RHAN 1LL+CGWELLA LLYWODRAETH LEOL

Gweinidogion CymruLL+C

28Gweinidogion Cymru: cymorth i awdurdodau gwella CymreigLL+C

(1)Os ydynt wedi cydymffurfio ag is-adran (3), caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent o'r farn ei fod yn debyg o gynorthwyo awdurdod gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.

(2)Mae'r pŵer o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer—

(a)i ymrwymo i drefniadau neu gytundebau gydag unrhyw berson;

(b)i gydweithredu gydag unrhyw berson, neu i hwyluso neu gydlynu gweithgareddau'r person hwnnw;

(c)i arfer ar ran unrhyw berson unrhyw un o swyddogaethau'r person hwnnw;

(d)i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson.

(3)Onid ydynt yn arfer y pŵer o dan is-adran (1) mewn ymateb i gais a wneir o dan is- adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn arfer y pŵer hwnnw, ymgynghori â—

(a)yr awdurdod gwella Cymreig neu'r awdurdodau gwella Cymreig y maent yn bwriadu ei gynorthwyo neu eu cynorthwyo wrth arfer y pŵer; a

(b)y personau hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru mai hwy yw'r prif randdeiliaid yr effeithir arnynt wrth arfer y pŵer y cyfeirir ato yn is-adran (1).

(4)Os yw awdurdod gwella Cymreig yn gofyn iddynt wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bwyso a mesur a ddylent arfer eu pŵer o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 28 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 28 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2