- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiad o gydymffurfedd awdurdod gwella Cymreig â gofynion y Rhan hon—
(a)os yw'r Archwilydd Cyffredinol o'r farn y gallai'r awdurdod fethu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon; neu
(b)os bydd unrhyw reoleiddiwr perthnasol yn hysbysu'r Archwilydd Cyffredinol y gallai'r awdurdod, ym marn y rheoleiddiwr, fethu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon.
(2)Er hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol wneud y canlynol cyn penderfynu a ddylid cynnal arolygiad—
(a)ymgynghori â Gweinidogion Cymru; a
(b)mewn achos lle mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi datgan mewn adroddiad o dan adran 19(1)(h) bod yr Archwilydd Cyffredinol o blaid cynnal arolygiad arbennig, ystyried unrhyw ddatganiad ar ffurf ymateb a wneir gan yr awdurdod yn unol ag adran 20(3).
(3)Caiff arolygiad o dan is-adran (1) ymwneud â'r cyfan neu rai o swyddogaethau awdurdod.
(4)Os bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal arolygiad o gydymffurfedd awdurdod gwella Cymreig â gofynion y Rhan hon, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gydymffurfio â'r cyfarwyddyd.
(5)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (4) ymwneud â rhai neu'r cyfan o swyddogaethau awdurdod.
(6)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Archwilydd Cyffredinol.
(7)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru hysbysu awdurdod gwella Cymreig—
(a)os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu cynnal arolygiad o'r awdurdod o dan is-adran (1); neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo'r Archwilydd Cyffredinol i gynnal arolygiad o'r awdurdod o dan is-adran (4).
(8)Rhaid i'r hysbysiad bennu'r swyddogaethau y bydd yr arolygiad yn ymwneud â hwy.
(9)Wrth gynnal arolygiad ac, yn achos arolygiad o dan is-adran (1), wrth benderfynu a ddylid gwneud hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
(10)At ddibenion y Rhan hon, cyfeirir at arolygiad o dan yr adran hon fel arolygiad arbennig.
(11)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at swyddogaethau awdurdod yn cynnwys trefniadau sy'n cael eu gwneud i hwyluso neu gefnogi'r modd yr arferir y swyddogaethau hynny.
(1)Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cynnal arolygiad arbennig, rhaid i'r Archwilydd ddyroddi adroddiad.
(2)O ran adroddiad—
(a)rhaid iddo grybwyll unrhyw fater y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn credu amdano, o ganlyniad i'r arolygiad, fod yr awdurdod yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon neu ei bod yn bosibl i'r awdurdod fethu yn y cyswllt hwnnw, a
(b)caiff argymell, os yw'n crybwyll mater o dan baragraff (a), fod Gweinidogion Cymru yn gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r ddau, sef—
(i)rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pwer o dan adran 28;
(ii)rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29.
(3)O ran yr Archwilydd Cyffredinol—
(a)rhaid iddo anfon copi o adroddiad at yr awdurdod o dan sylw ac at Weinidogion Cymru;
(b)os gwneir argymhelliad o dan is-adran (2)(b) mewn adroddiad, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol drefnu i'r argymhelliad gael ei gyhoeddi; a
(c)caiff gyhoeddi adroddiad ac unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad ag adroddiad.
(4)Os bydd adroddiad yn datgan bod yr Archwilydd Cyffredinol yn credu, o ganlyniad i arolygiad, fod awdurdod gwella Cymreig yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon, rhaid i'r cynllun gwella nesaf a baratoir gan yr awdurdod gofnodi—
(a)y ffaith honno, a
(b)unrhyw gamau sydd wedi'u cymryd, neu sydd i'w cymryd, gan yr awdurdod o ganlyniad i'r adroddiad.
(5)Os bydd adroddiad yn ymwneud i unrhyw raddau â gweinyddiaeth budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor, a bod yr Archwilydd Cyffredinol yn gweld yn dda i wneud hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol anfon copi o'r adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(1)Rhaid i'r rheoleiddwyr perthnasol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru roi sylw i'r angen am gydlynu wrth arfer swyddogaethau rheoleiddio.
(2)Ystyr “swyddogaethau rheoleiddio” yw swyddogaethau perthnasol y rheoleiddwyr perthnasol a swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan is-adran (7).
(3)Mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, ar ôl ymgynghori â'r rheoleiddwyr perthnasol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio amserlen ar gyfer pob awdurdod gwella Cymreig sy'n nodi barn yr Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â'r dyddiadau neu'r amserau yn y flwyddyn honno pryd y dylai—
(a)rheoleiddwyr perthnasol arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn cysylltiad ag awdurdod; a
(b)yr Archwilydd Cyffredinol arfer y swyddogaethau sydd wedi eu nodi yn is-adran (7) mewn cysylltiad ag awdurdod.
