RHAN 1GWELLA LLYWODRAETH LEOL
Ystyr “awdurdod gwella Cymreig”
1Ystyr “awdurdod gwella Cymreig”
At ddibenion y Mesur hwn, mae “awdurdod gwella Cymreig”—
a
yn gyngor sir neu'n gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
b
yn awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru; neu
c
yn awdurdod tân ac achub Cymreig sy'n awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.
Y ddyletswydd gyffredinol
2Dyletswydd gyffredinol mewn perthynas â gwella
1
Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth arfer ei swyddogaethau.
2
Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i awdurdod roi sylw penodol i'r angen am wella'r modd y mae'n arfer ei swyddogaethau o ran—
a
effeithiolrwydd strategol;
b
ansawdd gwasanaethau;
c
argaeledd gwasanaethau;
d
tegwch;
e
cynaliadwyedd;
f
effeithlonrwydd; ac
g
arloesi.
3
I gael ystyron paragraffau (a) i (g) o is-adran (2), gweler adran 4.
Amcanion gwella
3Amcanion gwella
1
Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod gwella Cymreig osod amcanion iddo'i hun i wella'r modd y mae'n arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno (“amcanion gwella”).
2
Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i sicrhau ei fod yn bodloni ei amcanion gwella.
3
Rhaid i amcan gwella gael ei ffurfio mewn ffordd a fydd yn gwella'r modd yr arferir y swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi neu'r swyddogaethau y mae'n ymwneud â hwy o ran un o'r canlynol o leiaf—
a
effeithiolrwydd strategol;
b
ansawdd gwasanaethau;
c
argaeledd gwasanaethau;
d
tegwch;
e
cynaliadwyedd;
f
effeithlonrwydd; ac
g
arloesi.
4
I gael ystyron paragraffau (a) i (g) o is-adran (3), gweler adran 4.
Gwella: materion atodol
4Agweddau ar wella
1
Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer ystyron paragraffau (a) i (g) o'r canlynol—
a
adran 2(2);
b
adran 3(3); ac
c
adran 8(5).
2
Mae awdurdod gwella Cymreig yn gwella'r modd y mae'n arfer ei swyddogaethau o ran—
a
effeithiolrwydd strategol, os yw'n arfer ei swyddogaethau mewn ffordd sy'n rhesymol debyg o arwain at fodloni, neu helpu i fodloni, unrhyw un o'i amcanion strategol;
b
ansawdd gwasanaethau, os oes gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau;
c
argaeledd gwasanaethau, os oes gwelliant o ran y gwasanaethau sydd ar gael;
d
tegwch, os—
i
caiff anfanteision sy'n wynebu grwpiau penodol wrth geisio mynediad i wasanaethau, neu wrth geisio cymryd mantais lawn ohonynt, eu lleihau; neu
ii
caiff llesiant cymdeithasol ei wella o ganlyniad i ddarparu gwasanaethau neu i'r modd yr arferir swyddogaethau fel arall;
e
cynaliadwyedd, os caiff gwasanaethau eu darparu neu swyddogaethau eu harfer fel arall mewn modd sy'n cyfrannu at gyrraedd datblygiad cynaliadwy yn ardal yr awdurdod;
f
effeithlonrwydd, os oes gwelliant o ran effeithlonrwydd y modd y mae adnoddau'n cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau neu o ganlyniad i'r modd y caiff swyddogaethau eu harfer fel arall; ac
g
arloesi, os caiff y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu neu swyddogaethau'n cael eu harfer fel arall ei newid mewn modd sy'n rhesymol debyg o arwain at unrhyw ganlyniad sydd wedi ei ddisgrifio ym mharagraffau (a) i (f).
3
At ddibenion is-adran (2)(a), amcanion strategol awdurdod gwella Cymreig yw'r canlynol—
a
yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, yr amcanion strategaeth gymunedol sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth gymunedol gyfredol ar gyfer ardal yr awdurdod;
b
yn achos awdurdod Parc Cenedlaethol—
i
unrhyw amcanion strategaeth gymunedol perthnasol; a
ii
os yw Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol yr awdurdod yn cynnwys amcanion i'r awdurdod eu cyrraedd wrth arfer ei swyddogaethau, yr amcanion hynny;
c
yn achos awdurdod tân ac achub Cymreig—
i
unrhyw amcanion strategaeth gymunedol perthnasol; a
ii
os yw'r awdurdod wedi penderfynu gosod amcanion iddo'i hun mewn ymateb i ganllawiau sydd wedi'u cynnwys yn y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, yr amcanion hynny.
4
At ddibenion yr adran hon—
a
ystyr “strategaeth gymunedol gyfredol” (“current community strategy”) yw'r strategaeth gymunedol ar gyfer ardal awdurdod lleol a gyhoeddwyd o dan adran 39(4) neu, pan fo'r strategaeth wedi'i diwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 41, y strategaeth a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 41(6);
b
ystyr “Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub” (“Fire and Rescue National Framework”) yw'r Fframwaith a baratowyd gan Weinidogion Cymru ac sy'n cael effaith o dan adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (gan gynnwys unrhyw adolygiadau o'r Fframwaith sy'n cael effaith o dan yr adran honno);
c
ystyr “Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol” (“National Park Management Plan”) yw'r Cynllun sydd wedi ei gyhoeddi gan awdurdod Parc Cenedlaethol o dan adran 66 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau i'r Cynllun sydd wedi eu cyhoeddi o dan is-adran (6) o'r adran honno);
d
ystyr “amcan strategaeth gymunedol perthnasol” (“relevant community strategy objective”) yw amcan sydd—
i
wedi'i gynnwys mewn strategaeth gymunedol gyfredol y bu'r awdurdod ynghlwm wrth ei llunio fel partner cynllunio cymunedol (o fewn ystyr adran 38); a
ii
yn gysylltiedig â swyddogaethau'r awdurdod;
e
mae cyfeiriad at wasanaethau yn gyfeiriad at—
i
gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr awdurdod wrth arfer ei swyddogaethau;
ii
gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan unrhyw berson arall o dan drefniadau a wnaed gan yr awdurdod wrth arfer ei swyddogaethau.
5Ymgynghori ynghylch y ddyletswydd gyffredinol a'r amcanion gwella
1
Er mwyn penderfynu sut i gyflawni'r dyletswyddau o dan adran 2(1) a 3(1), rhaid i awdurdod gwella Cymreig ymgynghori â'r canlynol—
a
cynrychiolwyr personau sy'n preswylio yn ardal yr awdurdod;
b
cynrychiolwyr personau sy'n atebol i dalu ardrethi annomestig mewn cysylltiad ag unrhyw ardal y mae'r awdurdod yn cyflawni swyddogaethau ynddi;
c
cynrychiolwyr personau sy'n defnyddio neu sy'n debyg o ddefnyddio gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod; a
d
cynrychiolwyr personau y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ganddynt ddiddordeb mewn unrhyw ardal y mae'r awdurdod yn cyflawni swyddogaethau ynddi.
2
At ddibenion is-adran (1) ystyr “cynrychiolwyr”, mewn perthynas â grwp o bersonau, yw personau y mae'n ymddangos i'r awdurdod eu bod yn cynrychioli'r grwp hwnnw.
6Y ddyletswydd gyffredinol, amcanion gwella ac ymgynghori: canllawiau
Wrth benderfynu—
a
sut i gyflawni'i ddyletswyddau o dan adran 2(1), 3(1) a 3(2);
b
â phwy i ymgynghori o dan adran 5; neu
c
ffurf, cynnwys ac amseriad yr ymgynghoriadau o dan adran 5,
rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
7Agweddau ar wella: diwygio
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—
a
diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (2) o adran 4;
b
ychwanegu paragraffau ychwanegol at yr is-adran honno;
c
diwygio neu hepgor paragraffau ychwanegol o'r fath.
2
Caiff gorchymyn o'r fath wneud unrhyw ddiwygiadau i'r Mesur hwn sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn angenrheidiol neu'n hwylus mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth a wnaed o dan is-adran (1).
3
Cyn gwneud gorchymyn o'r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—
a
personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli awdurdodau gwella Cymreig, a
b
unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda i ymgynghori â hwy.
Dangosyddion perfformiad a safonau perfformiad
8Dangosyddion perfformiad a safonau perfformiad
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu—
a
ffactorau (“dangosyddion perfformiad”) y gellir eu defnyddio i fesur perfformiad awdurdod gwella Cymreig wrth iddo arfer ei swyddogaethau;
b
safonau (“safonau perfformiad”) sydd i'w cyrraedd gan awdurdodau gwella Cymreig mewn perthynas â'r dangosyddion perfformiad a bennwyd o dan baragraff (a).
2
Caiff gorchymyn bennu gwahanol ddangosyddion perfformiad neu wahanol safonau perfformiad—
a
ar gyfer gwahanol swyddogaethau;
b
ar gyfer gwahanol awdurdodau neu wahanol ddisgrifiadau o awdurdod;
c
i fod yn gymwys ar adegau gwahanol.
3
Cyn pennu dangosyddion perfformiad neu safonau perfformiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—
a
personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli'r awdurdodau o dan sylw,
b
Archwilydd Cyffredinol Cymru, a
c
unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda i ymgynghori â hwy.
4
Wrth benderfynu a ddylid pennu dangosyddion perfformiad a safonau perfformiad, ac wrth eu penderfynu, rhaid i Weinidogion Cymru anelu at hyrwyddo gwelliant yn y modd y mae swyddogaethau awdurdodau gwella Cymreig yn cael eu harfer.
5
Yn benodol, rhaid i Weinidogion Cymru ymwneud â'r angen am wella'r modd y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu harfer o ran o leiaf un o'r canlynol—
a
effeithiolrwydd strategol;
b
ansawdd gwasanaethau;
c
argaeledd gwasanaethau;
d
tegwch;
e
cynaliadwyedd;
f
effeithlonrwydd; ac
g
arloesi.
6
I gael ystyron paragraffau (a) i (g) o is-adran (5), gweler adran 4(2).
7
Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i arfer ei swyddogaethau fel bod unrhyw safon perfformiad gymwys a bennwyd o dan is-adran (1)(b) yn cael ei bodloni.
Cydlafurio a gwella
9Pwerau cydlafurio etc
1
Er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau ei hun neu ddyletswyddau awdurdod gwella Cymreig arall o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7), neu er mwyn hwyluso'r modd y mae'r dyletswyddau hynny'n cael eu cyflawni, mae gan awdurdod gwella Cymreig y pwerau yn is-adran (2).
2
Mae'r pwerau yn bwerau i wneud y canlynol—
a
rhoi cymorth ariannol i unrhyw berson;
b
ymrwymo i drefniadau neu gytundebau gydag unrhyw berson;
c
cydweithredu ag unrhyw berson, neu hwyluso neu gydlynu gweithgareddau'r person hwnnw;
d
arfer ar ran unrhyw berson unrhyw un o swyddogaethau'r person hwnnw; ac
e
darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson.
3
Nid yw'r adran hon yn lleihau neu estyn effaith unrhyw bwer arall sydd gan awdurdod gwella Cymreig.
10Awdurdodau tân ac achub: pwerau dirprwyo
1
Er mwyn i awdurdod tân ac achub Cymreig gyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) neu er mwyn ei gwneud yn hwylus iddynt gael eu cyflawni, bydd adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (trefniadau ar gyfer y modd y mae swyddogaethau i'w cyflawni gan awdurdodau lleol) yn cael effaith fel petai'r awdurdod yn awdurdod lleol at ddibenion yr adran honno.
2
Nid yw'r adran hon yn lleihau neu estyn effaith unrhyw bwer arall sydd gan awdurdod tân ac achub Cymreig.
11Ystyr “pwerau cydlafurio”
1
At ddibenion y Rhan hon, mae cyfeiriad at “bwerau cydlafurio” awdurdod gwella Cymreig yn gyfeiriad at y canlynol—
a
pwerau'r awdurdod gwella Cymreig o dan adran 9 o'r Mesur hwn;
b
yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol—
i
ei bwerau o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer y modd y mae swyddogaethau i'w cyflawni gan awdurdodau lleol);
ii
pŵer gan weithrediaeth yr awdurdod (neu bwyllgor neu aelod penodedig o'r weithrediaeth) i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) (cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall neu ar ei ran);
iii
pŵer gan yr awdurdod i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
c
pŵer yr awdurdod gwella Cymreig i awdurdodi person (neu rai sy'n cael eu cyflogi gan y person) i arfer swyddogaeth ar ran yr awdurdod o dan orchymyn a wnaed o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40);
d
yn achos awdurdod tân ac achub Cymreig, ei bwerau o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y rhoddir effaith i'r adran honno mewn perthynas â'r awdurdod gan adran 10 o'r Mesur hwn);
e
yn achos awdurdod Parc Cenedlaethol, ei bwerau o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y rhoddir effaith i'r adran honno mewn perthynas â'r awdurdod gan baragraff 13 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25)).
2
Yn is-adran (1)(b)(ii) mae i “gweithrediaeth” yr un ystyr ag “executive” yn Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
12Dyletswyddau mewn perthynas â phwerau cydlafurio
1
Rhaid i awdurdod gwella Cymreig bwyso a mesur o bryd i'w gilydd a fyddai arfer unrhyw un o'i bwerau cydlafurio yn ei helpu i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7).
2
Os daw'r awdurdod i'r casgliad y byddai arfer pŵer cydlafurio yn ei helpu i gydymffurfio â'r dyletswyddau hynny, rhaid iddo geisio arfer y pŵer, neu geisio peri iddo gael ei arfer.
Cynllunio gwelliannau a gwybodaeth am welliannau
13Casglu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â pherfformiad
1
Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau ar gyfer—
a
casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddo asesu a yw wedi cyrraedd yn ystod blwyddyn ariannol yr amcanion gwella hynny a osodwyd o dan adran 3(1) ac sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;
b
casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddo wneud y canlynol—
i
mesur ei berfformiad yn ystod blwyddyn ariannol drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad hynny a bennwyd o dan adran 8(1)(a) ac sy'n gymwys i'r awdurdod am y flwyddyn honno;
ii
asesu a yw wedi cyrraedd yn ystod blwyddyn ariannol y safonau perfformiad hynny a bennwyd o dan adran 8(1)(b) ac sy'n gymwys i'r awdurdod am y flwyddyn honno;
c
casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddo wneud y canlynol—
i
mesur ei berfformiad yn ystod blwyddyn ariannol drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad hunanosodedig hynny sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;
ii
asesu a yw wedi cyrraedd yn ystod blwyddyn ariannol y safonau perfformiad hunanosodedig hynny sy'n gymwys i'r flwyddyn honno.
2
At ddibenion yr adran hon ac adrannau 14 a 15—
a
mae dangosydd perfformiad hunanosodedig yn ffactor y mae awdurdod gwella Cymreig, drwy gyfeirio ato, wedi penderfynu ei ddefnyddio i fesur ei berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau; a
b
mae safon perfformiad hunanosodedig yn safon y mae awdurdod gwella Cymreig wedi penderfynu ei chyrraedd mewn perthynas â dangosydd perfformiad hunanosodedig.
14Defnyddio gwybodaeth am berfformiad
1
Rhaid i awdurdod gwella Cymreig ddefnyddio'r wybodaeth y mae'n ei chasglu o dan adran 13 i gymharu ei berfformiad wrth arfer y swyddogaethau y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hwy â'r canlynol—
a
ei berfformiad wrth arfer y swyddogaethau hynny neu rai tebyg yn ystod y blynyddoedd ariannol blaenorol; a
b
cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol bosibl, perfformiad awdurdodau gwella Cymreig eraill ac awdurdodau cyhoeddus eraill wrth arfer y swyddogaethau hynny neu rai tebyg yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi ac yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol.
2
Rhaid i awdurdod gwella Cymreig—
a
defnyddio'r wybodaeth y mae'n ei chasglu o dan adran 13 i asesu a allai wella ei berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau; a
b
yng ngoleuni'r asesiad hwnnw, penderfynu pa gamau y bydd yn eu cymryd gyda golwg ar wella ei berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau.
3
Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan yr adran hon ac adran 13, rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
15Cynllunio gwelliannau a chyhoeddi gwybodaeth am welliannau
1
Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau yn unol â'r adran hon ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth a ddisgrifir isod.
2
Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi—
a
asesiad yr awdurdod o'i berfformiad yn ystod blwyddyn ariannol—
i
o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 2;
ii
o ran cyrraedd yr amcanion gwella y mae wedi'u gosod iddo'i hun o dan adran 3 ac sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;
iii
drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennwyd o dan adran 8(1)(a) a dangosyddion perfformiad hunanosodedig sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;
iv
o ran cyrraedd y safonau perfformiad a bennwyd o dan adran 8(1)(b) a safonau perfformiad hunanosodedig sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;
b
asesiad yr awdurdod o'i berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod blwyddyn ariannol o gymharu'r perfformiad hwnnw â'r canlynol—
i
ei berfformiad yn y blynyddoedd ariannol blaenorol; a
ii
cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, perfformiad awdurdodau gwella Cymreig eraill ac awdurdodau cyhoeddus eraill yn ystod y flwyddyn ariannol honno a blynyddoedd ariannol blaenorol (i'r graddau y mae'r awdurdodau hynny'n arfer swyddogaethau sy'n debyg i'r rhai sy'n cael eu harfer gan yr awdurdod);
c
manylion am y ffyrdd y mae'r awdurdod wedi arfer ei bwerau cydlafurio yn ystod blwyddyn ariannol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) yn ystod y flwyddyn honno neu ei gwneud yn hwylus iddo gyflawni'r dyletswyddau hynny;
d
manylion am yr wybodaeth a gasglwyd o dan adran 13 mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol a'r hyn y mae'r awdurdod wedi'i wneud i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 14 mewn perthynas â'r flwyddyn honno.
3
Rhaid i'r trefniadau gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn—
a
31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr un y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi; neu
b
unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
4
Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â'r awdurdod a ddyroddir o dan adran 22.
5
Rhaid i'r trefniadau hynny gael eu ffurfio fel bod y crynodeb yn cael ei gyhoeddi cyn—
a
31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr un y cafodd yr adroddiad ei ddyroddi ynddi; neu
b
unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
6
Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi disgrifiad o gynlluniau'r awdurdod ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) mewn blwyddyn ariannol a hynny, os gwêl yr awdurdod yn dda, ynghyd â'i gynlluniau ar gyfer y blynyddoedd dilynol (“cynllun gwella”).
7
Rhaid i'r trefniadau gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi—
a
cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r cynllun yn ymwneud â hi; neu
b
cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
8
Rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cyflawni ei ddyletswyddau o dan yr adran hon.
9
Heb leihau neu estyn effaith natur gyffredinol is-adran (8), caiff canllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran honno fynd i'r afael â'r canlynol—
a
y modd y mae asesiadau o berfformiad i'w cynnal;
b
gwneud cynllun gwella, gan gynnwys yr weithdrefn sydd i'w dilyn.
Rheoleiddwyr perthnasol a'u swyddogaethau
16Ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”
1
At ddibenion y Rhan hon, mae “rheoleiddiwr perthnasol” yn berson a restrir yn is-adran (2) a “swyddogaethau perthnasol” y rheoleiddiwr yw'r rhai a bennir mewn cysylltiad â'r person hwnnw yn yr is-adran honno.
