(cyflwynwyd gan adran 51(3))

ATODLEN 3DARPARIAETH DROSIANNOL AC ARBEDION

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)

1Mae'r diwygiadau a wneir i adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 gan baragraff 2 o Atodlen 2 i'r Mesur hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraff 2 isod.

2Nid yw'r diwygiadau'n gymwys i awdurdod lleol hyd onid yw'r awdurdod wedi cyhoeddi strategaeth gymunedol o dan adran 39(4) o'r Mesur hwn.

Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5)

3Mae'r diwygiadau a wneir i adran 62 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 gan baragraffau 4 i 6 o Atodlen 2 i'r Mesur hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a ganlyn.

4Mewn perthynas ag awdurdod cynllunio lleol sy'n gyngor sir neu'n gyngor bwrdeistref sirol, nid yw'r diwygiadau'n gymwys hyd onid yw'r awdurdod wedi cyhoeddi strategaeth gymunedol o dan adran 39(4) o'r Mesur hwn.

5Er nad yw'r diwygiadau'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4, mae adran 62 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn cael effaith fel pe bai'r geiriau canlynol wedi'u mewnosod ar ddiwedd is-adran (7)—

at the date on which paragraphs 4 to 6 of Schedule 2 to the Local Government (Wales) Measure 2009 came into force.

6Mewn perthynas ag awdurdod cynllunio lleol sy'n awdurdod Parc Cenedlaethol, nid yw'r diwygiadau'n gymwys hyd onid yw pob cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, y mae ei ardal yn cynnwys unrhyw ran o ardal yr awdurdod Parc Cenedlaethol, wedi cyhoeddi strategaeth gymunedol o dan adran 39(4) o'r Mesur hwn.

7Er nad yw'r diwygiadau'n gymwys yn rhinwedd paragraff 6, mae adran 62 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn cael effaith fel pe bai'r paragraff isod yn cael ei roi yn lle paragraff (e) o is-adran (5)—

(e)the community strategy prepared under section 4 of the Local Government Act 2000 (at the date on which paragraphs 4 to 6 of Schedule 2 to the Local Government (Wales) Measure 2009 came into force) by any other authority whose area comprises any part of the area of the local planning authority or, where such an authority has published a community strategy under section 39(4) of the Local Government (Wales) Measure 2009, that strategy;.

Strategaethau Cymunedol a lunnir o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000

8Mewn perthynas â chyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, mae adran 4 o'r Mesur hwn yn cael effaith fel a ddisgrifir ym mharagraff 9 hyd onid yw'r cyngor wedi cyhoeddi strategaeth gymunedol o dan adran 39(4) o'r Mesur hwn.

9Yn lle paragraff (a) o is-adran (3) rhodder —

in the case of a county council or county borough council, any objectives contained in the council’s community strategy under section 4 of the Local Government Act 2000 at the date on which this section came into force;.