At ddibenion y Mesur hwn, mae “awdurdod gwella Cymreig”—
(a)yn gyngor sir neu'n gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(b)yn awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru; neu
(c)yn awdurdod tân ac achub Cymreig sy'n awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I2A. 1 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(a)