xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CGWELLA LLYWODRAETH LEOL

Swyddogaethau eraill Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

21Arolygiadau arbennigLL+C

(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiad o gydymffurfedd awdurdod gwella Cymreig â gofynion y Rhan hon—

(a)os yw'r Archwilydd Cyffredinol o'r farn y gallai'r awdurdod fethu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon; neu

(b)os bydd unrhyw reoleiddiwr perthnasol yn hysbysu'r Archwilydd Cyffredinol y gallai'r awdurdod, ym marn y rheoleiddiwr, fethu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(2)Er hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol wneud y canlynol cyn penderfynu a ddylid cynnal arolygiad—

(a)ymgynghori â Gweinidogion Cymru; a

(b)mewn achos lle mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi datgan mewn adroddiad o dan adran 19(1)(h) bod yr Archwilydd Cyffredinol o blaid cynnal arolygiad arbennig, ystyried unrhyw ddatganiad ar ffurf ymateb a wneir gan yr awdurdod yn unol ag adran 20(3).

(3)Caiff arolygiad o dan is-adran (1) ymwneud â'r cyfan neu rai o swyddogaethau awdurdod.

(4)Os bydd Gweinidogion Cymru [F1yn gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol] gynnal arolygiad o gydymffurfedd awdurdod gwella Cymreig â gofynion y Rhan hon, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gydymffurfio â'r [F2cais oni bai nad yw’n rhesymol i wneud hynny].

(5)Caiff [F3cais] o dan is-adran (4) ymwneud â rhai neu'r cyfan o swyddogaethau awdurdod.

(6)Cyn [F4gwneud cais] o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Archwilydd Cyffredinol.

(7)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru hysbysu awdurdod gwella Cymreig—

(a)os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu cynnal arolygiad o'r awdurdod o dan is-adran (1); neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi [F5gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol] gynnal arolygiad o'r awdurdod o dan is-adran (4).

(8)Rhaid i'r hysbysiad bennu'r swyddogaethau y bydd yr arolygiad yn ymwneud â hwy.

(9)Wrth gynnal arolygiad ac, yn achos arolygiad o dan is-adran (1), wrth benderfynu a ddylid gwneud hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(10)At ddibenion y Rhan hon, cyfeirir at arolygiad o dan yr adran hon fel arolygiad arbennig.

(11)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at swyddogaethau awdurdod yn cynnwys trefniadau sy'n cael eu gwneud i hwyluso neu gefnogi'r modd yr arferir y swyddogaethau hynny.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 21 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

22Adroddiadau am arolygiadau arbennigLL+C

(1)Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cynnal arolygiad arbennig, rhaid i'r Archwilydd ddyroddi adroddiad.

(2)O ran adroddiad—

(a)rhaid iddo grybwyll unrhyw fater y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn credu amdano, o ganlyniad i'r arolygiad, fod yr awdurdod yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon neu ei bod yn bosibl i'r awdurdod fethu yn y cyswllt hwnnw, a

(b)caiff argymell, os yw'n crybwyll mater o dan baragraff (a), fod Gweinidogion Cymru yn gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r ddau, sef—

(i)rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pwer o dan adran 28;

(ii)rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29.

(3)O ran yr Archwilydd Cyffredinol—

(a)rhaid iddo anfon copi o adroddiad at yr awdurdod o dan sylw ac at Weinidogion Cymru;

(b)os gwneir argymhelliad o dan is-adran (2)(b) mewn adroddiad, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol drefnu i'r argymhelliad gael ei gyhoeddi; a

(c)caiff gyhoeddi adroddiad ac unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad ag adroddiad.

(4)Os bydd adroddiad yn datgan bod yr Archwilydd Cyffredinol yn credu, o ganlyniad i arolygiad, fod awdurdod gwella Cymreig yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon, rhaid i'r cynllun gwella nesaf a baratoir gan yr awdurdod gofnodi—

(a)y ffaith honno, a

(b)unrhyw gamau sydd wedi'u cymryd, neu sydd i'w cymryd, gan yr awdurdod o ganlyniad i'r adroddiad.

F6(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C2A. 22 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2010) gan 2004 c. 21, a. 24(4)(5) (mewnosodwyd gan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (nawm 2), a. 53(2), Atod. 1 para. 33; O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2)

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I4A. 22 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

F723Cydlynu archwiliad etcLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I6A. 23 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

24Adroddiadau gwella blynyddolLL+C

(1)Mewn perthynas â phob awdurdod gwella Cymreig, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, adroddiad (“adroddiad gwella blynyddol”) sy'n crynhoi neu'n atgynhyrchu'r adroddiadau sydd wedi eu disgrifio yn is-adran (2).

