18Asesiadau gwellaLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal asesiad er mwyn penderfynu a yw awdurdod gwella Cymreig yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod y flwyddyn honno.
(2)Ynghyd ag asesiad o dan is-adran (1), caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal asesiad er mwyn penderfynu a yw'r awdurdod gwella Cymreig yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod blynyddoedd ariannol dilynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I2A. 18 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2