(4)Caniateir i'r ddyletswydd o dan is-adran (3) gael ei chyflawni drwy lunio amserlen sy'n ymwneud â mwy nag un flwyddyn ariannol.
(5)Mewn perthynas ag awdurdod gwella Cymreig, rhaid i'r rheoleiddwyr perthnasol wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol, ac i'r Archwilydd Cyffredinol wrth arfer y swyddogaethau sydd wedi eu nodi yn is-adran (7), gymryd pob cam rhesymol i lynu wrth yr amserlen a luniwyd mewn perthynas â'r awdurdod o dan is-adran (3).
(6)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynorthwyo'r rheoleiddwyr perthnasol i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (5).
(7)Swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol o dan—
(a)adrannau 13 a 41 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004; a
(b)adrannau 17 i 19 o'r Mesur hwn.
(1)Mewn perthynas â phob awdurdod gwella Cymreig, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, adroddiad (“adroddiad gwella blynyddol”) sy'n crynhoi neu'n atgynhyrchu'r adroddiadau sydd wedi eu disgrifio yn is-adran (2).
(2)Yr adroddiadau yw—
(a)pob adroddiad a ddyroddir mewn cysylltiad â'r awdurdod yn ystod y flwyddyn ariannol honno o dan adran 19;
(b)unrhyw adroddiad o arolygiad arbennig o awdurdod a ddyroddir o dan adran 22 yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)cyhoeddi adroddiad gwella blynyddol pob awdurdod gwella Cymreig;
(b)pwyso a mesur, yng ngoleuni adroddiad gwella blynyddol awdurdod, a ddylid—
(i)argymell i reoleiddiwr perthnasol ynghylch sut y dylai'r rheoleiddiwr arfer swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod;
(ii)argymell i Weinidogion Cymru eu bod yn rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pŵer o dan adran 28;
(iii)argymell i Weinidogion Cymru eu bod yn rhoi cyfarwyddyd i'r awdurdod o dan adran 29;
(iv)arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â'r awdurdod;
(c)cyflwyno unrhyw argymhelliad sydd wedi ei grybwyll ym mharagraff (b)(i) i (iii) ac y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn credu y dylid ei gyflwyno.
(1)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru baratoi datganiad o arfer sy'n disgrifio'r ffordd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn is-adran (4).
(2)Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—
(a)adolygu'r datganiad; a
(b)os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol ar ôl adolygiad, paratoi datganiad o arfer diwygiedig.
(3)Rhaid i'r datganiad o arfer gydweddu â'r egwyddorion a ddisgrifir yn is-adran (5).
(4)Y swyddogaethau yw'r rhai a roddir i'r Archwilydd Cyffredinol gan—
(a)adran 17 (gwybodaeth am welliannau a chynllunio gwelliannau: archwilio);
(b)adran 18 (asesiadau gwella);
(c)adran 19 (adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu);
(d)adran 23 (cydlynu archwiliad etc);
(e)adran 24 (adroddiadau gwella blynyddol).
(5)Yr egwyddorion yw—
(a)y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru fod yn gyson yn y modd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau ymhlith gwahanol awdurdodau gwella Cymreig;
(b)y dylai personau a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 gyflawni eu cyfrifoldebau'n annibynnol;
(c)ei bod yn ddymunol bod swyddogaethau perthnasol y rheoleiddwyr perthnasol a swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol a ddisgrifir yn adran 23(7) yn cael eu harfer yn gymesur er mwyn peidio â gosod baich afresymol ar awdurdodau gwella Cymreig;
(d)y dylai'r swyddogaethau yn is-adran (4) gael eu harfer gyda golwg ar gynorthwyo awdurdodau gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.
(6)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru anfon copi o ddatganiad neu ddatganiad diwygiedig a baratowyd o dan is-adran (1) at Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo.
(7)Os caiff y datganiad neu'r datganiad diwygiedig ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi'r datganiad neu'r datganiad diwygiedig.
(8)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi sylw i'r datganiad a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-adran (7) wrth arfer y swyddogaethau a ddisgrifiwyd yn is-adran (4).
(1)Mae gan arolygydd hawl ar bob adeg resymol—
(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre sydd gan awdurdod gwella Cymreig, a
(b)i weld unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r awdurdod ac sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r arolygydd at ddibenion yr arolygiad, yr archwiliad neu'r asesiad.
(2)Mae'r hawl a roddir gan is-adran (1) yn cynnwys hawl i arolygu neu gopïo'r ddogfen neu i fynd â hi oddi yno.
