RHAN 1GWELLA LLYWODRAETH LEOL

Archwiliadau ac asesiadau gwella

19Adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu

1

Bob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ddyroddi mewn cysylltiad â phob awdurdod gwella Cymreig adroddiad neu adroddiadau—

a

sy'n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal archwiliad o dan adran 17 mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol flaenorol;

b

sy'n datgan a yw'r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i'r archwiliad, yn credu—

i

bod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (7); a

ii

bod yr awdurdod wedi gweithredu'n unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);

c

sy'n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal asesiad o dan adran 18 mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol;

d

sy'n disgrifio i ba raddau y mae gwybodaeth a dogfennau a ddarparwyd i'r Archwilydd Cyffredinol o dan adran 33 wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth gynnal yr asesiad hwnnw;

e

sy'n datgan a yw'r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i'r asesiad, yn credu bod yr awdurdod yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod y flwyddyn ariannol;

f

sy'n argymell, os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, gamau y dylai'r awdurdod eu cymryd er mwyn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon neu weithredu'n unol â chanllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8) (p'un ai mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol honno neu flwyddyn ariannol ddiweddarach);

g

sy'n argymell, os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, y dylai Gweinidogion Cymru—

i

rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pŵer o dan adran 28;

ii

rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29 ac, os felly, y math o gyfarwyddyd;

h

sy'n datgan, yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, a yw'r Archwilydd Cyffredinol o blaid cynnal arolygiad arbennig o dan adran 21.

2

Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol anfon copi o unrhyw adroddiad a ddyroddir o dan yr adran hon i'r awdurdod o dan sylw ac at Weinidogion Cymru.

3

Rhaid i gopïau o adroddiad gael eu hanfon yn unol ag is-adran (2)—

a

erbyn 30 Tachwedd yn ystod y flwyddyn ariannol y cafodd yr archwiliad ei gynnal ynddi neu y mae'r asesiad yn ymwneud â hi; neu

b

erbyn unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

4

Ond caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, bennu dyddiad ar gyfer anfon adroddiad mewn perthynas ag awdurdod gwella Cymreig penodedig sy'n wahanol i'r dyddiad a fyddai'n gymwys fel arall o dan is-adran (3)—

a

os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gwneud cais am i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddydd o'r fath; a

b

os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod yr amgylchiadau'n eithriadol.