31Pŵer Gweinidogion Cymru i addasu deddfiadau a rhoi pwerau newyddLL+C
(1)Os bydd Gweinidogion Cymru yn meddwl bod deddfiad yn atal neu'n rhwystro awdurdodau gwella Cymreig rhag cydymffurfio â gofynion y Rhan hon, caniateir iddynt drwy orchymyn wneud darpariaeth sy'n addasu neu'n eithrio'r modd y mae'r deddfiad yn gymwys mewn perthynas â'r canlynol—
(a)pob awdurdod gwella Cymreig;
(b)awdurdodau gwella Cymreig penodol; neu
(c)disgrifiadau penodol o awdurdod gwella Cymreig.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth sy'n rhoi—
(a)i bob awdurdod gwella Cymreig;
(b)i awdurdodau gwella Cymreig penodol; neu
(c)i ddisgrifiadau penodol o awdurdod gwella Cymreig,
unrhyw bŵer y maent yn credu ei fod yn angenrheidiol neu'n hwylus i ganiatáu neu hwyluso cydymffurfedd â gofynion y Rhan hon.
(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
(a)gosod amodau ar y modd y mae unrhyw bŵer a roddir gan y gorchymyn (gan gynnwys amodau am ymgynghori neu gymeradwyo) yn cael ei arfer;
(b)diwygio deddfiad.
(4)Wrth arfer pŵer a roddir o dan is-adran (2), rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
(5)Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Ddehongli 1978).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 31 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I2A. 31 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(k)