(3)Caiff arolygydd—
(a)ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n dal unrhyw ddogfen o'r fath neu sy'n atebol amdani roi unrhyw wybodaeth neu esboniad i'r arolygydd sy'n angenrheidiol yn ei farn ef, a
(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ddod yn bersonol ger ei fron i roi'r wybodaeth neu'r esboniad neu i ddangos y ddogfen.
(4)Mewn perthynas â dogfen a gedwir ar ffurf electronig, mae'r pŵer yn is-adran (3)(b) i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos dogfen yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol iddi gael ei dangos ar ffurf sy'n ddarllenadwy ac y gellir mynd â hi oddi yno.
(5)Mewn cysylltiad ag arolygu dogfen o'r fath, caiff arolygydd—
(a)sicrhau mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig y mae'n credu eu bod yn cael neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad;
(b)ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (6) roi unrhyw gymorth rhesymol y bydd ar yr arolygydd ei angen at y diben hwnnw.
(6)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—
(a)os ef yw'r person sy'n defnyddio neu a ddefnyddiodd y cyfrifiadur, neu os defnyddir neu defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran; neu
(b)os yw'n berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'i weithredu.
(7)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi i arolygydd bob cyfleuster a phob gwybodaeth y mae ar yr arolygydd angen rhesymol ei gael neu ei chael at ddibenion yr arolygiad neu'r asesiad.
(8)Rhaid i arolygydd—
(a)oni bai bod yr amgylchiadau, ym marn yr arolygydd, yn eithriadol roi tri diwrnod clir o rybudd am unrhyw ofyniad o dan yr adran hon, a
(b)os gofynnir i'r arolygydd wneud hynny, dangos dogfennau sy'n nodi bod yr arolygydd yn berson ag awdurdod i osod gofynion o dan yr adran hon.
(9)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn atal unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon rhag cael ei arfer neu sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad gan arolygydd o dan yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(10)Gellir adennill unrhyw dreuliau yr â arolygydd iddynt mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan is-adran (9) yr honnir ei fod wedi'i gyflawni mewn perthynas ag arolygiad o awdurdod gwella Cymreig wrth yr awdurdod hwnnw, i'r graddau nad oes modd eu hadennill o unrhyw ffynhonnell arall.
(11)Yn yr adran hon ystyr “arolygydd” yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol neu berson sy'n darparu gwasanaethau i'r Archwilydd Cyffredinol ac sy'n cynnal archwiliad o dan adran 17, asesiad o dan adran 18 neu arolygiad arbennig.
(1)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ragnodi graddfeydd ffioedd mewn cysylltiad â'r canlynol—
(a)archwiliadau a gynhelir o dan adran 17;
(b)asesiadau a gynhelir o dan adran 18;
(c)arolygiadau arbennig.
(2)Caniateir i raddfeydd gwahanol gael eu rhagnodi mewn cysylltiad â'r gweithgareddau gwahanol sydd wedi eu disgrifio yn is-adran (1), gwahanol fathau o'r un gweithgaredd a gwahanol fathau o awdurdod gwella Cymreig.
(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), rhaid i awdurdod sy'n cael ei archwilio, ei asesu neu ei arolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1), dalu i Archwilydd Cyffredinol Cymru y ffi sy'n daladwy o dan y raddfa briodol.
(4)Os yw'n ymddangos i'r Archwilydd Cyffredinol fod y gwaith a oedd ynghlwm wrth archwiliad, asesiad neu arolygiad penodol yn sylweddol fwy neu'n sylweddol llai na'r hyn a ragwelwyd yn ôl y raddfa briodol, caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru godi ffi sy'n fwy neu'n llai na'r hyn y cyfeiriwyd ato yn is-adran (3).
(5)Cyn rhagnodi graddfa ffioedd o dan yr adran hon, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â'r canlynol—
(a)Gweinidogion Cymru, a
(b)personau y mae'n ymddangos i'r Archwilydd Cyffredinol eu bod yn cynrychioli awdurdodau y caniateir eu harchwilio, eu hasesu neu eu harolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1).
(6)Bydd adran 21 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ffioedd a ragnodir gan y Cynulliad) yn cael effaith mewn perthynas â graddfa neu raddfeydd ffioedd a ragnodir gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan yr adran hon yn yr un modd ag y mae'n cael effaith mewn perthynas â graddfa neu raddfeydd a ragnodir o dan adran 20(1) o'r Ddeddf honno, ond gyda'r addasiadau canlynol—
(a)yn is-adrannau (3) a (4) o adran 21, bod “section 27(3) and (4) of the Local Government (Wales) Measure 2009” wedi ei roi yn lle “section 20(4) and (5)”;
(b)bod is-adran (5)(c) wedi ei hepgor.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: