Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

19Adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Bob blwyddyn ariannol, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ddyroddi mewn cysylltiad â phob awdurdod gwella Cymreig adroddiad neu adroddiadau—

(a)sy'n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal archwiliad o dan adran 17 mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol flaenorol;

(b)sy'n datgan a yw'r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i'r archwiliad, yn credu—

(i)bod yr awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(1) i (7); a

(ii)bod yr awdurdod wedi gweithredu'n unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8);

(c)sy'n ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal asesiad o dan adran 18 mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol;

(d)sy'n disgrifio i ba raddau y mae gwybodaeth a dogfennau a ddarparwyd i'r Archwilydd Cyffredinol o dan adran 33 wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth gynnal yr asesiad hwnnw;

(e)sy'n datgan a yw'r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i'r asesiad, yn credu bod yr awdurdod yn debyg o gydymffurfio â gofynion y Rhan hon yn ystod y flwyddyn ariannol;

(f)sy'n argymell, os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, gamau y dylai'r awdurdod eu cymryd er mwyn cydymffurfio â gofynion y Rhan hon neu weithredu'n unol â chanllawiau a ddyroddwyd o dan adran 15(8) (p'un ai mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol honno neu flwyddyn ariannol ddiweddarach);

(g)sy'n argymell, os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, y dylai Gweinidogion Cymru—

(i)rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pŵer o dan adran 28;

(ii)rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29 ac, os felly, y math o gyfarwyddyd;

(h)sy'n datgan, yng ngoleuni unrhyw archwiliad neu asesiad, a yw'r Archwilydd Cyffredinol o blaid cynnal arolygiad arbennig o dan adran 21.

(2)Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol anfon copi o unrhyw adroddiad a ddyroddir o dan yr adran hon i'r awdurdod o dan sylw ac at Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i gopïau o adroddiad gael eu hanfon yn unol ag is-adran (2)—

(a)erbyn 30 Tachwedd yn ystod y flwyddyn ariannol y cafodd yr archwiliad ei gynnal ynddi neu y mae'r asesiad yn ymwneud â hi; neu

(b)erbyn unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(4)Ond caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, bennu dyddiad ar gyfer anfon adroddiad mewn perthynas ag awdurdod gwella Cymreig penodedig sy'n wahanol i'r dyddiad a fyddai'n gymwys fel arall o dan is-adran (3)—

(a)os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gwneud cais am i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddydd o'r fath; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod yr amgylchiadau'n eithriadol.