Search Legislation

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 25

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, Adran 25 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 08 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

25Datganiad o arferLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru baratoi datganiad o arfer sy'n disgrifio'r ffordd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn is-adran (4).

(2)Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—

(a)adolygu'r datganiad; a

(b)os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol ar ôl adolygiad, paratoi datganiad o arfer diwygiedig.

(3)Rhaid i'r datganiad o arfer gydweddu â'r egwyddorion a ddisgrifir yn is-adran (5).

(4)Y swyddogaethau yw'r rhai a roddir i'r Archwilydd Cyffredinol gan—

(a)adran 17 (gwybodaeth am welliannau a chynllunio gwelliannau: archwilio);

(b)adran 18 (asesiadau gwella);

(c)adran 19 (adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu);

F1(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(e)adran 24 (adroddiadau gwella blynyddol).

(5)Yr egwyddorion yw—

(a)y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru fod yn gyson yn y modd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau ymhlith gwahanol awdurdodau gwella Cymreig;

F2(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)ei bod yn ddymunol bod swyddogaethau perthnasol y rheoleiddwyr perthnasol a swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol a ddisgrifir yn adran 23(7) yn cael eu harfer yn gymesur er mwyn peidio â gosod baich afresymol ar awdurdodau gwella Cymreig;

(d)y dylai'r swyddogaethau yn is-adran (4) gael eu harfer gyda golwg ar gynorthwyo awdurdodau gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(6)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru anfon copi o ddatganiad neu ddatganiad diwygiedig a baratowyd o dan is-adran (1) at Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo.

(7)Os caiff y datganiad neu'r datganiad diwygiedig ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi'r datganiad neu'r datganiad diwygiedig.

(8)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi sylw i'r datganiad a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-adran (7) wrth arfer y swyddogaethau a ddisgrifiwyd yn is-adran (4).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 25 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(j)

Back to top

Options/Help