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon.
(6)
Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo—
(a)
bod rhaid i swyddogaeth benodedig sydd gan yr awdurdod gael ei harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebwyd ganddynt am gyfnod sydd wedi ei bennu yn y cyfarwyddyd, neu cyhyd ag y bydd Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn briodol; a
(b)
bod rhaid i'r awdurdod gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebwyd ganddynt mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth honno, a bod rhaid iddo roi unrhyw gymorth y bydd ar Weinidogion Cymru neu berson a enwebwyd ganddynt ei angen er mwyn arfer y swyddogaeth.
(7)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth—
(a)
sy'n ymwneud â deddfiad sy'n rhoi swyddogaeth iddynt mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau awdurdod gwella Cymreig; a
(b)
y maent yn credu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion achosion lle maent yn gwneud cyfarwyddyd o dan is-adran (6)(a).
(8)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (7), mewn perthynas â'r achosion sydd wedi eu crybwyll yn is-adran (6)(b)—
(a)
datgymhwyso neu addasu deddfiad o'r math sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (7)(a);
(b)
cael effaith sy'n debyg i effaith deddfiad o'r math hwnnw.
(9)
Bydd cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon yn gyfarwyddyd—
(a)
y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru;
(b)
y gall Gweinidogion Cymru ei gyhoeddi yn ei gyfanrwydd neu gyhoeddi rhan ohono.
30Pwerau cyfarwyddo: trefniadau cydlafurio
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod gwella Cymreig nad yw adran 29 yn gymwys iddo.
(2)
Ar ôl iddynt ymgynghori'n gyntaf â'r awdurdod, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod i ymrwymo i drefniadau cydlafurio penodedig gydag awdurdod gwella Cymreig y mae adran 29 yn gymwys iddo.
(3)
Bydd cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru.
31Pŵer Gweinidogion Cymru i addasu deddfiadau a rhoi pwerau newydd
(1)
Os bydd Gweinidogion Cymru yn meddwl bod deddfiad yn atal neu'n rhwystro awdurdodau gwella Cymreig rhag cydymffurfio â gofynion y Rhan hon, caniateir iddynt drwy orchymyn wneud darpariaeth sy'n addasu neu'n eithrio'r modd y mae'r deddfiad yn gymwys mewn perthynas â'r canlynol—
(a)
pob awdurdod gwella Cymreig;
(b)
awdurdodau gwella Cymreig penodol; neu
(c)
disgrifiadau penodol o awdurdod gwella Cymreig.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth sy'n rhoi—
(a)
i bob awdurdod gwella Cymreig;
(b)
i awdurdodau gwella Cymreig penodol; neu
(c)
i ddisgrifiadau penodol o awdurdod gwella Cymreig,
unrhyw bŵer y maent yn credu ei fod yn angenrheidiol neu'n hwylus i ganiatáu neu hwyluso cydymffurfedd â gofynion y Rhan hon.
(3)
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
(a)
gosod amodau ar y modd y mae unrhyw bŵer a roddir gan y gorchymyn (gan gynnwys amodau am ymgynghori neu gymeradwyo) yn cael ei arfer;
(b)
diwygio deddfiad.
(4)
Wrth arfer pŵer a roddir o dan is-adran (2), rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
(5)
Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Ddehongli 1978).
32Gorchmynion o dan adran 31: y weithdrefn
(1)
Cyn bod Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 31, rhaid iddynt ymgynghori ag unrhyw awdurdodau neu bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau yr effeithir arnynt gan gynigion Gweinidogion Cymru.
(2)
Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori o dan is-adran (1), yn cynnig gwneud gorchymyn o dan adran 31, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen sy'n esbonio eu cynigion ac, yn benodol—
(a)
sy'n gosod eu cynigion ar ffurf gorchymyn drafft; a
(b)
sy'n rhoi manylion yr ymgynghori o dan is-adran (1).
(3)
Pan fo dogfen sy'n ymwneud â chynigion yn cael ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2), rhaid i ddrafft o orchymyn o dan adran 31 i roi effaith i'r cynigion (gydag addasiadau neu hebddynt) beidio â chael ei osod gerbron y Cynulliad tan ar ôl i'r cyfnod o drigain niwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd y ddogfen ei gosod ddirwyn i ben.
(4)
Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (3), rhaid peidio ag ystyried unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.
(5)
Wrth baratoi gorchymyn drafft o dan adran 31 rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (3).
(6)
Ynghyd â gorchymyn drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 50(6), rhaid bod datganiad gan Weinidogion Cymru sy'n rhoi manylion—
(a)
unrhyw sylwadau a ystyriwyd yn unol ag is-adran (5), a
(b)
unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a oedd wedi'u cynnwys yn y ddogfen a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2) uchod.
(7)
Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gymwys i orchymyn o dan adran 31 sydd wedi'i wneud yn unswydd at y diben sydd wedi ei grybwyll yn adran 50(7).