2
Mae'r rheoleiddwyr perthnasol a'u swyddogaethau perthnasol fel a ganlyn—
a
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wrth arfer swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) (arolygu AALl);
b
Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau o dan—
i
adrannau 93, 94 a 95 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau Cymunedol) 2003 (p. 43) (adolygiadau etc o'r gwasanaethau cymdeithasol sy'n cael eu darparu);
ii
rheoliadau a wnaed o dan adran 96 o'r Ddeddf honno;
c
person a benodwyd o dan adran 28 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) (arolygwyr) wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 28(1) o'r Ddeddf honno;
d
Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth arfer swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38) (ymchwiliadau);
e
archwilydd sydd wedi ei benodi o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) i archwilio cyfrifon awdurdod gwella Cymreig wrth arfer y swyddogaeth o gynnal yr archwiliad.
3
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—
a
diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (2);
b
ychwanegu paragraffau ychwanegol at yr is-adran honno;
c
diwygio neu hepgor paragraffau ychwanegol o'r fath.
4
Caiff gorchymyn o'r fath wneud unrhyw ddiwygiadau i'r Mesur hwn sy'n ymddangos yn angenrheidiol neu'n hwylus i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth a wnaed o dan is-adran (3).
5
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud gorchymyn o'r fath onid ydynt wedi ymgynghori â'r canlynol—
a
personau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli awdurdodau gwella Cymreig;
b
Archwilydd Cyffredinol Cymru;
c
pan fo'r gorchymyn yn newid y swyddogaethau perthnasol sydd wedi'u pennu mewn cysylltiad â rheoleiddiwr perthnasol, y rheoleiddiwr hwnnw;
d
pan fo'r gorchymyn yn ychwanegu person at y rhestr o reoleiddwyr perthnasol, y person hwnnw.
6
Ond nid yw is-adran (5)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fod wedi ymgynghori â pherson a sefydlwyd drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad os nad yw'r deddfiad mewn grym ar y dyddiad y gwneir y gorchymyn.
Archwiliadau ac asesiadau gwella
17Gwybodaeth am welliannau a chynllunio ar gyfer gwella: archwilio
Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliad er mwyn penderfynu—
a
a yw awdurdod gwella Cymreig wedi cyflawni yn ystod y flwyddyn honno ei ddyletswydd o dan adran 15(1) i (7); a
b
i ba raddau y mae'r awdurdod wedi gweithredu yn ystod y flwyddyn honno yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8).
18Asesiadau gwella
1
Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal asesiad er mwyn penderfynu a yw awdurdod gwella Cymreig yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod y flwyddyn honno.
2
Ynghyd ag asesiad o dan is-adran (1), caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal asesiad er mwyn penderfynu a yw'r awdurdod gwella Cymreig yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod blynyddoedd ariannol dilynol.
19Adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu
1
Bob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ddyroddi mewn cysylltiad â phob awdurdod gwella Cymreig adroddiad neu adroddiadau—
a
sy'n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal archwiliad o dan adran 17 mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol flaenorol;
b
sy'n datgan a yw'r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i'r archwiliad, yn credu—
i
bod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (7); a
ii
bod yr awdurdod wedi gweithredu'n unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);
c
sy'n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal asesiad o dan adran 18 mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol;
d
sy'n disgrifio i ba raddau y mae gwybodaeth a dogfennau a ddarparwyd i'r Archwilydd Cyffredinol o dan adran 33 wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth gynnal yr asesiad hwnnw;
e
sy'n datgan a yw'r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i'r asesiad, yn credu bod yr awdurdod yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod y flwyddyn ariannol;
f
sy'n argymell, os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, gamau y dylai'r awdurdod eu cymryd er mwyn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon neu weithredu'n unol â chanllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8) (p'un ai mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol honno neu flwyddyn ariannol ddiweddarach);
g
sy'n argymell, os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, y dylai Gweinidogion Cymru—
i
rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pŵer o dan adran 28;
ii
rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29 ac, os felly, y math o gyfarwyddyd;
h
sy'n datgan, yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, a yw'r Archwilydd Cyffredinol o blaid cynnal arolygiad arbennig o dan adran 21.
2
Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol anfon copi o unrhyw adroddiad a ddyroddir o dan yr adran hon i'r awdurdod o dan sylw ac at Weinidogion Cymru.
3
Rhaid i gopïau o adroddiad gael eu hanfon yn unol ag is-adran (2)—
a
erbyn 30 Tachwedd yn ystod y flwyddyn ariannol y cafodd yr archwiliad ei gynnal ynddi neu y mae'r asesiad yn ymwneud â hi; neu
b
erbyn unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
4
Ond caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, bennu dyddiad ar gyfer anfon adroddiad mewn perthynas ag awdurdod gwella Cymreig penodedig sy'n wahanol i'r dyddiad a fyddai'n gymwys fel arall o dan is-adran (3)—
a
os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gwneud cais am i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddydd o'r fath; a
b
os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod yr amgylchiadau'n eithriadol.
20Ymateb i adroddiadau adran 19
1
Mae'r is-adrannau canlynol yn gymwys pan fo unrhyw adroddiad a gaiff awdurdod gwella Cymreig o dan adran 19(2)—
a
yn cynnwys argymhelliad o dan adran 19(1)(f) neu (g); neu
b
yn datgan o dan adran 19(1)(h) bod Archwilydd Cyffredinol Cymru o blaid cynnal arolygiad arbennig.
2
Rhaid i'r awdurdod baratoi datganiad ynghylch—
a
unrhyw gamau y mae'n bwriadu eu cymryd o ganlyniad i'r adroddiad; a
b
yr amserlen y mae'n ei chynnig ar gyfer cymryd y camau hynny.
3
Rhaid i ddatganiad sy'n ofynnol o dan is-adran (2) gael ei baratoi—
a
cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau gwaith sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod yn cael yr adroddiad; neu
b
os yw'r adroddiad yn pennu cyfnod byrrach sy'n dechrau ar y diwrnod hwnnw, cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
4
Rhaid i'r awdurdod ymgorffori'r datganiad yn ei gynllun gwella ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
5
Os bydd yr adroddiad yn argymell bod Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29, rhaid i'r awdurdod anfon copi o'r datganiad at Weinidogion Cymru—
a
cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau gwaith sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod yn cael yr adroddiad; neu
b
os yw'r adroddiad yn pennu cyfnod byrrach sy'n dechrau ar y diwrnod hwnnw, cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
6
At ddibenion yr adran hon, mae diwrnod gwaith yn ddiwrnod nad yw—
a
yn ddydd Sadwrn nac yn ddydd Sul;
b
yn Ddydd Nadolig nac yn Ddydd Gwener y Groglith; neu
c
yn unrhyw ddydd sy'n wyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 yng Nghymru a Lloegr.
Swyddogaethau eraill Archwilydd Cyffredinol Cymru
21Arolygiadau arbennig
1
Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiad o gydymffurfedd awdurdod gwella Cymreig â gofynion y Rhan hon—
a
os yw'r Archwilydd Cyffredinol o'r farn y gallai'r awdurdod fethu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon; neu
b
os bydd unrhyw reoleiddiwr perthnasol yn hysbysu'r Archwilydd Cyffredinol y gallai'r awdurdod, ym marn y rheoleiddiwr, fethu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon.
2
Er hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol wneud y canlynol cyn penderfynu a ddylid cynnal arolygiad—
a
ymgynghori â Gweinidogion Cymru; a
b
mewn achos lle mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi datgan mewn adroddiad o dan adran 19(1)(h) bod yr Archwilydd Cyffredinol o blaid cynnal arolygiad arbennig, ystyried unrhyw ddatganiad ar ffurf ymateb a wneir gan yr awdurdod yn unol ag adran 20(3).
3
Caiff arolygiad o dan is-adran (1) ymwneud â'r cyfan neu rai o swyddogaethau awdurdod.
4
Os bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal arolygiad o gydymffurfedd awdurdod gwella Cymreig â gofynion y Rhan hon, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gydymffurfio â'r cyfarwyddyd.
5
Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (4) ymwneud â rhai neu'r cyfan o swyddogaethau awdurdod.
6
Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Archwilydd Cyffredinol.
7
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru hysbysu awdurdod gwella Cymreig—
a
os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu cynnal arolygiad o'r awdurdod o dan is-adran (1); neu
b
os yw Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo'r Archwilydd Cyffredinol i gynnal arolygiad o'r awdurdod o dan is-adran (4).
8
Rhaid i'r hysbysiad bennu'r swyddogaethau y bydd yr arolygiad yn ymwneud â hwy.
9
Wrth gynnal arolygiad ac, yn achos arolygiad o dan is-adran (1), wrth benderfynu a ddylid gwneud hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
10
At ddibenion y Rhan hon, cyfeirir at arolygiad o dan yr adran hon fel arolygiad arbennig.
11
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at swyddogaethau awdurdod yn cynnwys trefniadau sy'n cael eu gwneud i hwyluso neu gefnogi'r modd yr arferir y swyddogaethau hynny.
22Adroddiadau am arolygiadau arbennig
1
Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cynnal arolygiad arbennig, rhaid i'r Archwilydd ddyroddi adroddiad.
2
O ran adroddiad—
a
rhaid iddo grybwyll unrhyw fater y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn credu amdano, o ganlyniad i'r arolygiad, fod yr awdurdod yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon neu ei bod yn bosibl i'r awdurdod fethu yn y cyswllt hwnnw, a
b
caiff argymell, os yw'n crybwyll mater o dan baragraff (a), fod Gweinidogion Cymru yn gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r ddau, sef—
i
rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pwer o dan adran 28;
ii
rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29.
3
O ran yr Archwilydd Cyffredinol—
a
rhaid iddo anfon copi o adroddiad at yr awdurdod o dan sylw ac at Weinidogion Cymru;
b
os gwneir argymhelliad o dan is-adran (2)(b) mewn adroddiad, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol drefnu i'r argymhelliad gael ei gyhoeddi; a
c
caiff gyhoeddi adroddiad ac unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad ag adroddiad.
4
Os bydd adroddiad yn datgan bod yr Archwilydd Cyffredinol yn credu, o ganlyniad i arolygiad, fod awdurdod gwella Cymreig yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon, rhaid i'r cynllun gwella nesaf a baratoir gan yr awdurdod gofnodi—
a
y ffaith honno, a
b
unrhyw gamau sydd wedi'u cymryd, neu sydd i'w cymryd, gan yr awdurdod o ganlyniad i'r adroddiad.
5
Os bydd adroddiad yn ymwneud i unrhyw raddau â gweinyddiaeth budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor, a bod yr Archwilydd Cyffredinol yn gweld yn dda i wneud hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol anfon copi o'r adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
23Cydlynu archwiliad etc
1
Rhaid i'r rheoleiddwyr perthnasol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru roi sylw i'r angen am gydlynu wrth arfer swyddogaethau rheoleiddio.
2
Ystyr “swyddogaethau rheoleiddio” yw swyddogaethau perthnasol y rheoleiddwyr perthnasol a swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan is-adran (7).
3
Mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, ar ôl ymgynghori â'r rheoleiddwyr perthnasol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio amserlen ar gyfer pob awdurdod gwella Cymreig sy'n nodi barn yr Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â'r dyddiadau neu'r amserau yn y flwyddyn honno pryd y dylai—
a
rheoleiddwyr perthnasol arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn cysylltiad ag awdurdod; a
b
yr Archwilydd Cyffredinol arfer y swyddogaethau sydd wedi eu nodi yn is-adran (7) mewn cysylltiad ag awdurdod.
4
Caniateir i'r ddyletswydd o dan is-adran (3) gael ei chyflawni drwy lunio amserlen sy'n ymwneud â mwy nag un flwyddyn ariannol.
5
Mewn perthynas ag awdurdod gwella Cymreig, rhaid i'r rheoleiddwyr perthnasol wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol, ac i'r Archwilydd Cyffredinol wrth arfer y swyddogaethau sydd wedi eu nodi yn is-adran (7), gymryd pob cam rhesymol i lynu wrth yr amserlen a luniwyd mewn perthynas â'r awdurdod o dan is-adran (3).
6
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynorthwyo'r rheoleiddwyr perthnasol i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (5).
7
Swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol o dan—
a
adrannau 13 a 41 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004; a
b
adrannau 17 i 19 o'r Mesur hwn.
24Adroddiadau gwella blynyddol
1
Mewn perthynas â phob awdurdod gwella Cymreig, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, adroddiad (“adroddiad gwella blynyddol”) sy'n crynhoi neu'n atgynhyrchu'r adroddiadau sydd wedi eu disgrifio yn is-adran (2).
