RHAN 1LL+CGWELLA LLYWODRAETH LEOL

Cydlafurio a gwellaLL+C

10Awdurdodau tân ac achub: pwerau dirprwyoLL+C

(1)Er mwyn i awdurdod tân ac achub Cymreig gyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) neu er mwyn ei gwneud yn hwylus iddynt gael eu cyflawni, bydd adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (trefniadau ar gyfer y modd y mae swyddogaethau i'w cyflawni gan awdurdodau lleol) yn cael effaith fel petai'r awdurdod yn awdurdod lleol at ddibenion yr adran honno.

(2)Nid yw'r adran hon yn lleihau neu estyn effaith unrhyw bwer arall sydd gan awdurdod tân ac achub Cymreig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 10 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2