(2)Yr adroddiadau yw—

(a)pob adroddiad a ddyroddir mewn cysylltiad â'r awdurdod yn ystod y flwyddyn ariannol honno o dan adran 19;

(b)unrhyw adroddiad o arolygiad arbennig o awdurdod a ddyroddir o dan adran 22 yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)cyhoeddi adroddiad gwella blynyddol pob awdurdod gwella Cymreig;

(b)pwyso a mesur, yng ngoleuni adroddiad gwella blynyddol awdurdod, a ddylid—

(i)argymell i reoleiddiwr perthnasol ynghylch sut y dylai'r rheoleiddiwr arfer swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod;

(ii)argymell i Weinidogion Cymru eu bod yn rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pŵer o dan adran 28;

(iii)argymell i Weinidogion Cymru eu bod yn rhoi cyfarwyddyd i'r awdurdod o dan adran 29;

(iv)arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â'r awdurdod;

(c)cyflwyno unrhyw argymhelliad sydd wedi ei grybwyll ym mharagraff (b)(i) i (iii) ac y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn credu y dylid ei gyflwyno.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I8A. 24 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

I9A. 24(2)(a) mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2009/3272, ergl. 4, Atod. 3

25Datganiad o arferLL+C

(1)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru baratoi datganiad o arfer sy'n disgrifio'r ffordd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn is-adran (4).

(2)Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—

(a)adolygu'r datganiad; a

(b)os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol ar ôl adolygiad, paratoi datganiad o arfer diwygiedig.

(3)Rhaid i'r datganiad o arfer gydweddu â'r egwyddorion a ddisgrifir yn is-adran (5).

(4)Y swyddogaethau yw'r rhai a roddir i'r Archwilydd Cyffredinol gan—

(a)adran 17 (gwybodaeth am welliannau a chynllunio gwelliannau: archwilio);

(b)adran 18 (asesiadau gwella);

(c)adran 19 (adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu);

F8(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(e)adran 24 (adroddiadau gwella blynyddol).

(5)Yr egwyddorion yw—

(a)y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru fod yn gyson yn y modd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau ymhlith gwahanol awdurdodau gwella Cymreig;

F9(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)ei bod yn ddymunol bod swyddogaethau perthnasol y rheoleiddwyr perthnasol a swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol a ddisgrifir yn adran 23(7) yn cael eu harfer yn gymesur er mwyn peidio â gosod baich afresymol ar awdurdodau gwella Cymreig;

(d)y dylai'r swyddogaethau yn is-adran (4) gael eu harfer gyda golwg ar gynorthwyo awdurdodau gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(6)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru anfon copi o ddatganiad neu ddatganiad diwygiedig a baratowyd o dan is-adran (1) at Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo.

(7)Os caiff y datganiad neu'r datganiad diwygiedig ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi'r datganiad neu'r datganiad diwygiedig.

(8)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi sylw i'r datganiad a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-adran (7) wrth arfer y swyddogaethau a ddisgrifiwyd yn is-adran (4).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I11A. 25 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(j)

26Pwerau a dyletswyddau arolygwyrLL+C

(1)Mae gan arolygydd hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre sydd gan awdurdod gwella Cymreig, a

(b)i weld unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r awdurdod ac sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r arolygydd at ddibenion yr arolygiad, yr archwiliad neu'r asesiad.

(2)Mae'r hawl a roddir gan is-adran (1) yn cynnwys hawl i arolygu neu gopïo'r ddogfen neu i fynd â hi oddi yno.

(3)Caiff arolygydd—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n dal unrhyw ddogfen o'r fath neu sy'n atebol amdani roi unrhyw wybodaeth neu esboniad i'r arolygydd sy'n angenrheidiol yn ei farn ef, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ddod yn bersonol ger ei fron i roi'r wybodaeth neu'r esboniad neu i ddangos y ddogfen.

(4)Mewn perthynas â dogfen a gedwir ar ffurf electronig, mae'r pŵer yn is-adran (3)(b) i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos dogfen yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol iddi gael ei dangos ar ffurf sy'n ddarllenadwy ac y gellir mynd â hi oddi yno.

(5)Mewn cysylltiad ag arolygu dogfen o'r fath, caiff arolygydd—

(a)sicrhau mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig y mae'n credu eu bod yn cael neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (6) roi unrhyw gymorth rhesymol y bydd ar yr arolygydd ei angen at y diben hwnnw.

(6)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os ef yw'r person sy'n defnyddio neu a ddefnyddiodd y cyfrifiadur, neu os defnyddir neu defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran; neu

(b)os yw'n berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'i weithredu.

(7)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi i arolygydd bob cyfleuster a phob gwybodaeth y mae ar yr arolygydd angen rhesymol ei gael neu ei chael at ddibenion yr arolygiad neu'r asesiad.

(8)Rhaid i arolygydd—

(a)oni bai bod yr amgylchiadau, ym marn yr arolygydd, yn eithriadol roi tri diwrnod clir o rybudd am unrhyw ofyniad o dan yr adran hon, a

(b)os gofynnir i'r arolygydd wneud hynny, dangos dogfennau sy'n nodi bod yr arolygydd yn berson ag awdurdod i osod gofynion o dan yr adran hon.

(9)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn atal unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon rhag cael ei arfer neu sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad gan arolygydd o dan yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(10)Gellir adennill unrhyw dreuliau yr â arolygydd iddynt mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan is-adran (9) yr honnir ei fod wedi'i gyflawni mewn perthynas ag arolygiad o awdurdod gwella Cymreig wrth yr awdurdod hwnnw, i'r graddau nad oes modd eu hadennill o unrhyw ffynhonnell arall.

(11)Yn yr adran hon ystyr “arolygydd” yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, [F10neu berson sy’n arfer swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhinwedd dirprwyaeth a wnaed o dan adran 18 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013,] ac sy'n cynnal archwiliad o dan adran 17, asesiad o dan adran 18 neu arolygiad arbennig.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C3A. 26 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2010) gan 2004 c. 21, a. 24(4)(5) (mewnosodwyd gan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (nawm 2), a. 53(2), Atod. 1 para. 33; O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2)

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 26 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I13A. 26 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

27FfioeddLL+C

(1)Rhaid i [F11Swyddfa Archwilio Cymr] ragnodi graddfeydd ffioedd mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)archwiliadau a gynhelir o dan adran 17;

(b)asesiadau a gynhelir o dan adran 18;

(c)arolygiadau arbennig.

(2)Caniateir i raddfeydd gwahanol gael eu rhagnodi mewn cysylltiad â'r gweithgareddau gwahanol sydd wedi eu disgrifio yn is-adran (1), gwahanol fathau o'r un gweithgaredd a gwahanol fathau o awdurdod gwella Cymreig.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), rhaid i awdurdod sy'n cael ei archwilio, ei asesu neu ei arolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1), dalu i [F12Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â chynllun i godi ffioedd a baratowyd o dan adran 24 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013,] y ffi sy'n daladwy o dan y raddfa briodol.

(4)Os yw'n ymddangos [F13i Swyddfa Archwilio Cymru] fod y gwaith a oedd ynghlwm wrth archwiliad, asesiad neu arolygiad penodol yn sylweddol fwy neu'n sylweddol llai na'r hyn a ragwelwyd yn ôl y raddfa briodol, caiff [F13Swyddfa Archwilio Cymru] godi ffi sy'n fwy neu'n llai na'r hyn y cyfeiriwyd ato yn is-adran (3).

[F14(4A)Ond ni chaiff ffi a godir o dan yr adran hon fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi.]

(5)Cyn rhagnodi graddfa ffioedd o dan yr adran hon, rhaid [F15i Swyddfa Archwilio Cymru] ymgynghori â'r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)personau y mae'n ymddangos [F15i Swyddfa Archwilio Cymru] eu bod yn cynrychioli awdurdodau y caniateir eu harchwilio, eu hasesu neu eu harolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1).

F16(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C4A. 27 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2010) gan 2004 c. 21, a. 24(4)(5) (mewnosodwyd gan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (nawm 2), a. 53(2), Atod. 1 para. 33; O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2)

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 27 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I15A. 27 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

[F1727APŵer Gweinidogion Cymru i ragnodi graddfa ffioeddLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd i gael effaith yn lle graddfa neu raddfeydd a ragnodir gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27(1),

(2)Mae graddfa ffioedd a ragnodir o dan is-adran (1) yn caeleffaith am y cyfnod a bennir mewn perthynas â hi yn y rheoliadau.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys—

(a)os oes graddfa ffioedd yn cael ei rhagnodi o dan is-adran (1) yn lle graddfa a ragnodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a

(b)os mai’r raddfa a ragnodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru fyddai’r raddfa briodol, fel arall, at ddibenion adran 27(3) a (4).

(4)Mae’r cyfeiriadau at y raddfa briodol yn adran 27(3) a (4) i’w darllen fel cyfeiriadau at y raddfa a ragnodwyd o dan is-adran (1).

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)Swyddfa Archwilio Cymru,

(b)unrhyw gymdeithasau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod a wnelont â’r peth, ac

(c)y personau eraill hynny y maent yn gweld yn dda i ymgynghori â hwy.

(6)Mae rheoliadau a wneir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.]