2
Yr adroddiadau yw—
a
pob adroddiad a ddyroddir mewn cysylltiad â'r awdurdod yn ystod y flwyddyn ariannol honno o dan adran 19;
b
unrhyw adroddiad o arolygiad arbennig o awdurdod a ddyroddir o dan adran 22 yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
3
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
a
cyhoeddi adroddiad gwella blynyddol pob awdurdod gwella Cymreig;
b
pwyso a mesur, yng ngoleuni adroddiad gwella blynyddol awdurdod, a ddylid—
i
argymell i reoleiddiwr perthnasol ynghylch sut y dylai'r rheoleiddiwr arfer swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod;
ii
argymell i Weinidogion Cymru eu bod yn rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pŵer o dan adran 28;
iii
argymell i Weinidogion Cymru eu bod yn rhoi cyfarwyddyd i'r awdurdod o dan adran 29;
iv
arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â'r awdurdod;
c
cyflwyno unrhyw argymhelliad sydd wedi ei grybwyll ym mharagraff (b)(i) i (iii) ac y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn credu y dylid ei gyflwyno.
25Datganiad o arfer
1
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru baratoi datganiad o arfer sy'n disgrifio'r ffordd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn is-adran (4).
2
Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—
a
adolygu'r datganiad; a
b
os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol ar ôl adolygiad, paratoi datganiad o arfer diwygiedig.
3
Rhaid i'r datganiad o arfer gydweddu â'r egwyddorion a ddisgrifir yn is-adran (5).
4
Y swyddogaethau yw'r rhai a roddir i'r Archwilydd Cyffredinol gan—
a
adran 17 (gwybodaeth am welliannau a chynllunio gwelliannau: archwilio);
b
adran 18 (asesiadau gwella);
c
adran 19 (adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu);
d
adran 23 (cydlynu archwiliad etc);
e
adran 24 (adroddiadau gwella blynyddol).
5
Yr egwyddorion yw—
a
y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru fod yn gyson yn y modd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau ymhlith gwahanol awdurdodau gwella Cymreig;
b
y dylai personau a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 gyflawni eu cyfrifoldebau'n annibynnol;
c
ei bod yn ddymunol bod swyddogaethau perthnasol y rheoleiddwyr perthnasol a swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol a ddisgrifir yn adran 23(7) yn cael eu harfer yn gymesur er mwyn peidio â gosod baich afresymol ar awdurdodau gwella Cymreig;
d
y dylai'r swyddogaethau yn is-adran (4) gael eu harfer gyda golwg ar gynorthwyo awdurdodau gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.
6
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru anfon copi o ddatganiad neu ddatganiad diwygiedig a baratowyd o dan is-adran (1) at Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo.
7
Os caiff y datganiad neu'r datganiad diwygiedig ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi'r datganiad neu'r datganiad diwygiedig.
8
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi sylw i'r datganiad a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-adran (7) wrth arfer y swyddogaethau a ddisgrifiwyd yn is-adran (4).
26Pwerau a dyletswyddau arolygwyr
1
Mae gan arolygydd hawl ar bob adeg resymol—
a
i fynd i mewn i unrhyw fangre sydd gan awdurdod gwella Cymreig, a
b
i weld unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r awdurdod ac sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r arolygydd at ddibenion yr arolygiad, yr archwiliad neu'r asesiad.
2
Mae'r hawl a roddir gan is-adran (1) yn cynnwys hawl i arolygu neu gopïo'r ddogfen neu i fynd â hi oddi yno.
3
Caiff arolygydd—
a
ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n dal unrhyw ddogfen o'r fath neu sy'n atebol amdani roi unrhyw wybodaeth neu esboniad i'r arolygydd sy'n angenrheidiol yn ei farn ef, a
b
ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ddod yn bersonol ger ei fron i roi'r wybodaeth neu'r esboniad neu i ddangos y ddogfen.
4
Mewn perthynas â dogfen a gedwir ar ffurf electronig, mae'r pŵer yn is-adran (3)(b) i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos dogfen yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol iddi gael ei dangos ar ffurf sy'n ddarllenadwy ac y gellir mynd â hi oddi yno.
5
Mewn cysylltiad ag arolygu dogfen o'r fath, caiff arolygydd—
a
sicrhau mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig y mae'n credu eu bod yn cael neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad;
b
ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (6) roi unrhyw gymorth rhesymol y bydd ar yr arolygydd ei angen at y diben hwnnw.
6
Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—
a
os ef yw'r person sy'n defnyddio neu a ddefnyddiodd y cyfrifiadur, neu os defnyddir neu defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran; neu
b
os yw'n berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'i weithredu.
7
Rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi i arolygydd bob cyfleuster a phob gwybodaeth y mae ar yr arolygydd angen rhesymol ei gael neu ei chael at ddibenion yr arolygiad neu'r asesiad.
8
Rhaid i arolygydd—
a
oni bai bod yr amgylchiadau, ym marn yr arolygydd, yn eithriadol roi tri diwrnod clir o rybudd am unrhyw ofyniad o dan yr adran hon, a
b
os gofynnir i'r arolygydd wneud hynny, dangos dogfennau sy'n nodi bod yr arolygydd yn berson ag awdurdod i osod gofynion o dan yr adran hon.
9
Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn atal unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon rhag cael ei arfer neu sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad gan arolygydd o dan yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
10
Gellir adennill unrhyw dreuliau yr â arolygydd iddynt mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan is-adran (9) yr honnir ei fod wedi'i gyflawni mewn perthynas ag arolygiad o awdurdod gwella Cymreig wrth yr awdurdod hwnnw, i'r graddau nad oes modd eu hadennill o unrhyw ffynhonnell arall.
11
Yn yr adran hon ystyr “arolygydd” yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol neu berson sy'n darparu gwasanaethau i'r Archwilydd Cyffredinol ac sy'n cynnal archwiliad o dan adran 17, asesiad o dan adran 18 neu arolygiad arbennig.
27Ffioedd
1
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ragnodi graddfeydd ffioedd mewn cysylltiad â'r canlynol—
a
archwiliadau a gynhelir o dan adran 17;
b
asesiadau a gynhelir o dan adran 18;
c
arolygiadau arbennig.
2
Caniateir i raddfeydd gwahanol gael eu rhagnodi mewn cysylltiad â'r gweithgareddau gwahanol sydd wedi eu disgrifio yn is-adran (1), gwahanol fathau o'r un gweithgaredd a gwahanol fathau o awdurdod gwella Cymreig.
3
Yn ddarostyngedig i is-adran (4), rhaid i awdurdod sy'n cael ei archwilio, ei asesu neu ei arolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1), dalu i Archwilydd Cyffredinol Cymru y ffi sy'n daladwy o dan y raddfa briodol.
4
Os yw'n ymddangos i'r Archwilydd Cyffredinol fod y gwaith a oedd ynghlwm wrth archwiliad, asesiad neu arolygiad penodol yn sylweddol fwy neu'n sylweddol llai na'r hyn a ragwelwyd yn ôl y raddfa briodol, caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru godi ffi sy'n fwy neu'n llai na'r hyn y cyfeiriwyd ato yn is-adran (3).
