RHAN 2STRATEGAETHAU CYMUNEDOL A CHYNLLUNIO CYMUNEDOL

Gweinidogion Cymru

45Cynllunio cymunedol etc: canllawiau

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch—

(a)

unrhyw agwedd ar gynllunio cymunedol;

(b)

llunio ac adolygu strategaethau cymunedol;

(c)

dyletswyddau awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol o dan adrannau 42 i 44.

(2)

Rhaid i awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

46Cynllunio cymunedol etc: rôl Gweinidogion Cymru

Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer unrhyw swyddogaeth a all effeithio ar gynllunio cymunedol anelu, cyhyd â'i bod yn rhesymol ymarferol i wneud hynny, at hyrwyddo ac annog cynllunio cymunedol.