5
Cyn rhagnodi graddfa ffioedd o dan yr adran hon, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â'r canlynol—
a
Gweinidogion Cymru, a
b
personau y mae'n ymddangos i'r Archwilydd Cyffredinol eu bod yn cynrychioli awdurdodau y caniateir eu harchwilio, eu hasesu neu eu harolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1).
6
Bydd adran 21 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ffioedd a ragnodir gan y Cynulliad) yn cael effaith mewn perthynas â graddfa neu raddfeydd ffioedd a ragnodir gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan yr adran hon yn yr un modd ag y mae'n cael effaith mewn perthynas â graddfa neu raddfeydd a ragnodir o dan adran 20(1) o'r Ddeddf honno, ond gyda'r addasiadau canlynol—
a
yn is-adrannau (3) a (4) o adran 21, bod “section 27(3) and (4) of the Local Government (Wales) Measure 2009” wedi ei roi yn lle “section 20(4) and (5)”;
b
bod is-adran (5)(c) wedi ei hepgor.
Gweinidogion Cymru
28Gweinidogion Cymru: cymorth i awdurdodau gwella Cymreig
1
Os ydynt wedi cydymffurfio ag is-adran (3), caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent o'r farn ei fod yn debyg o gynorthwyo awdurdod gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.
2
Mae'r pŵer o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer—
a
i ymrwymo i drefniadau neu gytundebau gydag unrhyw berson;
b
i gydweithredu gydag unrhyw berson, neu i hwyluso neu gydlynu gweithgareddau'r person hwnnw;
c
i arfer ar ran unrhyw berson unrhyw un o swyddogaethau'r person hwnnw;
d
i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson.
3
Onid ydynt yn arfer y pŵer o dan is-adran (1) mewn ymateb i gais a wneir o dan is- adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn arfer y pŵer hwnnw, ymgynghori â—
a
yr awdurdod gwella Cymreig neu'r awdurdodau gwella Cymreig y maent yn bwriadu ei gynorthwyo neu eu cynorthwyo wrth arfer y pŵer; a
b
y personau hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru mai hwy yw'r prif randdeiliaid yr effeithir arnynt wrth arfer y pŵer y cyfeirir ato yn is-adran (1).
4
Os yw awdurdod gwella Cymreig yn gofyn iddynt wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bwyso a mesur a ddylent arfer eu pŵer o dan is-adran (1).
29Gweinidogion Cymru: pwerau cyfarwyddo etc
1
Mae'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ynghylch unrhyw un o'r canlynol—
a
bod—
i
yr awdurdod wedi bod yn wrthrych camau gan Weinidogion Cymru i arfer eu pŵer o dan adran 28 er mwyn cynorthwyo'r awdurdod i gydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon; a
ii
yr awdurdod yn methu, neu'n debyg o fethu, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon a bod y methiant hwnnw, neu'r methiant tebygol, yn ymwneud â gofyniad sydd wedi ei grybwyll yn is-baragraff (i);
b
bod—
i
yr awdurdod yn methu, neu'n debyg o fethu, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon; a
ii
bod brys y sefyllfa neu ganlyniadau posibl y methiant, neu'r methiant tebygol, yn golygu ei bod yn briodol arfer pŵer o dan yr adran hon er gwaethaf y ffaith nad yw Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pŵer o dan adran 28 er mwyn cynorthwyo'r awdurdod i gydymffurfio â'r gofynion hynny; neu
c
bod—
i
yr awdurdod yn methu, neu'n debyg o fethu, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y Rhan hon;
ii
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu eu bod am arfer eu pŵer o dan adran 28 er mwyn cynorthwyo'r awdurdod i gydymffurfio â'r gofynion hynny; a
iii
y pŵer o dan adran 28 yn methu â chael ei arfer yn effeithiol oherwydd bod yr awdurdod wedi methu â chydweithredu â Gweinidogion Cymru.
2
Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru ei gyfarwyddo i wneud y cyfan neu unrhyw rai o'r canlynol—
a
paratoi neu ddiwygio cynllun gwella neu ddilyn gweithdrefnau penodedig mewn perthynas â chynllun o'r fath;
b
cynnal adolygiad o'r modd y mae'n arfer swyddogaethau penodedig;
c
ymrwymo i drefniadau cydlafurio penodedig gydag awdurdod gwella Cymreig arall;
d
gosod amcanion gwella penodedig iddo'i hun o dan adran 3.
3
Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal i'r modd y mae swyddogaethau penodol awdurdod yn cael eu harfer.
4
Bydd is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (ymchwiliadau) yn gymwys o ran ymchwiliad y mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo ei gynnal o dan yr adran hon yn yr un modd ag y mae'r is-adrannau hynny'n gymwys o ran ymchwiliad y perir iddo gael ei gynnal o dan yr adran honno.
5
Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod i gymryd unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon.
6
Pan fo'r adran hon yn gymwys o ran awdurdod gwella Cymreig, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo—
a
bod rhaid i swyddogaeth benodedig sydd gan yr awdurdod gael ei harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebwyd ganddynt am gyfnod sydd wedi ei bennu yn y cyfarwyddyd, neu cyhyd ag y bydd Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn briodol; a
b
bod rhaid i'r awdurdod gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebwyd ganddynt mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth honno, a bod rhaid iddo roi unrhyw gymorth y bydd ar Weinidogion Cymru neu berson a enwebwyd ganddynt ei angen er mwyn arfer y swyddogaeth.
7
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth—
a
sy'n ymwneud â deddfiad sy'n rhoi swyddogaeth iddynt mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau awdurdod gwella Cymreig; a
b
y maent yn credu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion achosion lle maent yn gwneud cyfarwyddyd o dan is-adran (6)(a).
8
Caiff rheoliadau o dan is-adran (7), mewn perthynas â'r achosion sydd wedi eu crybwyll yn is-adran (6)(b)—
a
datgymhwyso neu addasu deddfiad o'r math sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (7)(a);
b
cael effaith sy'n debyg i effaith deddfiad o'r math hwnnw.
9
Bydd cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon yn gyfarwyddyd—
a
y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru;
b
y gall Gweinidogion Cymru ei gyhoeddi yn ei gyfanrwydd neu gyhoeddi rhan ohono.
30Pwerau cyfarwyddo: trefniadau cydlafurio
1
Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod gwella Cymreig nad yw adran 29 yn gymwys iddo.
2
Ar ôl iddynt ymgynghori'n gyntaf â'r awdurdod, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod i ymrwymo i drefniadau cydlafurio penodedig gydag awdurdod gwella Cymreig y mae adran 29 yn gymwys iddo.
3
Bydd cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru.
31Pŵer Gweinidogion Cymru i addasu deddfiadau a rhoi pwerau newydd
1
Os bydd Gweinidogion Cymru yn meddwl bod deddfiad yn atal neu'n rhwystro awdurdodau gwella Cymreig rhag cydymffurfio â gofynion y Rhan hon, caniateir iddynt drwy orchymyn wneud darpariaeth sy'n addasu neu'n eithrio'r modd y mae'r deddfiad yn gymwys mewn perthynas â'r canlynol—
a
pob awdurdod gwella Cymreig;
b
awdurdodau gwella Cymreig penodol; neu
c
disgrifiadau penodol o awdurdod gwella Cymreig.
2
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth sy'n rhoi—
a
i bob awdurdod gwella Cymreig;
b
i awdurdodau gwella Cymreig penodol; neu
c
i ddisgrifiadau penodol o awdurdod gwella Cymreig,
unrhyw bŵer y maent yn credu ei fod yn angenrheidiol neu'n hwylus i ganiatáu neu hwyluso cydymffurfedd â gofynion y Rhan hon.
3
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
a
gosod amodau ar y modd y mae unrhyw bŵer a roddir gan y gorchymyn (gan gynnwys amodau am ymgynghori neu gymeradwyo) yn cael ei arfer;
b
diwygio deddfiad.
4
Wrth arfer pŵer a roddir o dan is-adran (2), rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
5
Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Ddehongli 1978).
32Gorchmynion o dan adran 31: y weithdrefn
1
Cyn bod Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 31, rhaid iddynt ymgynghori ag unrhyw awdurdodau neu bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau yr effeithir arnynt gan gynigion Gweinidogion Cymru.
2
Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori o dan is-adran (1), yn cynnig gwneud gorchymyn o dan adran 31, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen sy'n esbonio eu cynigion ac, yn benodol—
a
sy'n gosod eu cynigion ar ffurf gorchymyn drafft; a
b
sy'n rhoi manylion yr ymgynghori o dan is-adran (1).
3
Pan fo dogfen sy'n ymwneud â chynigion yn cael ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2), rhaid i ddrafft o orchymyn o dan adran 31 i roi effaith i'r cynigion (gydag addasiadau neu hebddynt) beidio â chael ei osod gerbron y Cynulliad tan ar ôl i'r cyfnod o drigain niwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd y ddogfen ei gosod ddirwyn i ben.
4
Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (3), rhaid peidio ag ystyried unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.
5
Wrth baratoi gorchymyn drafft o dan adran 31 rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (3).
6
Ynghyd â gorchymyn drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 50(6), rhaid bod datganiad gan Weinidogion Cymru sy'n rhoi manylion—
a
unrhyw sylwadau a ystyriwyd yn unol ag is-adran (5), a
b
unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a oedd wedi'u cynnwys yn y ddogfen a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2) uchod.
7
Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gymwys i orchymyn o dan adran 31 sydd wedi'i wneud yn unswydd at y diben sydd wedi ei grybwyll yn adran 50(7).
Amrywiol ac atodol
33Rhannu gwybodaeth
1
At ddibenion yr adran hon, ystyr y “grŵp rhannu gwybodaeth” yw'r rheoleiddwyr perthnasol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
2
Caiff aelod o'r grŵp rhannu gwybodaeth ofyn, at ddibenion arfer ei swyddogaethau perthnasol, i aelod arall o'r grŵp ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau penodedig iddo.
3
Rhaid i aelod o'r grŵp rhannu gwybodaeth gydymffurfio â chais a wneir o dan is-adran (2) i'r graddau—
a
y mae'r cais yn ymwneud â gwybodaeth a gafodd yr aelod, neu ddogfennau a ddangoswyd i'r aelod hwnnw, wrth iddo arfer ei swyddogaethau perthnasol; a
b
y mae'n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
4
Y canlynol yw swyddogaethau perthnasol aelod o'r grŵp rhannu gwybodaeth—
a
yn achos rheoleiddiwr perthnasol, ei swyddogaethau perthnasol o dan adran 16;
b
yn achos Archwilydd Cyffredinol Cymru, y swyddogaethau sydd wedi'u crybwyll yn adran 23(7).
34Y modd y mae gwybodaeth i'w defnyddio gan reoleiddwyr
Caiff rheoleiddiwr perthnasol ddefnyddio unrhyw wybodaeth y mae'n ei chael, neu ddogfennau a ddangoswyd i'r rheoleiddiwr, wrth arfer unrhyw swyddogaeth berthnasol at ddibenion swyddogaethau'r rheoleiddiwr o dan y Mesur hwn.
35Rhan 1: dehongli
1
At ddibenion y Rhan hon—
mae i'r ymadrodd “arolygiad arbennig” (“special inspection”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 21;
mae i'r ymadrodd “awdurdod gwella Cymreig” (“Welsh improvement authority”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 1;
mae i'r ymadrodd “awdurdod tân ac achub Cymreig” (“Welsh fire and rescue authority”) yr ystyr a roddwyd iddo gan adran 1(c);
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw blwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill;
ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw'r cynllun y cyfeiriwyd ato yn adran 15(6);
mae i'r ymadrodd “pwerau cydlafurio” (“powers of collaboration”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 11(1);
ystyr “rheoleiddiwr perthnasol” (“relevant regulator”) yw person a grybwyllwyd yn adran 16(2);
ystyr “swyddogaethau perthnasol” (“relevant functions”), mewn perthynas â rheoleiddiwr perthnasol, yw'r swyddogaethau a bennwyd mewn cysylltiad â'r rheoleiddiwr yn adran 16(2);
ystyr “trefniadau cydlafurio” (“collaboration arrangements”) yw gweithgaredd a gyflawnir wrth arfer pwerau cydlafurio awdurdod gwella Cymreig.
2
At ddibenion y Rhan hon, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad at awdurdod gwella Cymreig yn arfer swyddogaeth yn cynnwys cyfeiriad at gyflawni gweithredoedd cysylltiedig (megis gwneud trefniadau gweinyddol).
36Cyllid
1
Mae adran 33 o Deddf Llywodraeth Leol 1999 (cyllid) wedi'i diwygio fel a ganlyn.
2
Yn is-adran (3)—
a
rhowch “Welsh Ministers” yn lle “National Assembly for Wales”;
b
ar ddiwedd paragraff (b), ychwanegwch “or the Local Government (Wales) Measure 2009”.